Mae’r Brifysgol Agored wedi ymrwymo i wneud ei gwefan a’i chymwysiadau symudol yn hygyrch, yn unol â Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff y Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Chymwysiadau Symudol) (Rhif 2) 2018.
Mae'r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i The Open University in Wales (Saesneg) a'r Brifysgol Agored yng Nghymru (Cymraeg).
Rydym am i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio ein gwefannau a’n cymwysiadau symudol, ac mae hygyrchedd yn rhan hanfodol o’n cenhadaeth. Ar ein hwb Hygyrchedd, fe ddewch o hyd i bopeth fydd ei angen arnoch i ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych am hygyrchedd, p'un a ydych yn fyfyriwr neu'n aelod o staff.
I addasu’r cynnwys i’ch anghenion neu’ch dewisiadau dylech fod yn gallu:
mMae’r wefan hon yn cydymffurfio’n rhannol â Chanllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We fersiwn 2.2 safon AA, oherwydd y diffygion cydymffurfio a restrir isod.
Mae’r cynnwys a restrir isod yn anhygyrch oherwydd y rhesymau canlynol:
Mae rhai delweddau ar dudalennau (a gyhoeddwyd cyn mis Ionawr 2023) heb destun gwybodus amgen i ddisgrifio eu diben yn ddigonol. Ni fydd pobl sy’n defnyddio darllenydd sgrin yn gallu cael mynediad i'r wybodaeth. Mae hyn yn methu Maen Prawf Llwyddiant 1.1.1 Labeli neu Gyfarwyddiadau WCAG 2.2 (Lefel A) a bydd yn cael ei ddatrys erbyn diwedd mis Ebrill 2026.
Mae gan rai tudalennau (a gyhoeddwyd cyn mis Ionawr 2023) benawdau sydd heb eu strwythuro mewn ffordd resymegol. Bydd pobl sy’n defnyddio darllenwyr sgrin yn cael mwy o drafferth wrth lywio a deall strwythur y cynnwys. Mae hyn yn methu Maen Prawf Llwyddiant 1.3.1 Labeli neu Gyfarwyddiadau WCAG 2.2 (Lefel A) a bydd yn cael ei ddatrys erbyn diwedd mis Ebrill 2026.
Nid yw rhywfaint o destun dolenni yn rhoi digon o wybodaeth am gyrchfan y ddolen. Mae hyn yn ei gwneud yn anodd i bobl sy’n defnyddio darllenydd sgrin wybod ble bydd dolen yn mynd â nhw, yn enwedig os ydynt yn darllen dolenni allan o’u cyd-destun, (e.e., mewn rhestr o ddolenni). Mae hyn yn methu Maen Prawf Llwyddiant 2.4.4 Labeli neu Gyfarwyddiadau WCAG 2.2 (Lefel A) a bydd yn cael ei ddatrys erbyn diwedd mis Ebrill 2026.
Paratowyd y datganiad hwn ar 2 Hydref 2024.
Adolygwyd y datganiad hwn ddiwethaf ar 13 Hydref 2024 .
Profwyd y wefan ddiwethaf ym mis Hydref 2024. Hunan asesiad a wnaed gan dîm cyfathrebu'r Brifysgol Agored yng Nghymru oedd hwn.
Profwyd y wefan hon yn defnyddio'r Pecyn Cymorth Cydymffurfiaeth Hygyrchedd (ACT) sy'n becyn cymorth mewnol a ddefnyddir i nodi a gwirio tudalennau gwe ar gyfer hygyrchedd drwy gynnal profi hygyrchedd sylfaenol. Mae'r p[rofi sylfaenol hwn yn ymdrin ag agweddau hanfodol o hygyrchedd, ond nid yw'n cynnwys yr holl Feini Prawf Llwyddiant WCAG 2.2 Lefel AA. Mae defnyddio'r CAT yn cyfuno gwiriadau â llaw gyda phrofi awtomatig ar draws sampl o dudalennau sydd wedi'u nodi fel rhai sy'n gynrychioladol o'r rhan fwyaf o gydrannau, neu'r holl gydrannau a ddefnyddir ar y wefan. Mae'r profi hygyrchedd a gynhelir ar y wefan hon yn cynnwys gwerthuso testun amgen, cyferbyniad lliw, newid maint cynnwys, strwythur cynnwys, ffurfio labeli, iaith y dudalen, testun dolen, llywio bysellfwrdd, capsiynau a dolenni neidio.
Defnyddiwyd y dulliau a’r offer profi canlynol:
Os gwelwch nad yw adran benodol o’n gwefan yn hygyrch, ac na allwch gael mynediad i'r wybodaeth sydd ei hangen arnoch, defnyddiwch Ffurflen Adborth Hygyrchedd y Brifysgol Agored i wneud cais am gymorth a byddwn yn sicrhau eich bod yn derbyn y wybodaeth yr ydych ei hangen. Bydd angen i chi ddarparu eich manylion cyswllt a’ch Dynodwr Personol os ydych yn fyfyriwr fel bod modd i ni ymateb i’ch cais. Gallwch ddisgwyl ymateb gennym o fewn 5 diwrnod gwaith.
Mae’r Brifysgol Agored â phrofiad sylweddol pan ddaw i gwrdd ag anghenion hygyrchedd ein myfyrwyr. Mewn llawer o achosion rydym yn gallu darparu deunydd modiwlau a deunyddiau cymorth astudio eraill mewn fformatau amgen i fyfyrwyr sy’n nodi eu bod angen hyn wrth gwblhau Ffurflen Cymorth Anabledd.
Yn ogystal, mae rhai deunyddiau modiwl ar gael mewn fformatau gwahanol a gellir eu lawrlwytho o wefannau modiwlau. Gall myfyrwyr gysylltu â’u Tîm Cymorth Myfyrwyr am gyngor.
Os ydych yn fyfyriwr, neu’n rhywun sydd wedi cael cyswllt â’r Brifysgol yn y gorffennol, a bod gennych gŵyn ynghylch hygyrchedd ein gwefannau, dylech wneud cwyn drwy’r broses cwyno ac apelio.
Mae’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (EHRC) yn gyfrifol am orfodi Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff y Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Chymwysiadau Symudol) (Rhif 2) 2018 (y ‘rheoliadau hygyrchedd’).
Os ydych wedi’ch lleoli yn y DU, ac nad ydych yn fodlon â’r ffordd rydym yn ateb i’ch cwyn, cysylltwch â’r Gwasanaeth Cynghori a Chymorth Cydraddoldeb (EASS).
Darllenwch am ein cymwysterau a’n cyrsiau drwy ofyn am brosbectws heddiw