.png)
Mae Llwybrau yn brosiect arloesol dan arweiniad y Brifysgol Agored yng Nghymru sydd wedi’i ariannu gan Gronfa Datblygu Strategol Medr. Gan weithio gyda phartneriaid ar draws Rhondda Cynon Taf, mae’r prosiect yn helpu pobl i archwilio eu hopsiynau a chymryd y cam nesaf tuag at addysg, hyfforddiant, gwaith neu ddatblygiad personol. Mae wedi’i ddylunio i wneud llwybrau dilyniant yn haws i’w deall ac i sicrhau y gall pobl gael mynediad at y gefnogaeth gywir iddyn nhw.
Mae’r prosiect yn cefnogi pobl ifanc nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant ar hyn o bryd, y rhai sydd wedi cael addysg heblaw yn yr ysgol (EOTAS), ac oedolion sy’n awyddus i ddychwelyd i ddysgu. Trwy gydweithio’n agos â chymunedau a sefydliadau lleol, mae Llwybrau wedi datblygu adnoddau ymarferol sy’n helpu pobl i gydnabod eu cryfderau, meithrin hyder a dod o hyd i gyfleoedd sy’n cyd-fynd â’u hamcanion. Yn ei hanfod, mae’r prosiect yn ymwneud â helpu pobl i ddod o hyd i lwybr sy’n gweithio iddyn nhw.
“Mae’n wych cael gweithio gyda phartneriaid i gyd-ddylunio model gwybodaeth, cyngor ac arweiniad (IAG) sy’n rhoi anghenion dysgwyr wrth wraidd dilyniant,” meddai Stacey, Rheolwr Prosiect yn y Brifysgol Agored yng Nghymru.
Darllenwch fwy am y prosiect: Inside Pathways: shaping progression from the ground up in Rhondda Cynon Taf

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â Stacey Pring, Rheolwr Partneriaethau, neu Alice Tetstall, Swyddog Prosiect, yn [email protected].
Datblygwyd y prosiect hwn, a ariannwyd gan Gronfa Datblygu Strategol Medr, ar y cyd ag Adult Learning Wales, ACT, Coleg y Cymoedd, Learning and Work Institute, y Brifysgol Agored yng Nghymru, Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf, Trivallis, Wales TUC a Phrifysgol De Cymru.

.png)
Darllenwch am ein cymwysterau a’n cyrsiau drwy ofyn am brosbectws heddiw