Mae myfyriwr graddedig o Gymru a gychwynnodd ei daith ddysgu gyda chyrsiau byr rhad ac am ddim y Brifysgol Agored bellach yn dathlu cymhwyso fel athro ar ôl symud ymlaen drwy bob cam allweddol o astudiaeth a gynigir gan y Brifysgol Agored.
Mae taith Joseph yn dangos sut y gall dysgu hyblyg sbarduno cyfleoedd a chynorthwyo pobl i wireddu dyheadau a fyddai efallai wedi teimlo'n anghyraeddadwy ar un adeg. Ac yntau wedi dechrau gyda chyrsiau rhad ac am ddim OpenLearn, aeth Joseph yn ei flaen i gwblhau gradd BA (Anrh) Astudiaethau Addysg cyn cymhwyso drwy raglen TAR y Brifysgol Agored, gan gyflawni uchelgais y bu ganddo ers tro i weithio ym myd addysg.
Heddiw, mae'n gwneud yr hyn yr oedd bob amser yn gobeithio y byddai'n ei wneud: addysgu ac ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf.
Dechreuodd Joseph, o Gaerdydd, gael ei ysbrydoli i ddod yn athro yn ystod ei ddyddiau ei hun yn yr ysgol.
"Daeth addysg yn hollbwysig i mi yn fy ysgol uwchradd", meddai. "Rwy'n credu mai dyna o le daeth fy mrwdfrydedd a'm hawydd i wneud fy swydd. Dois ar draws athrawon yno a wnaeth wirioneddol fy ysbrydoli a meddyliais y gallwn ddechrau addysgu a bod y math hwnnw o athro."
Fodd bynnag, fel sawl person, nid aeth Joseph ar ei union i addysg uwch.
Ar ôl gadael yr ysgol, treuliodd amser yn ystyried ei ddewisiadau ac yn ennill profiad ymarferol cyn ymrwymo i astudio yn y brifysgol.
"Penderfynais gymryd amser i ffwrdd a dod o hyd i swydd a oedd yn fy ngalluogi i ennill rhywfaint o brofiad mewn ysgolion cynradd," eglurodd.
Yn ystod y cyfnod hwn, parhaodd Joseph i ddatblygu ei ddiddordeb ym myd addysg a dechreuodd ystyried ffyrdd y gallai ddilyn gyrfa addysgu wrth gydbwyso gwaith ac ymrwymiadau eraill ar yr un pryd. Daeth ar draws y Brifysgol Agored wrth iddo ymchwilio i gymwysterau addysgu.
"Dechreuais ymchwilio i gyrsiau TAR a daeth hysbyseb y Brifysgol Agored i fyny ar y cyfryngau cymdeithasol," meddai. "Cliciais arno i gael golwg a bu i mi wirioni ar fy union gyda'r hyblygrwydd a'r cyfle y byddai'r Brifysgol Agored yn eu rhoi i mi."
Cyn dechrau ar gymwysterau ffurfiol, archwiliodd Joseph y llwybr dysgu am ddim drwy OpenLearn, sef platfform dysgu am ddim y Brifysgol Agored. Rhoddodd y profiad iddo'r hyder i gymryd y cam nesaf a dechrau astudiaeth israddedig.
Rwy'n cofio hyd heddiw'r sgwrs a gefais gyda fy mam. Dywedodd fy mam, 'Gelli di fod yn 28 ymhen pum mlynedd gyda gradd a chymhwyster athro, neu gelli di fod yn 28. Dim ond ti sy'n gallu penderfynu lle wyt ti eisiau bod.'
Joseph
Cafodd ei ddenu'n benodol at yr hyblygrwydd roedd ddysgu o bell yn ei gynnig, a alluogodd ef i ddal ati i weithio wrth astudio.
"Dyna pryd y sylwais fod modd cyflawni'r graddau israddedig ar sail rhan amser dros nifer o flynyddoedd, a olygai y gallwn gael yr hyblygrwydd i ddal ati gyda'm swydd," meddai.
Drwy gydol ei astudiaethau, parhaodd Joseph i ganolbwyntio ar ei nod o ddod yn athro. Ochr yn ochr â'i ddysgu academaidd, parhaodd i ennill profiad gwerth chweil yn yr ystafell ddosbarth, a bu hyn o gymorth iddo ddatblygu'r wybodaeth, y sgiliau a'r hyder oedd eu hangen arno i ddilyn gyrfa ym myd addysg.
