Mae’r llwybr cyflogedig ar gael ar gyfer llwybrau cynradd ac uwchradd.
Ar lefel uwchradd, gall myfyrwyr arbenigo mewn ystod o bynciau gan gynnwys:
Mae diweddariadau diweddar i gynllun grant cyflog Llywodraeth Cymru wedi gwneud y llwybr TAR Cyflogedig yn fwy hygyrch nag erioed:
Mae’r llwybr hwn yn cynnig cyfle gwerthfawr i ysgolion gefnogi darpar athrawon tra’n elwa ar staff ychwanegol.
Mae crynodeb gweledol o brif nodweddion y llwybr cyflogedig ar gael yma.
Rhaid i ysgolion fod wedi cofrestru fel Ysgolion Partner i gynnig y llwybr hwn.
Mae ein rhaglen dwy flynedd yn eich galluogi i ennill Tystysgrif Ôl-raddedig mewn Addysg (TAR) gyda Statws Athro Cymwysedig (SAC), tra’n parhau i weithio a byw yn eich cymuned leol.
Mae’r cwrs hyblyg hwn yn cael ei gyflwyno ar-lein ac yn cynnwys:
Mae’r holl gynnwys cwrs ar gael drwy ein Hamgylchedd Dysgu Rhithwir (VLE), sy’n cynnwys:
Byddwch hefyd yn elwa ar gymorth parhaus pwrpasol gan Dîm TAR Cymru, a fydd yn eich arwain drwy gydol eich taith hyfforddi.
Os yw rhywun yn gweithio mewn ysgol wladol brif ffrwd fel cynorthwyydd addysgu neu mewn rôl nad yw’n addysgu, gallant wneud cais i’ch ysgol gefnogi eu hastudiaethau.
I wneud hyn, rhaid i’r ysgol:
Bydd yr ysgol yn gyfrifol am dalu cyflog yr ymgeisydd. Rhaid i’r ymgeisydd gael cytundeb gan yr ysgol cyn gwneud cais.
Byddant yn astudio ar gyfer eu TAR ochr yn ochr â’u dyletswyddau presennol yn yr ysgol fel rhan o gyflogaeth amser llawn. Mae costau astudio wedi’u cynnwys mewn grant hyfforddiant gan Lywodraeth Cymru.
Noder: Ni allwn brosesu cais unigol oni bai bod yr ysgol wedi cyflwyno Llythyr Ardystio.
Gall ysgolion uwchradd fynegi diddordeb mewn cefnogi gweithiwr newydd drwy Lwybr TAR Cyflogedig.
Pynciau ar gael:
Rydym yn helpu paru ymgeiswyr cymwys ag ysgolion sydd â diddordeb. Efallai y gofynnir i ymgeiswyr gwblhau proffil byr i helpu ysgolion asesu addasrwydd.
Nodyn: Mae galw am leoliadau cyflogedig yn aml yn fwy na’r nifer sydd ar gael.
Pwysig: Dim ond ar gyfer llwybr addysgu uwchradd y mae’r llwybr heb gefnogaeth ar gael.
Mae Partneriaeth y Brifysgol Agored yn cynnig strategaethau wedi’u teilwra i gefnogi recriwtio ysgolion uwchradd. Cysylltwch â Tîm TAR Cymru am gymorth.
Mae diweddariadau diweddar wedi gwneud y llwybr TAR Cyflogedig yn fwy hygyrch nag erioed:
Unwaith y bydd ymgeisydd yn llwyddiannus yn y cyfweliad ac yn bodloni’r holl ofynion mynediad, byddant yn dod yn fyfyriwr athro cyflogedig, wedi’i gyflogi’n llawn amser gan ysgol am ddwy flynedd wrth gwblhau eu TAR.
Byddant yn llofnodi contract cyflogaeth newydd gyda’u pennaeth ac yn cael eu talu o leiaf ar Bwynt 1 o Raddfa Gyflog Athrawon Anghymwys. Bydd eu rôl yn cynnwys cyfrifoldebau sy’n gysylltiedig ag addysgu a dysgu, ynghyd ag amser gwarchodedig ar gyfer astudio ar-lein, seminarau, ac ymarfer dysgu TAR. Byddant hefyd yn cwblhau Ail Brofiad Ysgol yn ystod y rhaglen.
Sylwer: Anogir ysgolion yn gryf i ymgynghori â’u hawdurdod lleol ynghylch contractau cyflogaeth, gan nad ydym yn cymryd rhan mewn trefniadau contractiol. Dylai hyfforddeion ac ysgolion hefyd drafod cynlluniau ar gyfer diwedd y cyfnod dwy flynedd neu os bydd tynnu’n ôl yn gynnar o’r rhaglen.
Mae pob myfyriwr athro yn treulio amser yn dysgu mewn lleoliad ysgol—gelwir hyn yn ‘Dysgu Ymarferol’. Mae’n rhan hanfodol o unrhyw gymhwyster TAR yng Nghymru ac mae’n rhaid iddo gydymffurfio â’r rheolau achredu a osodwyd gan Gyngor y Gweithlu Addysg a Llywodraeth Cymru.
