Gweithio gyda'n gilydd

Nurse stood next to an OU banner

Gweithlu Addysgu Cymru

Rydym yn helpu i fynd i'r afael â phrinder staff yn uniongyrchol – gan gynnig llwybrau astudio hyblyg, rhan-amser sy'n galluogi pobl i gymhwyso a symud ymlaen yn eu gyrfaoedd heb adael eu swyddi na'u cymunedau.

Gwirfoddolwr yn helpu rhywun gyda'u hysgrifennu

Elusennau a’r trydydd sector

Rydyn ni eisiau sicrhau bod addysg yn agored i fwy o bobl ledled Cymru. Gyda chymorth elusennau a'r trydydd sector, rydyn ni'n gallu creu mwy o lwybrau at ddygsu.

Pobl yn gwenu mewn swyddfa

Cyflogwyr

Rydym yn gweithio gyda chyflogwyr ac undebau llafur i ddarparu atebion hyblyg, achrededig i wella sgiliau yn y gweithle, fel ein Prentisiaethau Gradd.

Person sy'n gyrru bws

Gweithio gydag undebau llafur

Mae gan y Brifysgol Agored berthynas falch â mudiad yr undebau llafur yng Nghymru. Os ydych chi'n rhan o undeb llafur, edrychwch ar y gefnogaeth y gallwch chi ei chael i'ch helpu i astudio gyda ni.

Myfyrwyr yn gwisgo sbectol amddiffynnol yn gweithio gyda breichiau robotig

Ysgolion a cholegau 

Rydym yn gweithio'n agos gydag ysgolion a cholegau i gynnig cyfleoedd i fyfyrwyr a staff, gan gynnwys ein rhaglen TAR yng Nghymru.

Myfyrwyr wrth ymyl y logo GoCompare

Prentisiaethau Gradd yng Nghymru

Mae ein rhaglen Prentisiaeth Gradd Peirianneg Feddalwedd Gymhwysol yn darparu prentisiaid â'r wybodaeth a'r sgiliau i ddod yn weithiwr proffesiynol peirianneg feddalwedd.

Athro yn siarad â dosbarth

Partneriaeth AGA Y Brifysgol Agored

Mae ein rhaglen yn cefnogi myfyrwyr ac ysgolion ar draws Cymru, gan gynnig llwybr newydd at ddod yn athro.

Grŵp cymunedol ar gyfer prosiect REACH Cymru

Ein cenhadaeth ddinesig

Yn y Brifysgol Agored yng Nghymru, rydym am sicrhau bod ein gwaith yn gwneud gwahaniaeth i bobl, cymdeithas a'n planed. Rydym yn galw hyn yn genhadaeth ddinesig.

Graffeg ar gyfer gwefan OpenLearn Cymru

Dysgu ar-lein am ddim

Does dim bwys os oes gennych ddiddordeb mewn celf neu sŵoleg, neu os oes gennych bum munud neu 50 awr. Mae gennym amrywiaeth sylweddol o ddysgu ar-lein i chi ei archwilio.