Gan fyfyrio ar y gefnogaeth a gafodd gan ei diwtoriaid, dywedodd Joseph: "Roedd Dr Catherine Bleasdale yn hynod gefnogol, yn enwedig yn ystod fy nghwrs TAR. Roedd hi bob amser wrth law i ateb fy nghwestiynau, a gwnaeth hyn wahaniaeth gwirioneddol yn ystod fy nghyfnod gyda'r Brifysgol Agored.”
Bu cefnogaeth ei deulu hefyd yn rhan allweddol o'i daith.
"Rwy'n cofio hyd heddiw'r sgwrs a gefais gyda fy mam," meddai. "Dywedodd fy mam, 'Gelli di fod yn 28 ymhen pum mlynedd gyda gradd a chymhwyster athro, neu gelli di fod yn 28. Dim ond ti sy'n gallu penderfynu lle wyt ti eisiau bod.'"
Dylanwadodd y geiriau hynny'n fawr arnaf.
Bum mlynedd yn ddiweddarach, mae Joseph wedi llwyddo i gyflawni'r union beth y bwriadodd ei wneud, sef symud ymlaen o fod yn ddarpar addysgwr i fod yn athro cymwys drwy daith a ddechreuodd gyda phenderfyniad syml i holi am astudio.
Ac yntau bellach yn gweithio ar lawr y dosbarth, mae'n dweud nad oes unrhyw amheuaeth ei fod wedi gwneud y dewis cywir.
"Rwyf wrth fy modd ar lawr y dosbarth. Rwy'n mwynhau unrhyw gyfle a gaf i dreulio amser gyda'r plant yn fy nosbarth," meddai. "Rwy'n angerddol dros addysgu. Addysg ydyw drwyddi draw."
Wrth fyfyrio ar ei daith, mae Joseph yn falch o bopeth y mae wedi'i gyflawni a'r cyfleoedd y mae astudio gyda'r Brifysgol Agored wedi'u rhoi iddo.
"Rwy'n falch iawn o ddweud, bum mlynedd yn ddiweddarach, mai dyma'r newid mwyaf y gallwn fod wedi gofyn amdano yn fy mywyd."
Mae'n gobeithio y bydd ei stori'n annog eraill i gymryd y camau cyntaf i ddysgu, waeth beth yw eu sefyllfa neu gam bywyd.
"Byddem yn argymell y Brifysgol Agored i unrhyw un sy'n ystyried mynd i'r brifysgol," meddai. "Mae’n werth yr alwad gyntaf honno oherwydd, i mi, fe wnaeth yr alwad ffôn gyntaf honno newid fy mywyd."
O ddysgu am ddim drwy OpenLearn i astudiaeth israddedig, hyfforddiant athrawon proffesiynol a gyrfa ar lawr y dosbarth, mae stori Joseph yn dangos sut y gall penderfynoldeb, cefnogaeth a model dysgu hyblyg y Brifysgol Agored helpu i wireddu breuddwydion.
I ddod yn athro ysgol gynradd neu uwchradd yng Nghymru, bydd angen i chi ennill Statws Athro Cymwysedig (SAC) drwy raglen hyfforddiant athrawon achrededig.
Mae Tystysgrif Addysg i Raddedigion (TAR) dwy flynedd y Brifysgol Agored yn cyfuno astudiaeth ar-lein â chymorth gyda phrofiad ymarferol mewn ysgolion. Gallwch astudio yn unrhyw le yng Nghymru, yn Gymraeg neu Saesneg, a dewis o blith y llwybrau canlynol:
Mae'r ddau lwybr yn arwain at TAR gyda SAC ac yn cynnwys profiad ymarferol mewn dwy ysgol. Mae opsiynau ar gael ar gyfer addysgu cynradd ac ystod o bynciau uwchradd.
Dysgwch sut i ddod yn athro gyda'r Brifysgol Agored yng Nghymru, cymharwch y llwybrau TAR cyflogedig a rhan amser, a gwiriwch y gofynion mynediad.
Darllenwch am ein cymwysterau a’n cyrsiau drwy ofyn am brosbectws heddiw