Tu ôl i'r llenni gyda Llwybrau: llunio cynnydd o’r cychwyn cyntaf yn Rhondda Cynon Taf

Alice (chwith) a Stacey (de) yn eistedd ac yn yfed coffi, gyda chacen ar y bwrdd. Maen nhw'n cael sgwrs ac yn chwerthin.

Prosiect sy’n gweithredu ar hyd a lled Rhondda Cynon Taf yw Llwybrau, sy’n helpu pobl i wneud cynnydd mewn addysg oedolion. Caiff ei arwain gan y Brifysgol Agored yng Nghymru a’i ariannu drwy Gronfa Datblygu Strategol Medr. 

Yn y sesiwn holi ac ateb hon, cawn glywed gan Stacey Pring, Rheolwr Partneriaethau, ac Alice Tetstall, Swyddog Prosiect, sydd yn dweud mwy wrthym am sut mae Llwybrau yn helpu pobl. 

Beth yw Llwybrau, a pham ei fod yn bwysig nawr i bobl yn Rhondda Cynon Taf?

Stacey:
Mae Llwybrau yn helpu pobl i ddeall eu camau nesaf, p’un a yw hynny’n ddysgu rhywbeth newydd, cael cymwysterau neu ddod o hyd i waith. Mae’n eu helpu i ddod o hyd i’r cyfleoedd cywir, a bydd unrhyw adborth y maent yn ei roi i ni yn ein helpu i lywio’r cymorth sydd ar gael yn y dyfodol. 

Mae'r digwyddiad yn cael ei gynnal ar adeg bwysig, wrth i Lywodraeth Cymru edrych ar y ffordd orau o gynorthwyo pobl ifanc nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant, yn ogystal â’r rheini sy’n cael eu haddysgu’r tu allan i ysgolion prif ffrwd, ac oedolion sy'n dychwelyd i ddysgu.

Alice:  
Rwyf wedi sgwrsio â llawer o bobl yn Rhondda Cynon Taf, o arddegwyr sy’n dechrau arni i’r rhai sy’n awyddus i ddychwelyd i astudio neu newid swyddi. Mae pawb yn cytuno ei bod yn anodd canfod beth sy’n iawn iddynt. Mae llawer o opsiynau ar gael, ond nid yw pobl yn yr ardal wedi bod yn ymwybodol o’u hopsiynau. Mae wedi bod yn braf cael ymweld â chymaint o ganolfannau cymunedol a rhoi gwybodaeth i bobl am bopeth y gallant ei wneud.

Pam mae’r dull hwn mor bwysig yn nhirwedd addysg heddiw?

Stacey:  
Yn Llwybrau, rydym yn cyfeirio at bobl fel ymholwyr yn hytrach na dysgwyr oherwydd bod nodau pawb yn wahanol. Efallai y bydd rhai pobl yn awyddus i ddod o hyd i waith, eraill â diddordeb mewn gwirfoddoli, magu hyder, datblygu sgiliau newydd neu chwarae mwy o ran yn eu cymuned.

Trwy ein dull sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn, rydym yn cydnabod nad yw unrhyw ddwy daith yr un fath. Mae gan bawb eu cryfderau, uchelgeisiau a heriau, felly rydym yn treulio amser yn deall yr hyn sydd o bwys i bob person, yn hytrach na chynnig un datrysiad i bawb.

Sut mae partneriaid wedi cyfrannu at lywio’r model?

Stacey: 
Rydym wedi datblygu Llwybrau gyda phartneriaid addysg a chymunedol er mwyn sicrhau ei fod yn adlewyrchu gwir anghenion y bobl mae’n ei gynorthwyo.

Rydym yn ymwybodol fod cymorth yn gallu bod yn wahanol o un sefydliad i un arall. Mae rhai yn gweithio un i un, rhai yn cynnal sesiynau grŵp, a rhai yn cynnig cyfleoedd ar-lein neu wyneb yn wyneb. Dyna pam bod Llwybrau yn ddigon hyblyg i weddu i wahanol ffyrdd o weithio.

Buom hefyd yn edrych ar y sgiliau a’r profiadau sy’n helpu pobl i symud ymlaen mewn bywyd, o lythrennedd, rhifedd a sgiliau digidol i lesiant ac ymwneud cymunedol. I’w gwneud yn haws i ddod o hyd i’r cyfleoedd cywir, rydym wedi creu platfform ar-lein sy’n dod â chyrsiau lleol, gwasanaethau a chymorth ynghyd mewn un lle. Rhydd hyn fwy o ddewis i ymholwyr a’i gwneud yn llawer cynt i ni gysylltu’r bobl gyda’r holl gyfleoedd hyn.

Pa adnoddau ymarferol mae’r tîm Llwybrau wedi’u datblygu, a sut maent yn wahanol i’r hyn oedd ar gael yn flaenorol?

