Gweithio gyda cholegau yng Nghymru

Rydym yn falch o’r berthynas sydd gennym â’r 12 coleg addysg bellach yng Nghymru. Diolch i’r ffordd rydyn ni’n addysgu, rydyn ni’n brifysgol leol i bawb.

Os ydych chi'n fyfyriwr coleg, gallwn eich helpu i gymryd eich camau cyntaf tuag at radd trwy ddechrau gradd israddedig, neu ychwanegu at eich astudiaethau.

Sut rydym yn gweithio gyda cholegau

Rydym yn cynnig cymorth parhaus o lefelau tri i bump ar gyfer myfyrwyr a staff coleg, sy’n cyd-fynd â’r hyn sydd ei angen ar eu hadrannau. Ochr yn ochr â hyn, rydym wedi cynhyrchu adnoddau gyda, ac ar gyfer, myfyrwyr gan gynnwys asedau llesiant, gweithdai a dosbarthiadau arbennigol.

Gallwn hefyd helpu staff y coleg gyda’u datblygiad proffesiynol, boed yn ddysgu cryno neu’n raddau ffurfiol.

Cydweithio

Mae gweithio gyda sefydliadau eraill yn ganolog i’r hyn a wnawn. Rydym wedi partneru â cholegau ledled Cymru ar sawl prosiect, gan gynnwys

  • llwybrau dilyniant gyda cholegau Caerdydd a'r Fro, a Gŵyr
  • rhaglenni datblygiad proffesiynol gyda Cholegau Grŵp Llandrillo Menai, Gŵyr a Chaerdydd a'r Fro
  • ein Rhaglen Gyfoethogi Genedlaethol sy'n defnyddio cynnwys OpenLearn, a gweithdai gyda siaradwyr gwadd i ychwanegu gwerth at y cwricwlwm.

Cysylltwch â ni

 Logos colegau Cymru