Mae Partneriaeth TAR y Brifysgol Agored yn rhwydwaith Cymru gyfan o ysgolion, awdurdodau lleol a phartneriaid addysg sy'n cydweithio i ddatblygu'r genhedlaeth nesaf o athrawon.
P'un a ydych yn awyddus i recriwtio aelodau staff y dyfodol, datblygu cydweithwyr presennol neu gryfhau eich cyfraniad at addysg athrawon, mae ein model partneriaeth hyblyg yn galluogi ysgolion o bob maint a chyd-destun i gymryd rhan.
“Mae’n fraint cadeirio Bwrdd TAR y Brifysgol Agored a gweithio gyda thîm mor angerddol. Mae’r rhaglen hon yn arloesol, yn gynhwysol, ac yn paratoi athrawon y dyfodol yn wirioneddol.”
— Richard Hatwood, Pennaeth, Ysgol Gynradd yr Holl Saint
Cefnogwch darpar-athro cyflogedig yn eich ysgol tra'n cael mynediad at grantiau cyflog Llywodraeth Cymru.
Darparwch brofiad addysgu gwerthfawr i ddarpar-athrawon a chefnogwch ddatblygiad gweithlu'r dyfodol.
Cefnogwch ac aseswch fyfyrwyr-athrawon wrth rannu eich arbenigedd a'ch profiad.
Byddwch yn derbyn amryw o hyfforddiant ffurfiol ac anffurfiol gyda'r Bartneriaeth.
Mae ymuno â'r bartneriaeth yn llawer mwy na darparu lleoliadau i ddarpar athrawon. Drwy fod yn rhan o rwydwaith Cymru gyfan y Brifysgol Agored, byddwch yn cyfrannu at ddatblygu addysg athrawon yng Nghymru ac yn helpu i lunio cyfeiriad strategol y rhaglen.
Fel ysgol bartner, byddwch yn cael mynediad at:
Mae'r bartneriaeth yn cynnig cyfle unigryw i ddylanwadu ar addysg athrawon, datblygu eich staff a chryfhau cysylltiadau rhwng ysgolion, ymchwil ac ymarfer.
Mae ein Hysgolion Arweiniol yn chwarae rhan allweddol wrth lunio a chefnogi'r bartneriaeth ledled Cymru:
Oes gennych ddiddordeb mewn ymuno â'r bartneriaeth neu gael rhagor o wybodaeth?
E-bost: [email protected]
Darllenwch am ein cymwysterau a’n cyrsiau drwy ofyn am brosbectws heddiw