Enghreifftiau’n cynnwys:
Tra bydd y myfyriwr yn yr ysgol, bydd yn ymgymryd â gweithgareddau ymarfer dysgu, wedi’u cynllunio i bontio rhwng eu hastudiaeth fodiwl a’u profiadau ysgol. Mae’r Ymarfer Dysgu yn digwydd mewn lleoliad ysgol, gyda chefnogaeth rhaglen fentora sy’n dilyn dull graddol o ddatblygu sgiliau addysgu.
Mae’r Ail Brofiad Ysgol yn ofyniad gorfodol ac yn rhan o lwybr achrededig TAR Cyflogedig Partneriaeth AGA y Brifysgol Agored, y mae’n rhaid i ni lynu ato. Mae’n agwedd fuddiol ar y rhaglen, gan gefnogi’r darpar athro i ddatblygu ei sgiliau ymhellach mewn cyd-destun ysgol gwahanol.
Bydd myfyrwyr ar y llwybr Cyflogedig yn mynychu Ail Profiad Ysgol am gyfnod bloc llawn amser o 25 diwrnod mewn Ysgol Bartner arall yn ystod mis Mehefin a Gorffennaf ym mlwyddyn 1.
Ni allwn, dan amgylchiadau arferol, gefnogi ceisiadau i gwblhau’r ABY ar adeg wahanol. Mae trefnu lleoliadau i ddarpar athrawon yn broses gymhleth ac mae’n rhaid i ni ystyried nifer o agweddau.
Mae ein tîm Partneriaeth yn gweithio’n agos ag ysgolion i feithrin perthnasoedd, deall eu cynlluniau a’u capasiti i gytuno ar leoliadau. Er efallai fod Ysgol Bartner yn agosach at leoliad daearyddol myfyriwr nag ysgol a ddyrannwyd iddynt, nid yw bob amser yn bosibl eu lleoli yno. Gall fod angen i fyfyrwyr deithio hyd at awr, fel sy’n wir i bob myfyriwr athro. Mae’n bwysig iawn nodi nad yw’r Ail Brofiad Ysgol yn drefniant quid pro quo lle mae lleoliadau’n cael eu ‘cyfnewid’.
Bydd myfyrwyr yn astudio amrywiaeth o ddeunyddiau rhyngweithiol ar-lein drwy wefan y Brifysgol Agored. Nid darllen yn unig fydd hyn! Bydd deunyddiau fideo pwrpasol i’w gwylio a gweithgareddau i’w cwblhau wrth fynd ymlaen. Byddwn yn darparu cynllunydd astudio defnyddiol i helpu cadw’r astudiaethau ar y trywydd iawn.
Bydd gan fyfyrwyr fynediad at safle pwnc sy’n rhoi trosolwg o’r TAR ac at safle modiwl i gael mynediad at ddeunyddiau dysgu, sesiynau addysgu ar-lein a’r fforymau trafod. Byddant yn gallu cysylltu â darpar athrawon eraill ledled Cymru i rannu profiadau.
Yn ystod nosweithiau, bydd myfyrwyr yn mynychu seminarau byw ar-lein gyda thiwtor o’r Brifysgol Agored ac yn dysgu ochr yn ochr â chyfoedion ledled Cymru, felly bydd angen cyfrifiadur a chysylltiad rhyngrwyd da arnynt. Disgwylir i fyfyrwyr fynychu’r sesiynau ar-lein yn rheolaidd. Fel arfer, cynhelir sesiynau pwnc bob pythefnos, ond bydd hefyd sesiynau dysgu eraill y bydd gofyn iddynt eu mynychu o bryd i’w gilydd.
Ar gyfer Ysgolion:
Er mwyn cefnogi darpar athro, rhaid i’ch ysgol wneud cais am statws Ysgol Bartner. Cwblhewch y Ffurflen Gais Ysgol Bartner i ddechrau’r broses.
Bydd eich cais yn cael ei adolygu gan y Pwyllgor Partneriaeth, a’u cymeradwyo gan Arweinwyr AGA yr Awdurdodau Lleol.
Os hoffai eich ysgol gymorth gyda recriwtio neu denu athrawon uchelgeisiol, e-bostiwch ni yn TAR-Cymru@open.ac.uk i ofyn am alwad gyda’n tîm.
Ar gyfer Myfyrwyr:
Gwnewch gais am y rhaglen TAR gan ddefnyddio ein ffurflen gais ar-lein: Gwnewch Gais Ar-lein Yma. Os bydd eich cais yn llwyddiannus, cewch wahoddiad i gyfweliad ar-lein.
Sylwer: cynhelir lleoliadau mewn ysgolion prif ffrwd yng Nghymru sydd â statws Ysgol Bartner. Mae rhagor o ganllawiau ar gael yn y ddogfen Cwestiynau Cyffredin.
Darllenwch am ein cymwysterau a’n cyrsiau drwy ofyn am brosbectws heddiw