Sefydlwyd y Rhaglen Gyfoethogi Genedlaethol fel cydweithrediad rhwng y Brifysgol Agored yng Nghymru a phob un o’r 12 coleg yng Nghymru. Rydym bellach yn gweithio gydag ysgolion ledled Cymru hefyd.
Mae’n cefnogi pobl ifanc sydd yn y coleg ac yn yr ysgol i ddatblygu’r wybodaeth a’r sgiliau mae cyflogwyr a phrifysgolion yn chwilio amdanynt, gan eu helpu i gymryd eu cam nesaf. Mae'r rhaglen yn cynnwys cyfres o weithdai rhithwir rhyngweithiol a gyflwynir gan siaradwyr gwadd o'r Brifysgol Agored ac academyddion, ar bynciau fel sgiliau digidol, cyflogadwyedd, datblygu gyrfa, dysgu ar gyfer cymdeithas a sgiliau bywyd.
Mae OpenLearn, platfform dysgu anffurfiol rhad ac am ddim y Brifysgol Agored, yn ganolog i'r rhaglen. Rydym ni’n cyfeirio pob dysgwr at ein hadnoddau OpenLearn i’w helpu ar eu taith ddysgu. Mae hyn yn eu galluogi i ddatblygu eu sgiliau astudio annibynnol, archwilio pynciau diddorol a deall llwybrau i astudio’n ffurfiol.
Rydym yn hyfforddi staff y coleg a’r ysgol sy'n cyflwyno'r rhaglen fel Hyrwyddwyr OpenLearn y Brifysgol Agored yng Nghymru. Mae hyn yn eu helpu i ddeall adnoddau OpenLearn er mwyn iddyn nhw allu helpu’r myfyrwyr maen nhw’n gweithio gyda nhw.
Bydd gan ddysgwyr hyb glanio OpenLearn unigryw, lle gallant ddod o hyd i holl adnoddau’r rhaglen gan gynnwys recordiadau o’r gweithdai, y canllaw digidol i ddysgwyr a’r logiau myfyrio.
Darllenwch am ein cymwysterau a’n cyrsiau drwy ofyn am brosbectws heddiw