_0.png)
Mae hon yn rhaglen dysgu o bell ran amser Cymru gyfan i chi ennill y cymwysterau sydd eu hangen arnoch i astudio’r Dystysgrif Addysg i Raddedigion (TAR), y radd sydd ei hangen i ddod yn athro/athrawes cymwys, yn y Brifysgol Agored yng Nghymru.*
Caiff y rhaglen Pont i Bawb ei chyflwyno gan Goleg Caerdydd a’r Fro (CAVC) drwy ddysgu ar-lein, sy’n golygu y gallwch astudio o gartref, ynghyd â hyd at tri sesiwn wyneb yn wyneb a fydd yn cynnwys addysgu a/neu asesiad. Mae’n rhaglen ran-amser, sy’n golygu y gallwch ddysgu ochr yn ochr â’ch swydd bresennol. Mae wedi'i ariannu'n llawn, felly dim ond eich ffi arholiad fydd angen i chi ei thalu. Bydd gennych hefyd eich tiwtor CAVC eich hun yn ystod y rhaglen.
Mae’r rhaglen yn dechrau ym mis Medi 2026 ac yn gorffen Mai/Mehefin 2027.
Mae Pont i Bawb yn rhoi'r opsiwn i chi astudio am hyd at ddau TGAU mewn Mathemateg, Saesneg Iaith neu Fioleg**.
I wneud cais i'r rhaglen TAR yn y Brifysgol Agored yng Nghymru, bydd angen i chi fodloni'r gofynion cymhwysedd canlynol:
Dyma'r gofynion mynediad a osodwyd gan Lywodraeth Cymru ar gyfer pob darparwr TAR yng Nghymru. Heb y cymwysterau gofynnol, ni fyddwch yn gallu gwneud cais i'r rhaglen TAR.***
Mae’r Brifysgol Agored yng Nghymru a CAVC wedi datblygu Pont i Bawb i helpu darpar athrawon gyflawni eu cymwysterau TGAU ac i fynd ymlaen i astudio’r TAR yn y Brifysgol Agored yng Nghymru.
Bydd cwblhau’r cwrs TAR yn y Brifysgol Agored yng Nghymru yn eich galluogi i ennill Statws Athro Cymwys (SAC) ar unai lefel ysgol gynradd neu uwchradd – gan olygu y gallwch gael eich cyflogi fel athro.
Y Brifysgol Agored yng Nghymru yw’r arbenigwyr mewn dysgu rhan-amser o bell a nhw yw’r darparwr addysg uwch israddedig rhan-amser mwyaf yng Nghymru. Gyda dros 50 mlynedd o brofiad ym maes dysgu ar-lein â chymorth, byddwn yn sicrhau na fyddwch yn teimlo’n rhy bell. Byddwch yn cael cymorth rheolaidd gan eich tiwtor, myfyrwyr eraill a’ch tîm cymorth i fyfyrwyr.
Mae’r rhaglen Pont i Bawb, a ddarperir gan CAVC, hefyd yn defnyddio dysgu ar-lein i’ch galluogi i ffitio astudio o amgylch eich bywyd.
Mae cyrsiau ar-lein rhan-amser y Brifysgol Agored yn golygu eich bod yn cael dewis ble a phryd i astudio, gan roi’r cyfle i chi ennill cymhwyster heb roi’r gorau i'r hyn sy’n bwysig i chi. P’un a ydych yn gweithio, yn bod yn rhiant, yn gofalu neu’n syml yn mwynhau amser gyda theulu a ffrindiau, mae ein cyrsiau yn ffitio o amgylch eich bywyd.
Felly, unwaith y byddwch wedi cwblhau eich cymwysterau TGAU drwy Pont i Bawb, gallwch barhau drwy ymuno â’r Brifysgol Agored yng Nghymru i astudio'r cwrs TAR. Nid oes rhaid i chi aros i'ch canlyniadau TGAU fod yn berthnasol. Gallwch wneud hyn tra byddwch chi'n dal i astudio ar gyfer eich TGAU er mwyn aros ar y trywydd iawn ar gyfer dechrau ym mis Medi – ac os byddwch chi'n bodloni'r holl ofynion mynediad, efallai y byddwch chi'n cael gwarant o gyfweliad.
Yn y Brifysgol Agored yng Nghymru, mae ystod o gymorth hefyd ar gael ar gyfer ffioedd a chyllid gan gynnwys benthyciadau ffioedd dysgu rhan amser ac opsiynau talu hyblyg. Dysgwch fwy am ffioedd a chyllid yn y Brifysgol Agored yng Nghymru.
E-bosiwch [email protected] i wneud cais am le ar y cwrs neu os oes angen unrhyw gefnogaeth arnoch.
Mae'r rhaglen yn dechrau ym mis Medi 2027 ac yn gorffen ym Mai/Mehefin 2028.
Drwy gyflwyno cais drwy raglen Pont i Bawb, rydych yn cydnabod y gall eich data personol gael ei rannu â sefydliadau partner perthnasol at ddibenion prosesu eich cais a chefnogi eich cynnydd. I gael gwybodaeth am sut y caiff eich data ei gasglu, ei ddefnyddio a'i ddiogelu, darllenwch yr Hysbysiad Preifatrwydd i Fyfyrwyr.
*Yn dilyn cais llwyddiannus a bodloni meini prawf dethol.
**Rhaid i chi feddu ar radd D mewn Mathemateg, Iaith Saesneg neu Fioleg i ymuno â Pont i Bawb.
***Am fanylion llawn am ofynion mynediad rhaglen TAR, ewch i'n tudalen we cymhwyster TAR.
Darllenwch am ein cymwysterau a’n cyrsiau drwy ofyn am brosbectws heddiw