Yn y Brifysgol Agored yng Nghymru, rydym eisiau sicrhau bod ein gwaith yn gwneud gwahaniaeth i bobl, i'r gymdeithas ac i’n planed.
Dyma ein cenhadaeth ddinesig ni. Mae’n rhywbeth sy’n cyd-fynd yn berffaith â gwerthoedd y Brifysgol Agored.

I ni, mae cenhadaeth ddinesig yn seiliedig ar bum prif faes:

Dyma pam mae cenhadaeth ddinesig yn cyd-fynd â’r hyn yr ydym yn ei wneud:
Mae’n rhan o’n DNA: yn ôl ein hamcanion, ein gwerthoedd a’n treftadaeth, nid ychwanegiad yn unig yw cenhadaeth ddinesig, ond hwn yw ein rheswm dros fod yma.

Ni yw’r unig brifysgol yng Nghymru sy’n cael ei chynrychioli ym mhob un o'r Partneriaethau Ymgysylltiad Dinesig Rhanbarthol. Wedi’u hariannu gan Medr, mae’r rhain yn dod â phrifysgolion a cholegau rhanbarthol ynghyd â sefydliadau dinesig a darparwyr dysgu eraill i fynd i’r afael â heriau lleol.
.png)
Dyma rai prosiectau diweddar gan y Brifysgol Agored yng Nghymru sy’n dangos sut mae ein gwaith yn cyfrannu at fframwaith cenhadaeth ddinesig Cymru.
Cyfres o draethodau fideo yw OpenTalks, lle mae ein hacademyddion yn rhannu eu harbenigedd a’u brwdfrydedd dros bwnc neu fater o’u dewis.
Mae ein Hysgol Iechyd, Llesiant a Gofal Cymdeithasol wedi arwain ymchwil i bum cam y gallwn eu cymryd i hybu ein hiechyd a’n llesiant.
.png)
Rydym wedi gweithio gydag Ymddiriedolaeth y Brenin a’r Sefydliad Codio i helpu pobl ifanc i mewn i'r sector digidol.
.png)
Rydym wedi datblygu canllaw ar-lein er mwyn deall Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol Cymru.
.png)
Mae REACH yn helpu pobl o bum cymuned yng Nghymru i gysylltu â’r hanes a’r dreftadaeth sy’n bwysig iddyn nhw drwy gelf a chreadigrwydd.
Diolch i gefnogaeth Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol, mae REACH Cymru yn bosibl.
Mae’r rhaglen hon yn helpu myfyrwyr coleg i ddatblygu'r sgiliau sydd ar fryd cyflogwyr a phrifysgolion. Mae’n gydweithrediad rhwng y Brifysgol Agored a phob un o’r 12 coleg yng Nghymru.
.png)
Dyma gartref addysg ddwyieithog am ddim gan y Brifysgol Agored yng Nghymru. Mae’n cynnwys cyrsiau, erthyglau a chanllawiau rhyngweithiol.
Rydym wedi gweithio gyda Choleg Caerdydd a'r Fro a Chyngor Ffoaduriaid Cymru i ddod o hyd i gynnwys OpenLearn ar gyfer Addysgu a Dysgu ESOL.
.png)
Rydym wedi datblygu casgliad o adnoddau am ddim i helpu pobl i feddwl yn feirniadol a chwarae rhan weithredol mewn democratiaeth yng Nghymru.
.png)
Yn 2025, gweithiom gyda Tai Pawb i ddatgelu effaith technoleg datgarboneiddio ar denantiaid yng Nghymru.
.png)
Rydym wedi cydweithio â thrydydd sector Cymru i ddatblygu rhaglen hyfforddiant wyth wythnos i wirfoddolwyr.
Trwy'r rhaglen hon, rydym yn rhoi hyfforddiant a mentora un i un i fyfyrwyr y Brifysgol Agored yng Nghymru i wella eu cyflogadwyedd.
Dysgwch fwy am sut yr ydym yn annog y genhedlaeth nesaf o entrepreneuriaid o’r Brifysgol Agored.
_0.png)
Bob blwyddyn, rydym yn siarad â busnesau ledled Cymru a’r DU i gael eu barn ar y dirwedd sgiliau.
Os hoffech ymuno â’n gwaith cenhadaeth ddinesig, cysylltwch â [email protected].
Darllenwch am ein cymwysterau a’n cyrsiau drwy ofyn am brosbectws heddiw