Rydym yn falch o'r gydberthynas rydym wedi ei meithrin ag ysgolion a cholegau ledled Cymru. Rydym yn gweithio gyda Awdurdodau Addysg Leol, llywodraethwyr, timoedd rheoli, staff addysgu a chymorth, a disgyblion a dysgwyr i ddatblygu cyrsiau a deunyddiau newydd a all helpu gyda datblygiad proffesiynol a gwella sgiliau myfyrwyr.
Dyma rai o'r pethau rydym yn eu gwneud:
Rydym yn helpu i feithrin y genhedlaeth nesaf o athrawon gyda'n Tystysgrif Addysg i Raddedigion (TAR) unigryw. Mae hyn yn cynnwys llwybr cyflogedig i staff ysgolion e.e. cynorthwywyr addysgu, neu lwybr heb gyflog i bobl sy'n awyddus i newid eu gyrfa. Mae hefyd modd i ysgolion gymryd rhan yn y rhaglen er mwyn cefnogi ein hathrawon dan hyfforddiant.
Nod ein rhaglen Athrawon yn Dysgu i Addysgu Ieithoedd yw helpu staff ysgolion cynradd i addysgu Ffrangeg, Almaeneg, Sbaeneg neu Tsieinëeg Mandarin wrth iddynt ddysgu'r ieithoedd eu hun ar yr un pryd. Mae hyn yn helpu i fodloni'r gofyniad i addysgu ieithoedd ar lefel ysgol gynradd fel rhan o'r cwricwlwm newydd i Gymru.
Mae dewis helaeth o gyrsiau am ddim a gwybodaeth i staff addysgu ar gael ar OpenLearn, sef ein gwefan dysgu am ddim, gan gynnwys:
Rydym wedi gweithio gyda Llywodraeth Cymru a Chyngor Caerdydd yn ddiweddar i lunio mwy o adnoddau am ddim ar gyfer gwefan Hwb. Yr oedd ein peilot Datblygu Proffesiynol Parhaus (DPP) Ymrwymiad Caerdydd yn gydweithrediad i gefnogi staff yn eu dulliau dysgu cyfunol ac addysgeg. Yr oedd hyn trwy gydol pandemig y coronafeirws yn ogystal er mwyn paratoi ar gyfer y cwricwlwm newydd i Gymru. Dewch i glywed gan bartneriaid ac athrawon bu’n cymryd rhan:
Mae byd o ddysgu am ddim ar gael ar ein gwefan OpenLearn sy'n gallu helpu myfyrwyr gyda dysgu ac ymchwil bellach ar gyfer eu gwaith cwrs. Mae OpenLearn Cymru yn cynnwys casgliad helaeth o adnoddau a ddatblygwyd gan Y Brifysgol Agored yng Nghymru, gan gynnwys cwrs newydd i godi ymwybyddiaeth o ddinasyddiaeth Cymru – Deall datganoli yng Nghymru.
Rydym wedi partneru â phob un o’r 12 coleg ledled Cymru i gefnogi myfyrwyr i addysg uwch. Rydym nawr yn gweithio gyda dosbarthiadau'r chweched mewn ysgolion cyfun i helpu mwy o bobl ifanc i gymryd eu camau nesaf tuag at brifysgol.
Rydym wedi rhoi'r llyfryn hwn at ei gilydd ar gyfer myfyrwyr sy'n esbonio ymhellach.

Rydym wedi gweithio gyda phrifysgolion eraill yng Nghymru i greu Barod ar gyfer Prifysgol – casgliad newydd o adnoddau i helpu pobl sydd ar fin cymryd y cam nesaf ar y ffordd i'r brifysgol.
Yn olaf, rydym yn cynnal ein rhaglen Hyrwyddwyr OpenLearn ar gyfer sefydliadau ledled Cymru. Mae llawer o'r bobl sy'n ymwneud â'r cwrs hyn hefyd yn chwarae rolau allweddol yn y gwaith o gefnogi myfyrwyr a disgyblion, gan gynnwys penaethiaid colegau chweched dosbarth, cydlynwyr Seren, arweinwyr Bagloriaeth Cymru a thiwtoriaid cymorth bugeiliol.
Mae cwricwlwm newydd i Gymru bellach wedi’i sefydlu a bydd yn cael ei gyflwyno i ysgolion uwchradd yn 2023.
Darllenwch am ein cymwysterau a’n cyrsiau drwy ofyn am brosbectws heddiw
Am ein gwaith neu i drafod cyfleoedd partneriaeth, cysylltwch â'n tîm ehangu mynediad.