Gweithio gyda ni

Sut hoffech chi helpu rhywun i newid eu bywyd? Ni yw darparwr addysg uwch israddedig rhan-amser mwyaf Cymru – mae mwy na 16,000 o bobl o bron bob cymuned ledled Cymru yn astudio gyda ni.

Nid oes unrhyw swyddi gwag ar hyn o bryd. Dewch yn ôl yn fuan.

Mae'r fenter Grymuso Menywod sy'n Ffoaduriaid yng Nghymru yn cael ei harwain gan Athina Summerbell yn swyddfa Cyngor Ffoaduriaid Cymru yng Nghaerdydd, ac mae'r ymchwil yn cael ei harwain gan y Brifysgol Agored. Bydd yr ymchwilydd yn gweithio'n agos gyda Chyngor Ffoaduriaid Cymru i recriwtio cyfranogwyr ar gyfer yr ymchwil, a bydd yn cynnal grwpiau ffocws wyneb yn wyneb yng Nghaerdydd, Abertawe a Chasnewydd, yn ogystal â grwpiau ffocws ar-lein. Bydd hefyd yn cyd-ddylunio arolwg ar gyfer cyflogwyr a gweithwyr proffesiynol Addysg Bellach ac Addysg Uwch. Bydd yn nodi problemau ac atebion ac yn cyflwyno adroddiad ymchwil sy'n seiliedig ar dystiolaeth yn annibynnol, mewn cydweithrediad ag academyddion a phartneriaid y Brifysgol Agored. Bydd angen sgiliau rhyngbersonol, rheoli rhanddeiliaid a chyfathrebu cryf ar ddeiliad y swydd, yn ogystal â phrofiad a sgiliau ymchwil.

Yr hyn a gewch yn gyfnewid:

  • Rydym yn talu cyflogau cystadleuol fel y gallwn recriwtio a chadw pobl o safon uchel.
  • I wobrwyo eich gwaith caled ac am gydbwysedd gwych rhwng bywyd a gwaith, rydym yn cynnig gwyliau blynyddol hael o hyd at 33 diwrnod, yn ogystal â holl wyliau banc a gwyliau cyhoeddus eraill.
  • Gallwn dalu eich ffioedd ar gyfer cyrsiau tra byddwch yn gweithio gyda ni.
  • Gallwch gyfrannu at gynllun pensiwn deniadol – Cynllun Blwydd-dal y Prifysgolion (USS).
  • Rydym yn cefnogi patrymau gwaith hybrid hyblyg.

Datblygiad personol

Mae helpu ein pobl i ddatblygu yn allweddol ar gyfer cadw'r staff gorau. Dyna pam mae gennym raglen hyfforddi a datblygu gynhwysfawr, sy’n cynnwys:

  • rhaglen sefydlu ar gyfer yr holl staff newydd gydag adolygiadau rheolaidd
  • gweithdai hyfforddi i gefnogi datblygiad staff
  • mentrau datblygu fel sgyrsiau dros goffi i gwrdd â chydweithwyr newydd; cylchoedd dysgu i wella perthnasoedd ar draws timau, a mentora i'ch helpu i adnabod eich cryfderau a dysgu gan eraill.

Ble rydym ni?

Mae swyddfa'r Brifysgol Agored yng Nghymru yng nghanol bywiog Dinas Caerdydd. Rydym wedi ein lleoli yn Stryd y Tollty, gyferbyn â John Lewis a gwesty'r Marriot. Gan ein bod yng nghanol y ddinas, rydym yn hygyrch iawn ac mae gorsaf drenau Caerdydd Canolog bum munud i ffwrdd ar droed, ac mae sawl llwybr bysiau i gyrraedd canol dinas Caerdydd sy'n arwain at ein swyddfa.

Lawrlwythwch wybodaeth am hygyrchedd ar gyfer ymweld yn bersonol â’r swyddfa yng Nghaerdydd:

Map i swyddfeydd y Brifysgol Agored yng Nghymru

Yr olygfa ar fap

Gofynnwch am eich prosbectws

Darllenwch am ein cymwysterau a’n cyrsiau drwy ofyn am brosbectws heddiw

Gofyn am brosbectws