Ymchwil

Athrawes a disgyblion yn cydweithio ar weithgaredd gwyddoniaeth.

Ymchwil ar waith

Darganfyddwch yr ymchwil sy’n llywio addysg athrawon a dysgu proffesiynol ar draws Partneriaeth Addysg Gychwynnol Athrawon y Brifysgol Agored yng Nghymru.

Archwiliwch ein prosiectau, porwch ein bwletinau ymchwil a dysgwch am y syniadau a’r profiadau a rennir yng nghynadleddau ein partneriaeth.

Y bwletin ymchwil diweddaraf

Rhifyn 15 · Hydref 2026

Darllenwch y rhifyn diweddaraf, neu porwch rifynnau blaenorol yn yr adran bwletinau ymchwil isod.

Darllen Rhifyn 15 (PDF)

Dewch i adnabod y gymuned ymchwil sy’n cefnogi arfer sy’n seiliedig ar dystiolaeth.

Mae Grŵp Ymchwil Addysg Athrawon ArDdysg yn cefnogi arfer sy’n seiliedig ar dystiolaeth mewn addysg athrawon a dysgu proffesiynol. Mae’n dod ag ymchwilwyr sydd ag ystod o ddiddordebau a phrofiad ymchwil addysgol at ei gilydd.

Archwiliwch ein strategaeth ymchwil a chrynodebau o adolygiadau’r rhaglen.

Dysgwch am ein prosiectau ymchwil a darllenwch yr adroddiadau a’r cyhoeddiadau.

Y Plentyn Hapus 2

2026

Wedi’i hariannu gan Gronfa Datblygu Ymchwil Cyfadran Llesiant, Addysg ac Ieithoedd y Brifysgol Agored, mae’r ymchwil hon yn adeiladu ar astudiaeth Doethuriaeth mewn Addysg (EdD) a ymchwiliodd i hapusrwydd plant yn yr ysgol. Gan ddefnyddio dull cymysg Mosaic (Clark, 2011), mae’r ymchwil yn galluogi plant ifanc i rannu eu profiadau drwy luniadau, paentiadau, ffotograffau a thrafodaethau. Mae’r arteffactau hyn yn rhoi cipolwg gwerthfawr i ymarferwyr ar eu darpariaeth ac ar y ffyrdd y gall yr amgylchedd, yr adnoddau a’r cyfleoedd a gynlluniwyd effeithio ar ddatblygiad emosiynol a hapusrwydd plant.

Datblygu arfer myfyriol mewn Addysg Gychwynnol Athrawon

2024–26

Wedi’i ariannu gan Ganolfan PRAXIS ar gyfer Ysgoloriaeth ac Arloesedd Cyfadran Llesiant, Addysg ac Ieithoedd y Brifysgol Agored, datblygodd y cydweithrediad hwn rhwng addysgwyr athrawon ac athrawon dan hyfforddiant becyn cymorth sy’n cynnwys dau fodel myfyriol newydd i gefnogi arfer myfyriol athrawon dan hyfforddiant.

Darllen adroddiad y prosiect · Papur yn Journal of Education, Innovation and Communication

Archwilio addysgu rhesymu lluosol drwy fesurau

2024–25

Wedi’i ariannu gan Gronfa Datblygu Ymchwil Cyfadran Llesiant, Addysg ac Ieithoedd y Brifysgol Agored, gweithiodd y prosiect ymchwil hwn, sy’n seiliedig ar ddylunio, gydag athrawon a dysgwyr i dreialu, gwerthuso a datblygu tasgau sy’n seiliedig ar fesurau i gefnogi rhesymu lluosol yn yr ysgol gynradd.

Datblygu sgyrsiau proffesiynol

2023–24

Wedi’i ariannu gan Ganolfan PRAXIS Cyfadran Llesiant, Addysg ac Ieithoedd y Brifysgol Agored, rhoddodd yr astudiaeth hon fewnwelediad i’r ‘sgyrsiau proffesiynol’ y mae tiwtoriaid ymarfer yn eu cael gyda myfyrwyr a mentoriaid ysgol.

Darllen adroddiad y prosiect · Papur yn International Journal of Changes in Education

Cefnogi gosod targedau personol ar gyfer athrawon gyrfa gynnar

2023–24

Mewn partneriaeth ag Ysgol Nantgwyn ac wedi’i ariannu gan Gonsortiwm Canolbarth y De, datblygodd y prosiect ymchwil cyfranogol hwn fframwaith cydweithredol ar gyfer athrawon gyrfa gynnar i gefnogi gosod targedau personol.

ZEST – Hyfforddiant Addysg yn yr Ysgol yn Zambia

2023–24

Mewn cydweithrediad â World Vision ac wedi’i ariannu gan Lywodraeth yr Alban, archwiliodd prosiect ymchwil weithredu gydag athrawon yn Zambia eu myfyrdodau ar ddefnyddio dulliau addysgu a dysgu gweithredol ZEST.

Papur yn Journal of Learning for Development

Defnyddio technoleg fideo i fyfyrio ar wersi

2022–23

Wedi’i ariannu gan Ganolfan PRAXIS Cyfadran Llesiant, Addysg ac Ieithoedd y Brifysgol Agored, rhoddodd yr astudiaeth hon fewnwelediad i fanteision a heriau defnyddio technoleg fideo mewn gwersi. Mae banc o adnoddau a grëwyd gan y prosiect yn cefnogi ysgolion partner ac athrawon dan hyfforddiant.

Darllen adroddiad y prosiect

Mentora effeithiol mewn Addysg Gychwynnol Athrawon: Beth sy’n gweithio a pham

2021–22

Wedi’i ariannu gan Ganolfan PRAXIS Cyfadran Llesiant, Addysg ac Ieithoedd y Brifysgol Agored, defnyddiodd yr ymchwil hon arteffactau i archwilio dulliau mentora ar draws Partneriaeth Addysg Gychwynnol Athrawon y Brifysgol Agored.

Mae casgliad o astudiaethau achos yn dangos dulliau mewn gwahanol gyd-destunau ysgol.

Tiwtoriaid Ymarfer TAR – rhagdybiaethau, canfyddiadau a realiti

2021

Wedi’i ariannu gan Ganolfan PRAXIS Cyfadran Llesiant, Addysg ac Ieithoedd y Brifysgol Agored, archwiliodd yr astudiaeth hon sut mae tiwtoriaid ymarfer y rhaglen TAR yng Nghymru yn deall ac yn cyflawni eu rôl.

Darllen adroddiad llawn y prosiect