Amdanom ni

Y Brifysgol Agored yw darparwr addysg uwch israddedig rhan-amser mwyaf Cymru. Mae'n arwain o ran darparu cyfleoedd dysgu o bell arloesol a hyblyg ar lefel addysg uwch, gan gynnwys cyrsiau israddedig, ôl-raddedig a chyrsiau mynediad.

  • Mae dros 16,000 o fyfyrwyr ledled Cymru yn astudio gyda’r Brifysgol Agored ar hyn o bryd.
  • Mae myfyrwyr Y Brifysgol Agored ym mhob un o etholaethau Senedd Cymru.
  • Mae 2/3 yn gweithio’n rhan/llawn amser wrth iddynt astudio gyda ni.
  • Mae 40% o'n myfyrwyr yn ymuno â ni heb gymwysterau mynediad prifysgol traddodiadol.
  • Mae 48% o’n myfyrwyr yn dod o ardaloedd mwyaf difreintiedig Cymru.

Mae’r Brifysgol Agored yn gweithio gyda busnesau, elusennau a chyrff cyhoeddus yng Nghymru i’w helpu i ddatblygu eu staff, gan annog mwy o bobl i ddysgu gydol oes waeth beth fo’u cefndir. Mae dros 139 o gwmnïau yng Nghymru yn noddi gweithiwr i astudio gyda ni.

Mae’r Brifysgol Agored yng Nghymru yn cynnig rhaglenni gradd galwedigaethol mewn nyrsio a gofal cymdeithasol. Ers 2020, mae’r Brifysgol wedi hyfforddi athrawon ar y cwrs TAR dwyieithog, arloesol. Trwy ei phrentisiaeth gradd mewn Peirianneg Meddalwedd Cymhwysol, mae’r Brifysgol Agored hefyd yn helpu prentisiaid ledled Cymru i hyfforddi ar gyfer gyrfa mewn TG tra byddant yn ennill cyflog.​

Peiriannydd mewn labordy

​Mae platfform dwyieithog OpenLearn Cymru ac OpenLearn Wales yn cynnig adnoddau dysgu cyfrwng Cymraeg a Saesneg am ddim er mwyn annog pobl i ddilyn cyrsiau addysg uwch.

Cydraddoldeb ac Amrywiaeth yn Y Brifysgol Agored yng Nghymru  

Mae cyfiawnder cymdeithasol wrth galon cenhadaeth Y Brifysgol Agored. Rydym yn creu cymuned prifysgol gynhwysol a chymdeithas ble mae pobl yn cael eu trin gydag urddas a pharch, ble mae anghydraddoldebau yn cael eu herio a ble rydym yn rhagweld ac yn ymateb yn gadarnhaol i wahanol anghenion ac amgylchiadau, er mwyn i bawb gyrraedd eu potensial. Ewch i wefan Cydraddoldeb ac Amrywiaeth Y Brifysgol Agored, sy’n cynnwys gwybodaeth am ein Cynllun Cydraddoldeb, ein hamcanion cydraddoldeb sy’n canolbwyntio ar ganlyniadau, ein gwybodaeth ystadegol am gydraddoldeb a’n adroddiad blynyddol.

Request a prospectus

Explore our qualifications and courses by requesting one of our prospectuses today.

Request prospectus