Yn y sesiwn holi ac ateb hon, cawn glywed gan Stacey Pring, Rheolwr Partneriaethau, ac Alice Tetstall, Swyddog Prosiect, sydd yn dweud mwy wrthym am sut mae Llwybrau yn helpu pobl.
O hyfforddi ar lawr gwlad, i ddysgu gan Andrés Iniesta: rydym yn sgwrsio â myfyriwr graddedig y Brifysgol Agored sydd â stori anhygoel
Wedi'i gyflwyno ar Microsoft Teams, mae'r rhaglen yn cynnwys amrywiaeth o weithdai ar-lein wedi'u cynllunio i'ch helpu i gael y gorau o'r adnoddau dysgu ar-lein sydd ar gael trwy blatfform am ddim y Brifysgol Agored, OpenLearn. Mae pynciau'r gweithdai yn cynnwys sgiliau arweinyddiaeth ar gyfer gwirfoddolwyr, sut i wella hyder, goresgyn rhwystrau i ddysgu, ac ymarfer myfyriol. Byddwch hefyd yn cael y cyfle i ddysgu mwy am astudiaeth bellach gyda'r Brifysgol Agored. Yn ystod y rhaglen, cynigir cefnogaeth wyneb yn wyneb ychwanegol gan Gynghorau Gwirfoddol Sirol lle bo modd.
8 Wythnos. 8 Sgil. Eich Dyfodol.
Gweithdai ar-lein amser cinio – dim ond awr yr wythnos.
Mae wythnos 1 yn dechrau ddydd Mercher 14 Hydref 2026 a chynhelir y sesiynau am 7 wythnos arall rhwng 12 – 1pm bob dydd Mercher tan y sesiwn olaf ar ddydd Mercher 2 Rhagfyr 2026.
A ydych wedi ystyried dod yn Hyrwyddwr OpenLearn?
Rhaglen eirioli gan y Brifysgol Agored yng Nghymru yw Hyrwyddwyr OpenLearn. Rydym yn cynnig hyfforddiant rhad ac am ddim i staff a gwirfoddolwyr ar gyfer sectorau penodol er mwyn eich galluogi i gefnogi’r bobl y gweithiwch gyda nhw i gael gafael ar gyfleoedd dysgu ffurfiol ac anffurfiol trwy gyfrwng y Brifysgol Agored.
Noder: Mae ein seremonïau yng Nghymru yn llawn, ac mae'r rhestr aros bellach ar gau.
Mae’r lleoliad oddi ar gyffordd 24 ar yr M4. P’un a ydych yn teithio ar drên neu’n gyrru, gweler y wybodaeth ar wefan ICC, gan gynnwys manylion am eu cyfleusterau parcio ar y safle.
Ydych chi’n cefnogi person ifanc yn y chweched dosbarth wrth iddynt ystyried eu camau nesaf?
Ymunwch gyda’n noson agored ar-lein a darganfyddwch sut gall y Brifysgol Agored yng Nghymru gynnig dysgu ar-lein arobryn gyda chefnogaeth tiwtoriaid sy’n ddewis amgen mwy hyblyg i lwybrau prifysgolion traddodiadol.
Yn y gyfres ddwy ran, mae’r actor clodwiw o Gymru, Michael Sheen yn archwilio honiadau am ‘gemegau am byth’ gwenwynig sydd wedi cael eu cuddio o dan y ddaear mewn gwahanol rannau o Gymru ers yr 1960au, gan beri poendod i genedlaethau o bobl leol.
Mae pobl ifanc yng Ngholeg Pen-y-bont ar Ogwr wedi datblygu hyder, sgiliau a syniadau newydd ar gyfer newid cymdeithasol, drwy brosiect ar y cyd a gyflwynwyd gan y Brifysgol Agored yng Nghymru a'i phartneriaid.
Darllenwch am ein cymwysterau a’n cyrsiau drwy ofyn am brosbectws heddiw