Mae gan y Brifysgol Agored berthynas falch gydag undebau llafur yng Nghymru. Am sawl blwyddyn, rydym wedi gweithio gydag undebau i helpu eu haelodau i ddod o hyd i ddysgu gydol oes, cynllunio eu gyrfaoedd a datblygu sgiliau newydd.
Os ydych yn weithiwr yng Nghymru, cewch wneud cais i gronfa dysgu undebau Cymru i gefnogi eich astudiaethau. Gellir defnyddio’r gronfa tuag at ficro-gymwysterau’r Brifysgol Agored, neu/a chwrs Mynediad, a all weithiau fod y cam cyntaf tuag at astudio am radd.
.png)
Mae Barod am y Dyfodol yn gwrs ar-lein, am ddim i helpu aelodau undebau llafur lywio eu gyrfaoedd eu hunain. Caiff ei gynnal amser cinio am awr yr wythnos, dros gyfnod o wyth wythnos.
Archebwch eich lle ar y cwrs nesaf
Mae dysgu am oes. Dylai pob gweithiwr gael y cyfle i uwchsgilio a magu hyder drwy ddysgu. Rydym yn edrych ymlaen at barhau â’n perthynas gref â’r Brifysgol Agored i gefnogi dysgwyr yn y gweithle ledled Cymru.
Shavanah Taj Ysgrifennydd Cyffredinol, TUC Cymru
Yn ystod y rhaglen, byddwch yn canolbwyntio ar wyth o sgiliau penodol fydd yn eich helpu i ganfod eich gwerthoedd, cryfderau a nodau.
Rydym wedi datblygu Barod am y Dyfodol ochr yn ochr â rhai o undebau llafur Cymru.
Mae gennym berthynas wych gyda chynrychiolwyr dysgu’r undeb, cynrychiolwyr gwyrdd, cynrychiolwyr iechyd a diogelwch a staff eraill yr undeb. Mae llawer ohonynt wedi ymuno â’n rhaglen Hyrwyddwyr OpenLearn i gael gwybod am ddysgu am ddim ac i rannu cyrsiau am ddim gyda’u haelodau. Rydym hefyd yn cynnig ystod o gyrsiau byr, micro-gymwysterau a chyrsiau Mynediad - sef y cam cyntaf tuag at astudiaeth ffurfiol i sawl un.
.png)
Darllenwch am ein cymwysterau a’n cyrsiau drwy ofyn am brosbectws heddiw