Mae'r Brifysgol Agored yn gymuned o staff a myfyrwyr yn cydweithio. Datblygwyd ein Siarter Myfyrwyr ar y cyd gan y Brifysgol a Chymdeithas Myfyrwyr Y Brifysgol Agored, er mwyn disgrifio ein gwerthoedd cymunedol a'r hyn y gallwn ei ddisgwyl oddi wrth ein gilydd.
Darllenwch Siarter Myfyrwyr Y Brifysgol Agored (PDF)
Mae Cymdeithas Myfyrwyr Y Brifysgol Agored yn cefnogi myfyrwyr Y Brifysgol Agored yng Nghymru drwy Gynulliad Cymdeithas Myfyrwyr Y Brifysgol Agored (OUSA) yng Nghymru. Cadeirir y Cynulliad gan Gynrychiolydd Cymdeithas Myfyrwyr Cymru, Claire Smith.
Rydym bob amser yn awyddus i glywed barn ein myfyrwyr. Dau gyfle i fyfyrwyr yng Nghymru rannu eu barn â staff a myfyrwyr eraill yw'r Cyfarfod Ymgynghorol Blynyddol i Fyfyrwyr a Fforwm Myfyrwyr Y Brifysgol Agored yng Nghymru.
Mae'r Cyfarfod Ymgynghorol Blynyddol i Fyfyrwyr yn gyfle i fyfyrwyr ddod ynghyd â staff Y Brifysgol Agored yng Nghymru gan gynnwys Darlithwyr Cyswllt i godi unrhyw gwestiynau a all fod ganddynt yn ogystal â gwrando ar safbwyntiau myfyrwyr eraill yng Nghymru a'u trafod.
Mae Fforwm Myfyrwyr Y Brifysgol Agored yng Nghymru yn gymuned ar-lein lle y gall myfyrwyr a staff drafod cwestiynau sydd wedi codi ynghylch astudio gyda'r Brifysgol Agored neu unrhyw newidiadau i'r broses astudio a gynigiwyd.
Os oes gennych ddiddordeb mewn cymryd rhan yn y Cyfarfod Ymgynghorol Blynyddol i Fyfyrwyr a Fforwm Myfyrwyr Y Brifysgol Agored yng Nghymru, cysylltwch ag OUSA yng Nghymru.
Darllenwch am ein cymwysterau a’n cyrsiau drwy ofyn am brosbectws heddiw