Graddedigion yn dathlu uchelgeisiau gydol oes yng Nghasnewydd

Constantina

Derbyniodd yr artist a'r tiwtor Constantina Alexander ei gradd mewn Mathemateg a Ffiseg gan y Brifysgol Agored ar ddydd Gwener. Roedd hi'n un o 600 o fyfyrwyr y Brifysgol Agored a dderbyniodd eu cymwysterau yn yr ICC yng Nghasnewydd, yn ystod seremoni raddio Cymru y brifysgol. 

“Fe wnes i cawlach o’r ysgol pan oeddwn i’n fy arddegau yn y 1970au, ond does dim ots am hynny gyda’r Brifysgol Agored,” meddai Constantina, 68, o Gwm Garw ym Mhen-y-bont ar Ogwr. “Rydych chi’n cael cyfle arall i ennill cymhwyster academaidd. Roedd hi’n wych darganfod bod gen i’r gallu, hyd yn oed gyda bylchau yn fy ngwybodaeth flaenorol.”

Mae Constantina yn arbenigo mewn iconograffeg, ac mae ei gwaith yn cael ei arddangos ledled y DU ac mor bell i ffwrdd â Gorllewin Awstralia. Cafodd hefyd ei hysbrydoli i beintio ar gynfas yn seiliedig ar yr hyn a astudiodd yn ei modiwl astroffiseg olaf.

Ymhlith y graddedigion a ymunodd â hi roedd Denise Wheatley, 65 oed, o Lanelli, sy'n dilyn yn ôl troed ei thad a'i hewythr, a oedd ill dau yn gyn-fyfyrwyr y Brifysgol Agored.

“Tuag at ddiwedd y radd, roeddwn i’n pendroni a fyddwn i’n llwyddo, ond llwyddais i ac rydw i mor falch ac hapus,” meddai Denise, a astudiodd Droseddeg a Seicoleg.

“Mae wedi rhoi cymaint o hyder i mi. Roeddwn i wastad eisiau gwneud gradd, ac yn y diwedd, llwyddais i gyrraedd y nod.”
Mewn digwyddiad sydd wedi hen ennill ei blwyf fel uchafbwynt blynyddol yn nhymor seremonïau graddio Cymru, cerddodd myfyrwyr ar draws y llwyfan i dderbyn eu tystysgrifau gan y Swyddogion Llywyddu Josie Fraser a Mark Brandon, a Ben Lewis, Pennaeth a Chyfarwyddwr Cenedlaethol yr OU yng Nghymru.

Dathlu arweinydd llawr gwlad

Momena

Cafodd y cynhyrchydd ffilmiau Berwyn Rowlands a’r arweinydd elusen Momena Ali eu cydnabod hefyd, wrth iddynt dderbyn doethuriaethau er anrhydedd gan y brifysgol.

Momena yw sylfaenydd ac arlywydd EYST Wales (Tîm Cymorth Lleiafrifoedd Ethnic ac Ieuenctid Cymru), elusen sy'n cefnogi pobl ifanc, teuluoedd a chymunedau o leiafrifoedd ethnig.

O dan ei harweiniad, mae EYST wedi tyfu o fod yn fenter leol fechan i fod yn sefydliad blaenllaw sy'n gweithredu ledled Cymru, gan gefnogi miloedd o bobl ifanc, teuluoedd a chymunedau o gefndiroedd lleiafrifoedd ethnig.

Mae ei chyfraniad wedi cael cydnabyddiaeth genedlaethol. Yn 2020, derbyniodd Momena Wobr 'Points of Light' y Prif Weinidog, tra yn 2022 derbyniodd EYST Wobr Gwirfoddoli Jiwbilî Platinwm y Frenhines Elizabeth II, gan gydnabod cyfraniad eithriadol ei gwirfoddolwyr.

“Mae derbyn y radd anrhydeddus hon gan y Brifysgol Agored yn brofiad bythgofiwadwy,” meddai Momena. “Rwyf bob amser wedi credu bod addysg yn fwy na’r hyn yr ydym yn ei gyflawni i ni ein hunain, ond hefyd sut rydym yn defnyddio’r hyn rydym yn ei ddysgu i wasanaethu eraill, dangos caredigrwydd a gwneud gwahaniaeth.”

“Tyfodd EYST ei hun o awydd syml i roi rhywbeth yn ôl a chreu cyfleoedd i eraill, ac dros y blynyddoedd rwyf wedi gweld sut y gall un weithred o garedigrwydd greu efaith sy'n ymestyn ymhell y tu hwnt i'r hyn y gallem ei ddychmygu erioed.”

“I bob myfyriwr sy’n graddio, hoffwn ddweud: byddwch yn falch o ba mor bell rydych chi wedi dod, ond ble bynnag y bydd bywyd yn mynd â chi, peidiwch byth â di-brisio'r gwahaniaeth y gallwch ei wneud drwy ddefnyddio eich gwybodaeth, eich profiadau a'ch caredigrwydd i godi eraill.”

“Dydy dysgu ddim yn rhywbeth sy'n dod i ben pan fyddwch chi'n gadael yr ysgol neu'r brifysgol.”

Berwyn

Mae Berwyn Rowlands yn gynhyrchydd ffilmiau, yn gyfarwyddwr gwyliau ac yn arweinydd diwylliannol o Gymru, ac mae ei yrfa wedi helpu i drawsnewid y sector ffilm a sgrîn yng Nghymru a thu hwnt. Dechreuodd drefnu gwyliau ffilm yng Nghymru ar ddiwedd yr 1980au, ac mae wedi treulio mwy na thri degawd yn hyrwyddo gwneuthurwyr ffilm, cynulleidfaoedd a thalent greadigol.

Yn gynnar yn ei yrfa, gweithiodd Berwyn fel Prif Weithredwr cyntaf Sgrîn: Asiantaeth Cyfryngau Cymru, lle bu'n helpu i gryfhau seilwaith a datblygiad y sector sgrîn yng Nghymru.

Fel Cyfarwyddwr sefydlol Gwobr Iris, a sefydlwyd yn 2006, creodd yr un o brif wyliau ffilm LGBTQ+ y byd a gwobr ffilmiau byrion LGBTQ+ fwyaf y byd. O dan ei arweinyddiaeth, mae Iris wedi cefnogi gwneuthurwyr ffilm ar lefel ryngwladol.

"Nid yw dysgu yn rhywbeth sy'n dod i ben pan fyddwch chi'n gadael yr ysgol neu'r brifysgol," meddai Berwyn. "Drwy gydol fy ngyrfa, rwyf wedi gweld bod chwilfrydedd, bod yn agored i syniadau newydd a pharodrwydd i barhau i ddysgu yr un mor bwysig ag unrhyw gymhwyster. I unrhyw un sy'n ystyried dechrau gradd, byddwn i'n dweud: peidiwch ag aros am y foment berffaith; mae buddsoddi ynoch chi'ch hun bob amser yn werth chweil."

“A llongyfarchiadau i raddedigion heddiw. Mae ‘r hyn yr ydych wedi cyflawni yn adlewyrchu penderfyniad, gwaith caled a gwydnwch, a gobeithio y bydd yn rhoi’r hyder i chi barhau i ddysgu, tyfu a gwneud gwahaniaeth cadarnhaol drwy gydol eich bywyd.

Gofynnwch am eich prosbectws

Darllenwch am ein cymwysterau a’n cyrsiau drwy ofyn am brosbectws heddiw

Gofyn am brosbectws