Ymunwch â’r bartneriaeth

Richard Hatwood

Rwyf wedi bod yn rhan weithredol â’r Brifysgol Agored fel Ysgol Arweiniol ers sawl blwyddyn bellach ac mae’n fraint cael fy mhenodi’n Gadeirydd Bwrdd TAR y Brifysgol Agored eleni. Fel bwrdd, rydym yn awyddus i sicrhau bod ein rhaglen yn cynnig y profiadau gorau oll i’r rhai sy’n hyfforddi a’n bod yn gweithio’n llwyddiannus gyda’n hysgolion partner i helpu i ehangu ein harlwy. Rwy’n hynod o falch o’r holl dîm staff ac eisiau defnyddio’r cyfle hwn i estyn fy niolch am eu hymroddiad, eu gwaith caled a’u hangerdd sydd wedi creu’r hyn rwy’n wirioneddol gredu sy’n rhaglen gyffrous ac arloesol sy’n paratoi athrawon y dyfodol.

Richard Hatwood, Pennaeth Ysgol Arweiniol, Ysgol yr Holl Saint
__________

Ein Swyddfa Partneriaeth fydd y pwynt cyswllt cyntaf ar gyfer darpar ymgeiswyr ac ymgeiswyr. Rydym hefyd yn gwneud y trefniadau Ymarfer Dysgu, gan weithio gydag ysgolion ledled Cymru i gynnig lleoliadau i ddarpar athrawon. Yn gyffredinol, pan fydd myfyriwr wedi cofrestru ar y cwrs bydd yn cysylltu â’i Diwtor Cwricwlwm gydag unrhyw gwestiynau, ac yn defnyddio’r fforymau ar-lein, ond rydym wrth law i gynnig cymorth ar y rhan fwyaf o’r agweddau gweithredol. Ni yw’r prif gyswllt ar gyfer ein Pwyllgorau Partneriaeth a’n Is-bwyllgorau ac ar gyfer partneriaid consortia rhanbarthol ac awdurdodau lleol. Cysylltwch â Swyddfa'r Bartneriaeth yn TAR-Cymru@open.ac.uk

Mae ein Tiwtoriaid Cwricwlwm yn cyflwyno elfen academaidd y rhaglen ac yn cefnogi darpar athrawon yn ystod eu Hymarfer Dysgu mewn ysgolion. Neilltuir Tiwtor Cwricwlwm i bob myfyriwr ar ddechrau'r rhaglen.

Rydym yn gwybod bod gwneud cais am le ar TAR yn gallu codi ofn ac rydym yn deall bod angen cymorth ar ysgolion hefyd i ddeall gofynion ein llwybrau cyflogedig a rhan-amser. Rydym wrth law i gyfeirio ymgeiswyr at wybodaeth berthnasol ac i helpu ymgeiswyr ac ysgolion i wneud y profiad TAR yn syml ac yn bleserus.

Swyddfa Bartneriaeth
________

Ein nod wrth weithio gyda darpar athrawon yw eu bod yn datblygu i fod yn ymarferwyr adfyfyriol, gwydn a dyfeisgar. Nid yw addysgu at ddant pawb - ac ni ddylai fod ychwaith. Mae’n daith gydol oes i’r eofn a’r dewr, y brwdfrydig a’r meddylgar, y chwilfrydig a’r dibynadwy, y caredig a’r penderfynol. Mae’n anrhydedd cael gweithio ym maes Addysg Gychwynnol Athrawon yng Nghymru a chefnogi darpar athrawon i mewn i broffesiwn sydd wir yn gwneud gwahaniaeth i fywydau plant a phobl ifanc, eu teuluoedd a’u cymunedau. Rydym wir yn gwerthfawrogi ein partneriaeth ag ysgolion, sy’n darparu’r cyfleoedd a’r profiadau hollbwysig hynny i’n darpar athrawon ledled Cymru.

Tiwtor Cwricwlwm
________

Ymunwch â Phartneriaeth AGA unigryw Y Brifysgol Agored i gefnogi’r genhedlaeth nesaf o athrawon ac elwa ar gyfleoedd cyfoethogi i’ch cydweithwyr a’ch ysgol.

