Pont i Bawb

Astudiaeth ar-lein i’ch helpu i symud yn agosach at yr yrfa o’ch dewis.

Os ydych eisiau astudio i fod yn nyrs, yn weithiwr cymdeithasol neu’n athro/athrawes ond nad oes gennych y cymwysterau angenrheidiol i ymgeisio, mae Pont i Bawb ar eich cyfer chi. 

menyw ar liniadur

Mae’r rhaglen Pont i Bawb yn cael ei chyflwyno ar-lein* gan Goleg Caerdydd a’r Fro, gan olygu y gallwch astudio ochr yn ochr â’ch swydd bresennol. Trwy gwblhau byddwch yn ennill y cymwysterau gofynnol ar gyfer gwneud cais* am radd BA mewn Nyrsio, BA mewn Gofal Cymdeithasol, neu'r Dystysgrif Raddedig Broffesiynol mewn Addysg (TAR) yn y Brifysgol Agored yng Nghymru.

Gallwch astudio:

  • Rhifedd a/neu lythrennedd Sgiliau Hanfodol Cymru, fel y gallwch wneud cais i astudio nyrsio neu waith cymdeithasol
  • TGAU gradd C mewn Mathemateg, Iaith Saesneg neu Fioleg, fel y gallwch wneud cais ar gyfer y TAR.

Dysgwch fwy am y llwybr Pont i Bawb o’ch dewis:

Nyrsio neu Waith Cymdeithasol TAR

*Mae astudio TGAU yn cynnwys tri diwrnod addysgu/asesu wyneb yn wyneb yng Ngholeg Caerdydd a’r Fro.

**Yn dilyn cais llwyddiannus a bodloni meini prawf dethol.