Mae’r llwybr rhan-amser ar gael ar gyfer llwybrau cynradd ac uwchradd.
Ar lefel uwchradd, gall myfyrwyr arbenigo mewn ystod o bynciau gan gynnwys:
Mae'r TAR rhan-amser gyda SAC yn rhaglen dysgu o bell dwy flynedd wedi'i chynllunio ar gyfer darpar athrawon sydd angen cydbwyso astudio gyda chyfrifoldebau eraill.
Mae ein rhaglen dwy flynedd yn eich galluogi i ennill Tystysgrif Ôl-raddedig mewn Addysg (TAR) gyda Statws Athro Cymwysedig (SAC), tra’n parhau i weithio a byw yn eich cymuned leol.
Mae’r cwrs hyblyg hwn yn cael ei gyflwyno ar-lein ac yn cynnwys:
Mae’r holl gynnwys cwrs ar gael drwy ein Hamgylchedd Dysgu Rhithwir (VLE), sy’n cynnwys:
Byddwch hefyd yn elwa ar gymorth parhaus pwrpasol gan Dîm TAR Cymru, a fydd yn eich arwain drwy gydol eich taith hyfforddi.
Mae’r llwybr hwn yn addas ar gyfer rhai na all ymrwymo i waith llawn amser, rhai sy'n newid gyrfa neu rai nad ydynt yn gweithio mewn ysgolion ar hyn o bryd. Mae myfyrwyr yn cyfuno 2 i 3 diwrnod o ymarfer dysgu mewn ysgol gyda tua 16 awr o astudio wythnosol. Mae’r cwrs yn hunan-ariannol, ond mae benthyciadau myfyrwyr a grantiau cynhaliaeth rhan-amser ar gael.
Mae ymarfer dysgu yn dilyn model astudio dilynol, gyda myfyrwyr yn amrywio rhwng dysgu ar-lein a lleoliadau ysgol. Mae diwrnodau lleoliad yn cynyddu wrth i’r rhaglen fynd yn ei blaen, ac mae disgwyl i fyfyrwyr ddilyn amserlen lawn y diwrnod ysgol.
Mae pob darpar athro yn treulio amser yn dysgu mewn lleoliad ysgol, a elwir gennym yn ‘Ymarfer Dysgu’. Mae hwn yn rhan annatod o unrhyw gymhwyster TAR yng Nghymru ac mae’n rhaid iddo gydymffurfio â’r rheolau achredu a bennir gan y Cyngor Gweithlu Addysg a Llywodraeth Cymru. Enghreifftiau o’r gofynion hyn yw:
Ym Mlwyddyn 1, mae lleoliadau’n yn gallu cael eu cwblhau fel blociau neu eu lledaenu dros yr wythnos. Ym Mlwyddyn 2, mae’n rhaid cwblhau o leiaf 30 o’r 60 diwrnod mewn bloc parhaus i baratoi ar gyfer addysgu llawn amser.
Bydd myfyrwyr yn astudio amrywiaeth o ddeunyddiau rhyngweithiol ar-lein drwy wefan y Brifysgol Agored. Nid darllen yn unig fydd hyn! Bydd deunyddiau fideo pwrpasol i’w gwylio a gweithgareddau i’w cwblhau wrth fynd ymlaen. Byddwn yn darparu cynllunydd astudio defnyddiol i helpu cadw’r astudiaethau ar y trywydd iawn.
Bydd gan fyfyrwyr fynediad at safle pwnc sy’n rhoi trosolwg o’r TAR ac at safle modiwl i gael mynediad at ddeunyddiau dysgu, sesiynau addysgu ar-lein a’r fforymau trafod. Byddant yn gallu cysylltu â darpar athrawon eraill ledled Cymru i rannu profiadau.
Yn ystod nosweithiau, bydd myfyrwyr yn mynychu seminarau byw ar-lein gyda thiwtor o’r Brifysgol Agored ac yn dysgu ochr yn ochr â chyfoedion ledled Cymru, felly bydd angen cyfrifiadur a chysylltiad rhyngrwyd da arnynt. Disgwylir i fyfyrwyr fynychu’r sesiynau ar-lein yn rheolaidd. Cynhelir sesiynau pwnc fel arfer bob pythefnos, ond mae sesiynau dysgu eraill y bydd angen iddynt eu mynychu o bryd i’w gilydd.
Ar gyfer Ysgolion:
Er mwyn cefnogi darpar athro, rhaid i’ch ysgol wneud cais am statws Ysgol Bartner. Cwblhewch y Ffurflen Gais Ysgol Bartner i ddechrau’r broses.
Bydd eich cais yn cael ei adolygu gan y Pwyllgor Partneriaeth, a’u cymeradwyo gan Arweinwyr AGA yr Awdurdodau Lleol.
Os hoffai eich ysgol gymorth gyda recriwtio neu denu athrawon uchelgeisiol, e-bostiwch ni yn TAR-Cymru@open.ac.uk i ofyn am alwad gyda’n tîm.
Ar gyfer Myfyrwyr:
Gwnewch gais am y rhaglen TAR gan ddefnyddio ein ffurflen gais ar-lein: Gwnewch Gais Ar-lein Yma. Os bydd eich cais yn llwyddiannus, cewch wahoddiad i gyfweliad ar-lein.
Sylwer: cynhelir lleoliadau mewn ysgolion prif ffrwd yng Nghymru sydd â statws Ysgol Bartner. Mae rhagor o ganllawiau ar gael yn y ddogfen Cwestiynau Cyffredin.
Darllenwch am ein cymwysterau a’n cyrsiau drwy ofyn am brosbectws heddiw