Croeso i’ch gofod canolog ar gyfer popeth sydd ei angen arnoch fel Ysgol Bartner gwerthfawr ym Mhartneriaeth AGA Y Brifysgol Agored.
P’un a ydych yn cefnogi darpar athro cyflogedig neu ran-amser, yn fentor i hyfforddai, neu’n archwilio sut i gymryd rhan, mae’r hwb hwn wedi’i gynllunio i wneud eich profiad yn esmwyth, gwybodus ac yn werth chweil.
Er mwyn cefnogi ein myfyrwyr a’n cydweithwyr ysgol yn effeithlon, mae’n bwysig bod gennym fanylion cyswllt cywir. Mae’r manylion yn sicrhau mynediad i’r system Pasbort Dysgu Proffesiynol. Defnyddiwch y ffurflen hon i gadarnhau enwau cyswllt a chyfeiriadau e-bost Cydlynwyr Ysgol a Mentoriaid.
Dilynwch y ddolen hon ar gyfer canllaw cam wrth gam i ddefnyddio'r PDP.
Blwyddyn 1 (TAR1)
Beth? | Gan bwy? | Erbyn pryd? |
---|---|---|
Arsylwi Gwers 1 | Mentor | 19/12/25 |
Ffurflen Adolygu Ymarfer 1 | Mentor | 16/01/26 |
Arsylwi Gwers 2 | Cydlynydd Ysgol / IRIS Connect | 30/01/26 |
Ffurflen Adolygu Ymarfer 2 | Tiwtoriaid Ymarfer | 13/02/26 |
Blwyddyn 1 (TAR2)
Beth? | Gan bwy? | Erbyn pryd? |
---|---|---|
Arsylwi Gwers 3 | Mentor | 27/03/26 |
Arsylwi Gwers 4 | Cydlynydd Ysgol / IRIS Connect | 15/05/26 |
Adroddiad Ymarfer Dysgu (Adran A) | Mentor | 08/05/26 |
Adroddiad Ymarfer Dysgu (Adran B) | Cydlynydd Ysgol | 20/05/26 |
Adroddiad Ymarfer Dysgu (Adran C) | Tiwtoriaid Ymarfer | 05/06/26 |
DIM OND MYFYRWYR CYFLOGEDIG: Ffurflen adolygu ymarfer dysgu ar gyfer yr Ail Brofiad Ysgol | Mentor ABY | 26/06/26 |
Blwyddyn 2 (TAR3)
Beth? | Gan bwy? | Erbyn pryd? |
---|---|---|
Arsylwi Gwers 1 | Mentor | 28/11/25 |
Arsylwi Gwers 2 | Cydlynydd Ysgol / IRIS Connect | 28/11/25 |
Ffurflen Adolygu Ymarfer 1 | Mentor | 05/12/25 |
Ffurflen Adolygu Ymarfer 2 | Tiwtoriaid Ymarfer | 19/12/25 |
Arsylwi Gwers 3 | Mentor | 06/03/26 |
Arsylwi Gwers 4 | Cydlynydd Ysgol / IRIS Connect | 27/03/26 |
Adroddiad Ymarfer Dysgu (Adran A) | Mentor | 27/03/26 |
Adroddiad Ymarfer Dysgu (Adran B) | Cydlynydd Ysgol | 17/04/26 |
Adroddiad Ymarfer Dysgu (Adran C) | Tiwtoriaid Ymarfer | 25/04/26 |
Rydym yn ymrwymedig i gefnogi eich twf proffesiynol:
Mynychwch gyfleoedd hyfforddi yma:
Gwella’ch sgiliau mentora a chael cydnabyddiaeth! Cwblhewch y modiwl am ddim, mynediad agored ‘Meddylfryd Mentora’ ar OpenLearn a derbyn bathodyn digidol i arddangos eich ymrwymiad i ddatblygiad proffesiynol.
Ar ôl ei gwblhau, anfonwch eich tystysgrif cwblhau i TAR-Cymru@open.ac.uk i hawlio’ch bathodyn!
Nodwch os gwelwch yn dda: Cynhelir sesiynau galw heibio wythnosol ar ddydd Llun am 3:30pm i Fentoriaid a Chydlynyddion Ysgol gwrdd â Thiwtoriaid y Cwricwlwm. Gellir cael mynediad drwy'r ddolen Teams hon: Ymuno â’r Cyfarfod
Mae Tîm TAR Cymru yma i helpu gyda:
Cysylltwch â ni: TAR-Cymru@open.ac.uk
Darllenwch am ein cymwysterau a’n cyrsiau drwy ofyn am brosbectws heddiw