Stacey: 
Un o’r pethau allweddol a wnaethom ei ddatblygu oedd yr Adnodd Asesu Galluoedd, yr ydym wedi ei addasu mewn gwahanol ffyrdd i fod yn addas ar gyfer ymholwyr ac ymarferwyr. Gellir ei ddefnyddio fel gwiriad hyder cyflym mewn digwyddiadau, neu fel man cychwyn ar gyfer sgyrsiau a myfyrdod manwl. 

Yr hyn sy’n ei wneud yn effeithiol yw ei fod wedi cael ei gyd-ddylunio gyda phartneriaid i roi arweiniad diduedd sy’n canolbwyntio ar y person, ac mae ganddo’r potensial i gael ei ddefnyddio ar hyd a lled Cymru. Rydym yn canolbwyntio ar helpu pobl adnabod eu camau nesaf a dod o hyd i’r cyfleoedd cywir iddynt eu hunain, beth bynnag fo’u man cychwyn neu brofiad blaenorol.

Beth yw’r rhan fwyaf boddhaol o weithio ar Llwybrau?

Stacey: 
Y peth gorau am y prosiect yw cael gweithio gyda phobl ar hyd a lled Rhondda Cynon Taf a chlywed yn uniongyrchol am eu profiadau. Mae hefyd wedi bod yn wych dod â gwahanol sefydliadau ynghyd ar gyfer nod cyffredin; helpu pobl i fagu hyder, datblygu sgiliau newydd a chymryd y cam nesaf sy’n addas ar eu cyfer.

Trwy weithio gyda’n gilydd, a rhannu gwybodaeth ac adnoddau, gallwn gynnig gwell cymorth a sicrhau bod nodau pobl yn aros wrth wraidd popeth a wnawn.

Alice: 
Mae wedi bod yn wych helpu pobl i weld posibiliadau newydd pan maent yn sownd neu’n ansicr am yr hyn i’w wneud nesaf. Weithiau dim ond cymryd y cam cyntaf gyda’n gilydd sydd ei angen, a helpu rhywun i sylweddoli bod cyfleoedd ar gael iddynt. 

Mae hefyd wedi bod yn ysbrydoledig i weld y gwaith gwych sydd eisoes yn digwydd mewn cymunedau lleol. Un enghraifft ragorol oedd ymweld â’r caffi cymunedol yn Llyfrgell Aberpennar, lle’r oedd pobl o bob oedran yn dod ynghyd am frecwast, sgwrs ac ymdeimlad o gysylltiad. Rydym hefyd wedi cwrdd â sefydliadau cymunedol ymroddedig sy’n gweithio’n ddi-flino i ddarparu gweithgareddau am ddim a chymorth i blant, oedolion a theuluoedd sydd eu hangen fwyaf.

Sut beth yw llwyddiant i chi yn y prosiect hwn?

Stacey: 
I ni, mae llwyddiant yn golygu gwrando ar bobl sy’n defnyddio Llwybrau a dysgu o’u profiadau. Trwy gasglu adborth gan bawb a gymerodd ran, gallwn weld beth sy’n gweithio’n dda a lle allwn ni wneud gwelliannau.

Alice: 
Llwyddiant i mi yw gallu cael effaith ar un person hyd yn oed - eu gwneud yn ymwybodol o’r cyfleoedd o’u cwmpas. Gobeithio y gallwn ymgyrraedd at fwy o bobl a chael effaith gadarnhaol, o fân newidiadau i rai mawr. 

Beth yw’r camau nesaf ar gyfer Llwybrau?

Stacey: 
Y cam nesaf yw rhoi’r adnoddau ar waith. Mae sefydliadau partner eisoes yn eu defnyddio gyda phobl ifanc ac oedolion ar hyd a lled Rhondda Cynon Taf.

Wrth i fwy o bobl ddefnyddio’r adnoddau, byddwn yn casglu adborth i ganfod beth sy’n gweithio’n dda a lle gellir gwella pethau. Bydd y dysgu hwnnw yn helpu i lywio dyfodol y prosiect, ac yn ehangach, yn llywio sut y byddwn yn rhoi gwybodaeth, cyngor ac arweiniad ar hyd a lled Cymru yn y dyfodol. Cadwch lygad!

Gofynnwch am eich prosbectws

Darllenwch am ein cymwysterau a’n cyrsiau drwy ofyn am brosbectws heddiw

Gofyn am brosbectws

Rhodri Davies 
Uwch Reolwr Cyfathrebu
Ffôn: 029 21 674 532

Am ymholiadau cyfryngau cyffredinol Y Brifysgol Agored, cysylltwch â
swyddfa'r wasg
Ffôn: 01908 654316 /
Y tu allan i oriau swyddfa: 07901 515891

Jack yn hyfforddi pêl-droed gydag Iniesta

Cyn-fyfyriwr y Brifysgol Agored yn dysgu gan Iniesta

O hyfforddi ar lawr gwlad, i ddysgu gan Andrés Iniesta: rydym yn sgwrsio â myfyriwr graddedig y Brifysgol Agored sydd â stori anhygoel