Polisi

Mae’r Brifysgol Agored yng Nghymru’n ymgysylltu’n gyson gyda gwleidyddion a gwneuthurwyr polisi ar draws y wlad er mwyn hybu buddion addysg uwch hyblyg a cheisio ennill cefnogaeth i’n myfyrwyr i astudio gyda ni.

Ar y dudalen hon, dewch o hyd i’n gofynion polisi, ein safbwyntiau polisi, a sut gallwch chi ddysgu rhagor am bolisi cyhoeddus ac ymgysylltu gwleidyddol ehangach.

Gofynion polisi

Cyn etholiad y Senedd 2026, fe gyhoeddom ein maniffesto ein hunain, a gyflwynodd ein blaenoriaethau ar gyfer Llywodraeth nesaf Cymru.

Yn yr adran hon, dewch o hyd i’r maniffesto hwnnw, a byddwn hefyd yn ei diweddaru o bryd i’w gilydd gyda’n gofynion polisi ehangach.


 

Datgloi potensial Cymru

Economi ffyniannus, cymunedau llwyddiannus, a dyfodol diogel

Ein blaenoriaethau i Lywodraeth nesaf Cymru

Lawrlwytho'r maniffesto


Rhan bwysig o’n gwaith yw ceisio arwain y drafodaeth am bwysigrwydd addysg uwch hyblyg i gymunedau ac economi Cymru. Gallwch ddysgu rhagor isod.

Unlocking Wales’ potential: flexible higher education as a national priority – Ben Lewis ar gyfer y Sefydliad Materion Cymreig

Flexible higher education: Wales’ untapped tool to fight poverty – Cerith Rhys Jones ar gyfer Sefydliad Bevan

What a reimagined ‘university of the air’ could achieve for a modern Wales - Cerith Rhys Jones ar gyfer Nation.Cymru

Ymatebion i ymgynghoriadau

Rhan bwysig arall o’n gwaith yw ymateb i ymgynghoriadau gan Lywodraeth Cymru, pwyllgorau’r Senedd, Medr, ac eraill.

Byddwn yn eu gwneud nhw ar gael yma pan fyddant yn cael eu cyhoeddi.

Adnoddau dysgu

Os hoffech ddysgu rhagor am bolisi cyhoeddus a sut gallwch ddweud eich dweud, pam na wnewch chi archwilio’r dolenni isod?

Os dewch chi o hyd i adnoddau eraill a allai fod yn ddefnyddiol i'w hychwanegu yma, rhowch wybod i ni.

Cwrs am ddim: Deall datganoli yng Nghymru

Cwrs am ddim: Cyflwyniad i greu newid gwleidyddol a chymdeithasol

Canllaw: Ti, fi a dyfodol Cymru

Ysgogwyr Newid

Gofynnwch am eich prosbectws

Darllenwch am ein cymwysterau a’n cyrsiau drwy ofyn am brosbectws heddiw

Gofyn am brosbectws