Nerth Gwlad, ei gwybodaeth: Pam mae Partneriaethau Cydweithredol yn Hanfodol
Gan Ceri Hadler, Uwch Reolwr — Ebrill 2026
Yng Nghymru, rydym yn llywio tirwedd gymhleth: prinder parhaus mewn rhai pynciau allweddol uwchradd, yr angen i amrywio’r proffesiwn, a’r brys i gryfhau darpariaeth cyfrwng Cymraeg.
Pan fo’r naratif cyhoeddus yn cael ei ddominyddu gan benawdau am lwyth gwaith, ymddygiad, pwysau ariannol, newid polisi a chyflogau cychwynnol isel, nid yw’n syndod fod denu darpar athrawon yn heriol. Yn erbyn y cefndir hwn, ni ddylai’r cwestiwn bellach fod sut mae darparwyr yn recriwtio mwy o athrawon, ond sut y gallwn ni, ar y cyd, adeiladu cymuned sy’n gwerthfawrogi, yn cefnogi ac yn buddsoddi yn nyfodol athrawon.
Mae cenhadaeth genedlaethol Cymru yn galw am ymrwymiad system gyfan i degwch, lles ac addysgu o safon uchel, wedi’i seilio ar y Cwricwlwm i Gymru. Mae cyflawni hyn yn dibynnu ar weithlu addysgu cryf a chynaliadwy, gan wneud yn glir fod recriwtio yng Nghymru yn ymdrech gydgysylltiedig.
Mae Meini Prawf Achredu AGA yn gosod disgwyliadau clir ar gyfer partneriaeth ysgol/prifysgol, ond mae’r dirwedd ehangach yn bwysig hefyd. Ni all cydweithio aros yn air gwag; rhaid iddo fod yn sylfaen ar gyfer denu a chynnal athrawon newydd. Mae hyn wrth wraidd dull y Bartneriaeth AGA y Brifysgol Agored.
Am flynyddoedd, roedd recriwtio’n dibynnu ar farchnata, ymgyrchoedd a llwybrau ceisio a arweiniwyd gan brifysgolion neu’r llywodraeth. Mae’r rhain yn parhau i fod yn bwysig, ond nid ydynt bellach yn ddigonol ar eu pennau eu hunain.
Mae ymgeiswyr heddiw’n dymuno cael cipolwg dilys ar addysgu, llwybrau cynnydd clir, a llwybrau hyblyg sy’n gyfeillgar i deuluoedd. Maent hefyd yn disgwyl cyflogau cystadleuol a chefnogaeth gyson.
Rhaid i ni gydnabod nad yw ymgeiswyr yn dewis cwrs yn unig; maent yn dewis proffesiwn. Os ydym am iddynt nid yn unig ddod i addysgu ond aros ynddo, rhaid i’r proffesiwn hwnnw gael ei werthfawrogi a’i barchu’n weladwy. Rhaid deall addysgu fel gyrfa hanfodol o statws uchel.
Athrawon sy’n siapio dyfodol ein meddygon, gwyddonwyr, artistiaid, peirianwyr ac arweinwyr cymunedol. Mae gan bob un ohonom etifeddiaeth athro y bu ei ddylanwad yn ymestyn ymhell y tu hwnt i’r ystafell ddosbarth. Felly, rhaid i ddenu athrawon y dyfodol fod yn genhadaeth ar y cyd ar draws y proffesiynau. Drwy fuddsoddi mewn athrawon, rydym yn buddsoddi yn gweithlu’r dyfodol i Gymru ym mhob sector ac ym mhob cymuned.
Mewn Addysg Gychwynnol Athrawon, mae partneriaethau cryf yn gonglfaen recriwtio cynaliadwy. Mae cydweithio ag ysgolion partner ac awdurdodau lleol yn dod â mewnwelediad lleol hanfodol ac ymatebolrwydd, tra bo ymgysylltu â’r llywodraeth yn darparu cyfeiriad strategol cenedlaethol.
Ond ni all denu athrawon fod yn gyfrifoldeb rhanddeiliaid addysgol yn unig. Mae gan sefydliadau cymunedol a’r trydydd sector rôl hanfodol wrth ehangu mynediad a chyrraedd cynulleidfaoedd newydd, a chefnogi blaenoriaethau cenedlaethol megis Cymraeg 2050 a Chymru Wrth-hiliol. Mae eu cyfranogiad yn helpu i sicrhau bod y gweithlu addysgu yn adlewyrchu’r cymunedau y mae’n eu gwasanaethu.
Mae partneriaethau cryf yn gwneud mwy na chynyddu niferoedd ceisiadau; maent yn amrywio’r proffesiwn. Mae buddsoddi mewn recriwtio athrawon yn fuddsoddiad yn nyfodol Cymru. Teimlir ei effaith nid yn unig mewn ystafelloedd dosbarth, ond ar draws cymunedau a chenedlaethau.
Os ydym o ddifrif am ddenu athrawon, rhaid inni gryfhau cysylltiadau ar draws sectorau. Cyfrifoldeb cenedlaethol yw recriwtio, nid tasg i bartneriaethau prifysgol yn unig. Mae addysg yn cysylltu cymunedau, gwasanaethau cyhoeddus, iaith, diwylliant a hunaniaeth.
Drwy barhau i fuddsoddi mewn cydweithio, gallwn sicrhau bod addysgu’n parhau’n weladwy, yn hygyrch ac yn cael ei werthfawrogi. Mae hyn yn gofyn am gysondeb, atebolrwydd, a pharodrwydd i weithio y tu hwnt i ffiniau sefydliadol.
Oherwydd, fel cenedl, nerth gwlad yw ei gwybodaeth.