Y trydydd sector a gwirfoddolwyr

Dros 50 mlynedd yn ôl, sefydlwyd y Brifysgol Agored fel ‘prifysgol yr awyr’ – lle y gallai pobl weithio tuag at radd os oeddent wedi methu yn gynharach yn eu bywydau. Wrth galon hunaniaeth y Brifysgol Agored mae ei chenhadaeth gymdeithasol i agor addysg a dysgu i fyny i mwy a mwy o bobl ledled Cymru.

Oherwydd y genhadaeth hon y mae gennym berthynas wych ag elusennau a sefydliadau gwirfoddol yng Nghymru, ochr yn ochr â’r cyrff sy’n eu cynrychioli. Drwy ein gwaith gyda’r trydydd sector, rydym wedi gallu creu mwy o lwybrau i addysg ar gyfer pobl nad oeddent efallai wedi meddwl bod hynny’n bosibl, waeth beth fo’u hoedran, cefndir neu anabledd.

Rydym ni'n gwybod sut y gall gwirfoddoli helpu pobl gyrraedd eu potensial. Oherwydd hyn, rydym wedi cefnogi digwyddiadau megis Gwobrau Elusennau Cymru, a gwobrau gwirfoddoli lleol.

Gweithio gyda’r sector

Rydym yn falch o’r gwaith yr ydym yn ei wneud gyda’r trydydd sector. Mae cefnogi cymunedau ledled Cymru yn greiddiol i’n cenhadaeth ddinesig ni. Rydym wedi parhau i ddangos ein cefnogaeth i’r sector drwy ein nawdd i seremonïau gwobrwyo amrywiol dros y blynyddoedd, fel Gwobrau Gwirfoddoli Caerdydd, yn ogystal â bod yn brif noddwr Gwobrau Elusennau Cymru yn 2024 a 2025.

Yn 2025, gwnaethom lofnodi cytundeb partneriaeth gyda Chyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru, fel ymrwymiad i ddod o hyd i gyfleoedd a fyddai o fudd i gymunedau a’r sector gwirfoddoli ehangach yng Nghymru.

‘Mae’r cydweithrediad hwn wedi’i adeiladu ar ymrwymiad ar y cyd i greu cyfleoedd ystyrlon ar gyfer dysgu, gwirfoddoli a datblygiad sector ledled Cymru,’ meddai Darren Jones, cyfarwyddwr cynorthwyol ar gyfer partneriaethau strategol yn y Brifysgol Agored yng Nghymru. ‘Trwy gyfuno cyrhaeddiad cenedlaethol Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru a mewnwelediad i anghenion y sector gwirfoddol gyda’n harbenigedd addysg uwch ac ymchwil, yn enwedig mewn cysylltiad â’r cynulleidfaoedd craidd sy’n cael eu gwasanaethu gan sefydliadau trydydd sector a grwpiau cymunedol ledled Cymru, byddwn yn cydweithio gyda’r nod o gyflawni mynediad gwell i addysg uwch i sefydliadau, cymunedau, unigolion a staff y sector ac archwilio cyfleoedd ymchwil ar y cyd sy'n fuddiol i'r sector.’

Elwa Drwy Wirfoddoli

Rhaglen hyfforddiant wyth wythnos am ddim ar gyfer gwirfoddolwyr yw hon, a grëwyd mewn partneriaeth â Cymorth Trydydd Sector Cymru. Mae partneriaid yn cynnwys Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru a saith o’r Cynghorau Gwirfoddol (CVCs) rhanbarthol, ac mae’n helpu gwirfoddolwyr i wella eu sgiliau proffesiynol a datblygu eu gyrfaoedd gwirfoddoli. Cynhelir y rhaglen ar-lein, felly gallwch ymuno lle bynnag ydych chi yng Nghymru.

Cofrestrwch ar gyfer Elwa drwy Wirfoddoli yma

Fe wnaeth Elwa Drwy Wirfoddoli fy helpu i ddarganfod sgiliau newydd sydd eu hangen arnaf ar gyfer gwirfoddoli ac mae wedi rhoi hyder i mi. Fe wnaeth fy ysbrydoli i astudio am radd gyda'r Brifysgol Agored.

Zaria Gwirfoddolwr yn CYCA, Llanelli

Wedi'i gyflwyno ar Microsoft Teams, mae'r rhaglen yn cynnwys amrywiaeth o weithdai ar-lein wedi'u cynllunio i'ch helpu i gael y gorau o'r adnoddau dysgu ar-lein sydd ar gael trwy blatfform am ddim y Brifysgol Agored, OpenLearn. Mae pynciau'r gweithdai yn cynnwys sgiliau arweinyddiaeth ar gyfer gwirfoddolwyr, sut i wella hyder, goresgyn rhwystrau i ddysgu, ac ymarfer myfyriol. Byddwch hefyd yn cael y cyfle i ddysgu mwy am astudiaeth bellach gyda'r Brifysgol Agored. Yn ystod y rhaglen, cynigir cefnogaeth wyneb yn wyneb ychwanegol gan Gynghorau Gwirfoddol Sirol lle bo modd. Mae'r rhaglen Elwa Drwy Wirfoddoli yn dechrau ar 21 Ebrill 2026, 10am - 11:30am, ac yn rhedeg ar yr un pryd bob wythnos am wyth wythnos tan fis Mehefin.

Hyd yma, rydym wedi helpu dros 105 o wirfoddolwyr i ddatblygu eu sgiliau drwy gwblhau'r cwrs, gydag 82% o gyfranogwyr yn nodi eu bod wedi gweld cymryd rhan yn y rhaglen yn hawdd iawn.

Hyrwyddwyr OpenLearn

Rydym yn helpu gwirfoddolwyr yng Nghymru i gael y gorau o OpenLearn, ein platfform dysgu ar-lein am ddim.

Mae’r hyfforddiant hwn yn dangos ichi sut i basio eich profiad eich hun ar OpenLearn ymlaen i ddysgwyr eraill. Rydym eisoes wedi helpu dros 600 o bobl yng Nghymru i ddod yn Hyrwyddwyr OpenLearn er mwyn cefnogi eu gwirfoddolwyr yn well gyda’r platfform hwn.

Mae OpenLearn yn helpu pobl, p’un a ydynt yn gwirfoddoli neu’n awyddus i barhau â’u haddysg, oherwydd mae’n galluogi pobl i roi cynnig ar bethau gwahanol ac i allu dysgu ynghyd â’u hamserlenni a’u blaenoriaethau personol.

Kailee Cyngor Trydydd Sector Caerdydd

Cysylltwch â [email protected] i ddysgu mwy am ddod yn hyrwyddwr OpenLearn.

Ydych chi’n cefnogi eraill i gyflawni eu hamcanion dysgu neu yrfa? Cymrwch olwg ar ein tudalen Hyrwyddwyr OpenLearn i weld sut y gallwn eich cefnogi chi.

Ein digwyddiadau

Ebr 21

Elwa Drwy Wirfoddoli

-

Ymunwch â’n rhaglen hyfforddiant ar-lein 8 wythnos i helpu sgiliau proffesiynol a datblygu eich gyrfa wirfoddoli.

Meh 17

Gofod3

-

Eleni, rydym yn noddi Gofod3 - y digwyddiad sector gwirfoddol mwyaf o’i fath yng Nghymru. Dewch i’n gweld ar ein stondin, neu cymerwch ran yn ein gweithdy.

Os hoffech gysylltu â ni, anfonwch e-bost atom yn [email protected].