Yn ganolog i gyflwyno ein rhaglen TAR mae ein partneriaeth agos ag ysgolion, ac mae gwahanol ffyrdd y gallwch gymryd rhan.

Mae manteision sylweddol i bartneriaeth gyda’r Brifysgol Agored, gan gynnwys:

• cyfleoedd i ysgolion dyfu eich athrawon eich hunain

• datblygu ac amrywio eich cymuned addysgu

• cymhellion ariannol a hyfforddiant a datblygiad pwrpasol ar gyfer staff mentora mewn ysgolion.

Mae ein Hysgolion Arweiniol yn aelodau o'r Pwyllgor Partneriaeth gyda chyfrifoldebau a phenderfyniadau strategol allweddol, yn arwain Ysgolion Partner yn eu hardal ac yn chwarae rhan ganolog ym mhob agwedd ar y rhaglen.

Mae ysgolion partner yn ysgolion sy'n cefnogi datblygiad myfyrwyr ar y llwybrau cyflogedig a rhan-amser. Gall Ysgolion Partner gymeradwyo athro dan hyfforddiant TAR a gyflogir yn eu hysgol a hefyd darparu cyfleoedd lleoliad i fyfyrwyr ar y llwybr rhan-amser.

Gwnewch gais i ddod yn ysgol bartner

Meini prawf cynnwys ysgolion yn y bartneriaeth

Llythyr Ardystio TAR

Rydym yn awyddus i benodi Tiwtoriaid Ymarfer yn uniongyrchol o bob un o’n Hysgolion Partner. Mae Tiwtoriaid Ymarfer yn cefnogi myfyrwyr wrth iddynt gwblhau ein llwybrau rhan-amser a chyflogedig.

Cyfleoedd Tiwtor Ymarfer 

Ymgeisiwch i fod yn Diwtor Ymarfer

Mae Partneriaeth AGA Y Brifysgol Agored, gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru a Mentor Cymunedol, wedi datblygu strategaeth Du, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig. Ein gweledigaeth yw i gynnig rhaglen TAR gynhwysol, sy'n cynyddu nifer yr ymgeiswyr Du, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig sy’n cofrestru ac yn cwblhau cwrs AGA yn llwyddiannus, a fydd yn cyfrannu at amrywio gweithlu athrawon Cymru.

Stragegaeth y Gymraeg

Ydych chi'n chwilio am athro dan hyfforddiant rhagorol?

Gall myfyrwyr sy’n dymuno dilyn y llwybr TAR Cyflogedig Uwchradd ac nad oes ganddynt ysgol i’w cymeradwyo, wneud cais am y llwybr Cyflog Heb Ardystiad naill ai mewn Gwyddoniaeth, Mathemateg, Cymraeg, Saesneg, Dylunio a Thechnoleg, Gyfrifiadura/TGCh neu ITM.

Gall ysgolion uwchradd dewis i gefnogi gweithiwr newydd ar y Llwybr Cyflogedig a chysylltu â ni i gael eu paru ag ymgeisydd uwchradd cymwys yn eu hardal. Gofynnwn i'r ymgeiswyr gwblhau proffil personol i'w rannu ag ysgolion er mwyn hwyluso'r gwasanaeth paru hwn.

  • Mae ysgolion uwchradd cyfrwng Saesneg yn derbyn grant cyflog o 100% ar gyfer cymeradwyo myfyriwr ar y llwybr pwnc Cymraeg a grant cyflog o 50% ar gyfer cymeradwyo myfyrwyr ar lwybrau Dylunio a Thechnoleg, Gwyddoniaeth, Mathemateg, Saesneg neu TGCh
  • Mae ysgolion uwchradd cyfrwng Cymraeg yn derbyn grant cyflog o 100% ar gyfer y 6 llwybr pwnc uwchradd a gynigir.

Cliciwch yma am fwy o wybodaeth am y Llwybr Cyflogedig.

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â ni ar TAR-Cymru@open.ac.uk