Mae arddangosfa newydd sy'n dwyn ynghyd lleisiau, atgofion a chreadigrwydd pum cymuned o bob cwr o Gymru wedi'i lansio yn Amgueddfa Werin Cymru Sain Ffagan.
Daeth cyfranogwyr cymunedol, artistiaid a chynrychiolwyr o sefydliadau partner ynghyd ar gyfer agoriad Cymru: Ein Straeon Ni, sy'n archwilio sut mae atgofion, traddodiadau a phrofiadau lleol yn helpu i adrodd stori'r genedl.
Datblygwyd Cymru: Ein Straeon Ni drwy brosiect REACH (Trigolion yn Ymgysylltu â’r Celfyddydau, Diwylliant a Threftadaeth) Amgueddfa Cymru a’r Brifysgol Agored yng Nghymru.
Drwy REACH, bu cymunedau’n archwilio eu hanesion, rhannu atgofion a datgelu straeon wedi’u cuddio mewn lleoliadau bob dydd. Creodd y cyfranogwyr weithiau celf wedi'u hysbrydoli gan eu treftadaeth a'u profiadau lleol, sydd bellach yn cael eu harddangos ochr yn ochr â gwrthrychau o gasgliad Amgueddfa Cymru a ddewiswyd am eu cysylltiadau â'r cymunedau hynny.
Mae'r arddangosfa ar agor i'r cyhoedd o 23 Hydref 2026 tan 3 Mai 2027. Mae arddgangosfa ddigidol hefyd ar gael fan hyn.
O Dre-biwt i Ddyffryn Nantlle, mae'r straeon hyn yn ein hatgoffa bod hanes Cymru yn cynnwys hanesion lleol di-ri, oll yn wahanol o’i gilydd, a phob un werth ei ddathlu.
Heledd Fychan Gweinidog y Cabinet dros Ddiwylliant a Chwaraeon
'Mae Cymru: Ein Straeon Ni yn dangos cyfoeth ac amrywiaeth ein cymunedau, wedi'u hadrodd yn eu geiriau eu hunain ac wedi’u mynegi drwy eu creadigrwydd eu hunain,' dywedodd Heledd Fychan, Gweinidog y Cabinet dros Ddiwylliant a Chwaraeon. 'O Dre-biwt i Ddyffryn Nantlle, mae'r straeon hyn yn ein hatgoffa bod hanes Cymru yn cynnwys hanesion lleol di-ri, oll yn wahanol o’i gilydd, a phob un werth ei ddathlu. Hoffwn ddiolch i bawb a gymerodd ran ym mhrosiect REACH, ac i Amgueddfa Werin Cymru Sain Ffagan am roi llwyfan haeddiannol i’r straeon hyn.'
_0.png)
Y pum cymuned REACH a gynrychiolir yn yr arddangosfa yw:
Mae'r gweithiau a grëwyd gan y gymuned yn cynnwys draig fawr a gludwyd yng Ngharnifal Tre-biwt, cerfluniau helyg a chlytwaith wedi'i ysbrydoli gan Afon Cleddau. Maent yn ymddangos ochr yn ochr â gwrthrychau o gasgliad Amgueddfa Cymru, gan gynnwys telyn a wnaed gan Evan James o Bontypridd, powlen wasael o Grochendy Ewenni, Mari Lwyd o Langynwyd a rac sychu bara ceirch o Lanllyfni.
.png)
Mae Jen (yn y llun), sydd yn wreiddiol o Dde Affrica, bellach yn byw ym Mhort Talbot. Roedd yn rhan o grŵp Sandfields, sydd wedi creu nifer o weithiau, gan gynnwys darn celf gwydr ar y cyd sy’n darlunio nodweddion lleol yr ardal.
'Yr hyn rwy’n ei hoffi fwyaf am Port Talbot yw cael y mynyddoedd ar un ochr, a’r môr ar yr ochr arall,' dywedodd Jen. 'Mae gennym y gorau o’r ddau fyd! Mae pobl Port Talbot hefyd yn gyfeillgar. Rwyf wedi bod yng Nghymru ers 26 mlynedd, ac rwyf wedi cael croeso cynnes yn y gymuned. Rwy wedi teithio llawer, ac mae wedi bod yn wych dysgu am Gymru a’i threftadaeth ble bynnag yr af. Mae gan y bobl angerdd mawr dros fod yn Gymry, rhywbeth rwyf bob amser wedi’i fwynhau.'
Mae REACH Cymru yn bosibl gyda chefnogaeth Cronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol. Diolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol, mae cymunedau ledled Cymru wedi gallu archwilio eu straeon, eu treftadaeth a'u hanes drwy'r celfyddydau creadigol.

Darllenwch am ein cymwysterau a’n cyrsiau drwy ofyn am brosbectws heddiw
Rhodri Davies
Uwch Reolwr Cyfathrebu
Ffôn: 029 21 674 532
Am ymholiadau cyfryngau cyffredinol Y Brifysgol Agored, cysylltwch â
swyddfa'r wasg
Ffôn: 01908 654316 /
Y tu allan i oriau swyddfa: 07901 515891
Mae arddangosfa newydd sy'n dwyn ynghyd lleisiau, atgofion a chreadigrwydd pum cymuned o bob cwr o Gymru wedi'i lansio yn Amgueddfa Werin Cymru Sain Ffagan.
Mae myfyriwr graddedig o Gymru a gychwynnodd ei daith ddysgu gyda chyrsiau byr rhad ac am ddim y Brifysgol Agored bellach yn dathlu cymhwyso fel athro ar ôl symud ymlaen drwy bob cam allweddol o astudiaeth a gynigir gan y Brifysgol Agored.