Gweithlu Addysgu Cymru

O ystafelloedd dosbarth i wardiau ysbyty, ac o gartrefi gofal i hybiau cymunedol, mae pwysau cynyddol ar wasanaethau cyhoeddus yng Nghymru. Mae prinder athrawon, swyddi nyrsio gwag a phrinder gweithwyr cymdeithasol cymwys yn rhoi straen ar wasanaethau ac yn effeithio ar gymunedau.

Rydym yn helpu i fynd i'r afael â'r heriau hyn yn uniongyrchol – drwy gynnig llwybrau astudio rhan amser, hyblyg sy'n galluogi pobl i gymhwyso a symud ymlaen yn eu gyrfaoedd heb adael eu swyddi neu eu cymunedau. Mae’r dull hwn yn ehangu’r gronfa dalent ac yn adeiladu gweithlu cynaliadwy ar gyfer y dyfodol.

Dysgu heb adael cartref

Gyda thros 16,000 o fyfyrwyr ledled Cymru, y Brifysgol Agored yng Nghymru yw’r darparwr addysg uwch israddedig rhan amser mwyaf yn y wlad. Mae nifer yn astudio cymwysterau proffesiynol ym maes Gwaith Cymdeithasol, Nyrsio neu Addysgu - rhaglenni a ddyluniwyd mewn partneriaeth â chyflogwyr, sydd wedi’u teilwra ar gyfer anghenion cymunedau Cymru.

I ddysgwyr fel Rachel Townsend, o Ystalyfera, mae'r hyblygrwydd hwn wedi trawsnewid ei bywyd. Bu Rachel yn cydbwyso gwaith llawn amser, bod yn rhiant sengl a’i hastudiaethau i ennill ei BA (Anrh) mewn Gwaith Cymdeithasol drwy gynllun “Tyfu Ein Hunain” lleol. Heddiw, mae hi’n rheoli tîm gwaith cymdeithasol mewn ysbyty, yn cefnogi rhyddhau cleifion yn ddiogel a’u helpu i fyw’n annibynnol.

'Heb hyblygrwydd y Brifysgol Agored, ni allwn fod wedi astudio wrth fagu dau o blant a gweithio’n llawn amser,' meddai Rachel.

Ers 2021/22, mae 248 o weithwyr cymdeithasol wedi cymhwyso drwy’r Brifysgol Agored yng Nghymru - gyda niferoedd graddedig blynyddol yn codi mwy na 220%.

Ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf

Mae’r proffesiwn addysgu’n wynebu prinder staff cymwys, yn enwedig mewn addysg uwchradd ac addysgu cyfrwng Cymraeg. Mae llwybrau rhan amser a chyflogedig y Brifysgol Agored yng Nghymru’n helpu i bontio’r bwlch, gyda bron i 200 o raddedigion nawr yn addysgu mewn ysgolion ledled Cymru.

Gwylio fy myfyrwyr yn datblygu nid yn unig fel perfformwyr ond fel unigolion hyderus yw’r union reswm pam rwyf yn gwneud yr hyn a wnaf.

Sioned

I Sioned, o Lansannan, rhoddodd y Brifysgol Agored lwybr o’r llwyfan mawr i lwyfan yr ysgol. Ar ôl gyrfa ym myd theatr gerdd, cymhwysodd yn 2019 ac erbyn hyn mae hi’n Bennaeth Drama mewn ysgol uwchradd cyfrwng Cymraeg, yn ysbrydoli myfyrwyr i berfformio a defnyddio’r iaith Gymraeg.

Dywedodd 'Gwylio fy myfyrwyr yn datblygu nid yn unig fel perfformwyr ond fel unigolion hyderus yw’r union reswm pam rwyf yn gwneud yr hyn a wnaf.'

Defnyddiodd Adam, athro cynradd ar ei bedwaredd flwyddyn yng Nghaerdydd, ei gymhwyster TAR o'r Brifysgol Agored i uno ei gariad tuag at chwaraeon ac addysg - gan arwain yn yr ystafell ddosbarth a thrwy Ŵyl Bêl-droed Ysgolion Grangetown, sy’n dod ag ysgolion a chlybiau ynghyd bob tymor.

'Rhoddodd y Brifysgol Agored y cyfle imi gymhwyso heb orfod aberthu fy swydd,' dywedodd.

Nyrsio ar y rheng flaen

Mae’r GIG yng Nghymru yn wynebu dros 2,000 o swyddi nyrsys cofrestredig gwag, gydag adroddiadau o bron i 80% o sifftiau heb ddigon o staff. Mae byrddau iechyd yn gwario dros £140 miliwn y flwyddyn ar staff asiantaeth i lenwi’r bylchau hyn - ac yn y cyd-destun hwn, mae rhaglenni nyrsio hyblyg y Brifysgol Agored yn galluogi mwy o bobl i gymhwyso heb adael y gweithlu.

Mae Katie Bonar, o Nant-y-moel, yn enghraifft bwerus o hyn ar waith. Ar ôl 17 mlynedd fel triniwr gwallt, ymunodd â Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro fel gweithiwr cymorth gofal iechyd. Mae ei brwdfrydedd dros ofal dementia - a’i hanogaeth gan ei rheolwr - wedi ei harwain i hyfforddi fel nyrs drwy’r Brifysgol Agored, gan gymhwyso yn 2023 gyda BSc (Anrh) mewn Nyrsio (Iechyd Meddwl).

'Rhoddodd y Brifysgol Agored y cyfle imi gymhwyso heb aberthu fy swydd na gadael fy nheulu i lawr,' dywedodd Katie. 'Mae'r Brifysgol Agored wedi newid fy mywyd.'

Nawr yn nyrs iechyd meddwl cymunedol yng Nghaerdydd, mae Katie’n cefnogi hyd at 30 o gleifion, yn rhedeg canolfan glinig ac yn cynnig cymorth mewn argyfwng - gwaith mae hi’n ei alw’n “fraint” oherwydd ymddiriedaeth cleifion ynddi yn ystod eu cyfnodau anoddaf un.

Nid hi yw’r unig un. Mae Mark Crothers, nyrs ymchwil clinigol arbenigol, hefyd yn rhoi clod i hyblygrwydd y Brifysgol Agored am ei lwyddiant. Ar ôl ennill ei BSc mewn Nyrsio i Oedolion, mae Mark nawr yn rheoli treialon ymchwil cenedlaethol sy’n effeithio ar filoedd o bobl ledled y byd.

Dysgwch fwy am astudio cymwysterau proffesiynol gyda'r Brifysgol Agored yng Nghymru: https://university.open.ac.uk/wales/en/study

Gofynnwch am eich prosbectws

Darllenwch am ein cymwysterau a’n cyrsiau drwy ofyn am brosbectws heddiw

Gofyn am brosbectws