Yn sgil GO Wales, enillodd Mabel brofiad proffesiynol gwerthfawr yn y celfyddydau creadigol a mynediad i raglen i ddatblygu sgiliau busnes.
Yn ddiweddar, graddiodd Mabel gyda gradd yn y Celfyddydau a'r Dyniaethau gyda'r Brifysgol Agored yng Nghymru, a astudiodd wrth weithio i gwmni yswiriant ar yr un pryd. Cysylltodd Mabel â ‘GO Wales: Magu eich Hyder Gyrfaol’ i edrych ar ei nodau gyrfaol ar ôl graddio a derbyn cyngor a chymorth wedi’u teilwra. Trwy hyn, cwblhaodd brofiad gwaith GO Wales gyda chwmni cyfryngau creadigol i ennill profiad proffesiynol a mewnwelediad i’r diwydiant ffilm.
Dyma brofiad GO Wales Mabel, yn ei geiriau a’i darluniadau ei hun.
Dysgais am GO Wales pan oeddwn yn pori drwy adran yrfaoedd gwefan y Brifysgol Agored. Yn ystod fy mlwyddyn olaf o astudio, dechreuais feddwl beth allwn i ei wneud ar ôl graddio a mynychais sgyrsiau oedd yn cael eu cynnig gan GO Wales. Siaradais â'r cynghorwr gyrfaoedd, a bu i ni adolygu fy mhrofiad gwaith, addysg, sgiliau a diddordebau.
Roedd y sgyrsiau bob amser yn hamddenol ac yn gadarnhaol iawn, a oedd yn ddefnyddiol iawn wrth leddfu’r ansicrwydd ynghylch beth i’w wneud nesaf. Yn fuan wedyn sicrhaodd y tîm gyswllt imi gyda chyflogwr a oedd yn bodloni fy niddordebau ac yn dangos diddordeb yn fy sgiliau. Roedd y broses ymgeisio ar gyfer y profiad gwaith yn drefnus iawn. Mwynheais y broses gyfan yn arw.
Roedd fy mhrofiad gwaith gyda'r cwmni ffilm yn cynnwys cynorthwyo gyda phrosiectau - unrhyw beth a oedd angen ei wneud, o frandio i ymchwil a darlunio. Craidd y cwmni oedd tîm bach o ddau, a chynorthwyais gyda phrosiectau a gweithio’n annibynnol ar dasgau a roddwyd i mi.
Roedd un o’r prosiectau yn gofyn imi gynorthwyo gyda chreu brandio rhaglen datblygu ffilm ddogfen newydd. Gweithiais ar ddetholiad o logos gyda chymysgedd o argraffwaith digidol ac ysgrifenedig a lliwiau amrywiol cyn dethol a chwblhau’r dyluniad. Yn ddiweddarach cafodd y gwaith hwn ei ymgorffori i bostiadau cyfryngau cymdeithas er mwyn marchnata’r rhaglen.
Yn ogystal, mwynheais greu bwrdd stori ar gyfer cyflwyniad busnes. Dehonglais y cynllun busnes ar ffurf darluniadau, gan ddilyn ei naratif. Cyfrannodd hyn at greu cyflwyniad gwybodus, cymhellol a deniadol yn weledol.
Roedd gweld y cynhyrchydd a’r cynorthwyydd anhygoel yn gweithio ar brosiectau adeiladu maent yn frwdfrydig drostynt o’r dechrau i’r diwedd yn destament ysbrydoledig i lawenydd mynd ar drywydd creadigrwydd ac arloesedd. Dysgais fod angen imi gadw’r amser a’r lle i barhau i greu ac arbrofi.
Roedd yn destun cyffro imi weld fy hun yn defnyddio’r sgiliau a ddysgais drwy ysgrifennu creadigol am strwythuro naratif wrth gymryd rhan mewn sgyrsiau am greu straeon difyr o ddeunydd newydd. Roedd yn ysbrydoledig hefyd, a theimlais fy mod wedi dysgu fwyaf drwy fod yn bresennol pan oedd costau cynhyrchu, cyllidebu, sefydlu, logisteg ac amserlenni yn cael eu trafod. O’m safbwynt i, roedd y rhain yn cadarnhau pwysigrwydd cyfathrebu mewn modd caredig ac effeithiol gyda phobl wrth weithio tuag at weledigaeth a rennir.
Dechreuais yn y rôl yn teimlo’n barod i helpu gydag unrhyw beth oedd ei angen, ac ychydig yn nerfus ynghylch ansicrwydd beth fyddai angen imi weithio arno. Tuag at ddiwedd y rôl, roeddwn yn teimlo’n hyderus fy mod yn gallu datrys a mynd i'r afael ag unrhyw beth fwy neu lai, ac roeddwn wrth fy modd gyda'r amrywiaeth o bethau i’w gwneud gan fy mod mewn tîm bach.
Rwy’n teimlo’n ddiolchgar fy mod wedi cael fy nghroesawu i gymryd rhan yn y sgyrsiau creadigol rhwng y cynhyrchydd a’r cynorthwyydd, a chefais fy atgofion mwyaf pleserus o’r sgyrsiau hel syniadau hamddenol hynny.
Ni fyddaf yn anghofio caredigrwydd y tîm cyfan, a buaswn wrth fy modd yn mynd â’r cynhesrwydd a’r rhagoriaeth a brofais ymlaen gyda mi yn fy rhyngweithiadau proffesiynol.
Ar ôl cwblhau'r profiad gwaith, mynychais raglen fusnes yn Welsh ICE a wnaeth fy annog i wneud y gorau o fy ngallu i adrodd straeon yn weledol. Y gaeaf hwn recordiais fideos o’r broses o ddarlunio a phaentio straeon, ac rwyf wedi dechrau eu rhannu ar-lein. Rwy’n dymuno i fy nghelf gludo pobl eraill sy’n caru llyfrau yn weledol i fydoedd llenyddol. Rwyf wedi enwi’r prosiect yn La Casa Forestal, a buaswn wrth fy modd yn cymryd y cyfle hwn i wahodd pawb i ddod i mewn a dweud helô.
Buaswn yn argymell GO Wales i unrhyw fyfyriwr sy’n agored i gael sgwrs am eu cynlluniau gyrfaol gyda phobl hyfryd. Hoffwn ddiolch i bawb a fu’n rhan o'r broses am eu hamser a’u hymroddiad hael. Mae’r profiad wedi bod yn werthfawr dros ben.
Byddwch yn cael hyfforddiant a mentora pwrpasol un i un a mentora gan gynghorydd cyflogadwyedd a all eich helpu gyda:
Gallwn hefyd eich helpu gyda chostau, fel teithio i weithle neu unrhyw dreuliau posib eraill fydd gennych.
Ar ôl ei lleoliad gwaith, galluogodd y tîm GO Wales i Mabel gymryd rhan yn y rhaglen Clwb 9-5 Welsh ICE hefyd, gan ei thywys drwy hanfodion troi eich syniad busnes yn llwyddiant. Cymerodd Mabel ran yn y rhaglen bob nos Fercher am 8 wythnos gan orffen gyda noson gyflwyno i entrepreneuriaid lleol.
Darllenwch am ein cymwysterau a’n cyrsiau drwy ofyn am brosbectws heddiw