Hyrwyddwyr OpenLearn

Un o’r ffyrdd rydym yn gweithio gyda sefydliadau yng Nghymru yw hyfforddi eu staff i rannu dysgu am ddim gyda’r bobl maent yn gweithio â hwy – yn ogystal â’u cefnogi i allu astudio gyda’r Brifysgol Agored.

Mae Hyrwyddwyr OpenLearn yn rhaglen eiriolaeth rydym yn ei chynnig i sefydliadau partner. Mae yma er mwyn helpu i chwalu'r rhwystrau rhag dysgu drwy helpu pobl i gael dysgu anffurfiol, am ddim. Byddwn yn eich hyfforddi er mwy dangos i sut mae cefnogi pobl i gael y gorau o OpenLearn – ein llwyfan dysgu am ddim, ar-lein, sy'n cynnig dros 1,000 o wahanol adnoddau megis cyrsiau byr, erthyglau, gemau rhyngweithiol a fideos.

Darlun o berson yn gweithio ar liniadur gyda chath ar ei lin

Os ydych yn frwdfrydig ynglŷn â dysgu gydol oes, gall hon fod yn ffordd wych o helpu pobl i:

  • ddatblygu eu sgiliau
  • magu hyder
  • darganfod pethau newydd.

Rydym yn darparu hyfforddiant Hyrwyddwyr OpenLearn dros Gymru i gyd ar draws sectorau, gan gynnwys colegau, elusennau, undebau llafur, darparwyr tai a'r sector sgiliau.

Meddai Kailee Carella o Gyngor Trydydd Sector Caerdydd:

Mae OpenLearn yn helpu pobl, p’un a ydynt yn gwirfoddoli neu’n awyddus i barhau â’u haddysg, oherwydd mae’n galluogi pobl i roi cynnig ar bethau gwahanol ac i allu dysgu ynghyd â’u hamserlenni a blaenoriaethau personol.

Hyrwyddwyr OpenLearn ar gyfer colegau addysg bellach (AB)

Mae Hyfforddiant Hyrwyddwyr OpenLearn ar gyfer colegau AB yn agored i'r holl staff sy'n gweithio gyda myfyrwyr. Bydd y gweithdai'n dangos adnoddau dysgu a chyrsiau ar-lein am ddim er mwyn cefnogi eu rôl a'u datblygiad proffesiynol parhaus eu hunain.

Bydd hefyd yn cynnwys arddangosiad a throsolwg o’r Rhaglen Gyfoethogi Genedlaethol – rhaglen rydym wedi'i datblygu gyda cholegau yng Nghymru er mwyn helpu myfyrwyr i ddatblygu sgiliau a hyder.  

Gallwch ddod o hyd i unrhyw ddigwyddiadau Hyrwyddwyr OpenLearn ar gyfer colegau Addysg Bellach yn y dyfodol yn y rhestr ddigwyddiadau isod.


Cyfleoedd hyfforddi

Gallwch ddod o hyd i'n sesiynau hyfforddi Hyrwyddwyr OpenLearn yn y dyfodol ar ein tudalen digwyddiadau.

 

Cysylltwch â ni i ddod yn hyrwyddwr OpenLearn