Mae astudio gyda'r Brifysgol Agored yn rhoi mwy na chymhwyster i chi. Mae ein cyrsiau wedi'u cynllunio fel eich bod yn datblygu sgiliau trosglwyddadwy a rhinweddau sy'n cael eu gwerthfawrogi gan gyflogwyr.
Nid yw adeiladu eich cyflogadwyedd yn ymwneud â chael swydd yn unig. Mae'n ymwneud â meithrin eich hyder, sgiliau a rhinweddau i gyflawni'ch potensial. Gall hefyd eich helpu i gyflawni eich nodau personol, addysgol a’ch nodau gyrfa – sut bynnag yr ydych yn gweld hynny a beth bynnag fo'ch cefndir.
Gallwn eich helpu gyda hyn.
Cafodd Tom, myfyriwr o’r Brifysgol Agored, help gan ein tîm i ddod o hyd i leoliad yng Nghanolfan Materion Rhyngwladol Cymru. Clywch fwy am beth wnaeth e yno, a sut mae hyn wedi helpu ei gyflogadwyedd.
Os ydych yn fyfyriwr gyda'r Brifysgol Agored sy'n astudio yng Nghymru, gallech wneud cais am gymorth gan GO Wales.
Byddwch yn cael hyfforddiant a mentora un i un pwrpasol gan gynghorydd cyflogadwyedd a all eich helpu gyda:
Gallwn hefyd eich helpu gyda chostau fel teithio i weithle, neu unrhyw gostau eraill a allai fod gennych.
Mae Go Wales wedi bod yn adnodd amhrisiadwy i mi! Nid yn unig y mae wedi fy helpu i nodi ble mae fy nghryfderau a pha feysydd y gallaf eu gwella, ond mae hefyd wedi fy helpu i sicrhau interniaeth gyffrous.
myfyriwr Go Wales
Graddiodd Mabel gyda gradd yn y Celfyddydau a'r Dyniaethau gyda'r Brifysgol Agored yng Nghymru. Wrth astudio, cwblhaodd brofiad gwaith GO Wales gyda chwmni cyfryngau creadigol i ennill profiad proffesiynol a mewnwelediad i’r diwydiant ffilm.
Mae Gwasanaeth Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd (CES) y Brifysgol Agored yma i'ch cefnogi o'ch modiwl cyntaf hyd at dair blynedd ar ôl astudio.
Rydym bob amser yn ceisio eich helpu i gysylltu â chyflogwyr. Gydag interniaeth rithwir, byddwch yn gweithio ar-lein o gartref yn yr un ffordd ag y byddwch yn astudio. Yn union fel interniaeth wedi'i lleoli ar y safle, byddwch yn gweithio ar brosiectau a thasgau a roddir i chi gan gyflogwr ac yn cael sesiynau dal i fyny a chymorth rheolaidd ganddynt.
Cyflwyno interniaethau rhithwir i fyfyrwyr
Os ydych chi'n gyflogwr sydd angen rhywfaint o gymorth ychwanegol, siaradwch â ni i weld sut y gallai myfyriwr neu raddedig o'r Brifysgol Agored helpu eich sefydliad. Cysylltwch â ni ar gowales@open.ac.uk.
Rydyn ni'n un o nifer o brifysgolion sy'n gweithio ym Mhrifddinas-ranbarth Caerdydd i helpu cyflogwyr lleol i ddod o hyd i raddedigion. Gallwch gael rhagor o wybodaeth ar wefan Venture Graddedigion
Darllenwch am ein cymwysterau a’n cyrsiau drwy ofyn am brosbectws heddiw