Adroddiad newydd yn tynnu sylw at y rhwystrau sy'n wynebu merched-ffoaduriaid yng Nghymru

Person yn siarad yn y digwyddiad

Mae adroddiad newydd o bwys gan y Brifysgol Agored a Chyngor Ffoaduriaid Cymru wedi datgelu'r her sylweddol sy’n wynebu llawer o ferched-ffoaduriaid wrth iddynt geisio cael addysg a gwaith yng Nghymru.

Mae’r adroddiad – If you only look at the barriers you can’t move - yn tynnu ar brofiadau bywyd merched-ffoaduriaid sy'n byw mewn cymunedau ledled Cymru. Canfu'r tîm ymchwil bod gan lawer o ferched-ffoaduriaid gymwysterau, profiadau proffesiynol ac uchelgeisiau cryf, ond eu bod yn cael eu hatal rhag cyrraedd eu potensial oherwydd cyfuniad o rwystrau.

Canfyddiadau

Dyma rai o ganfyddiadau allweddol y gwaith ymchwil:

  • cyfuniad o rwystrau sy'n gorgyffwrdd gan gynnwys cyfrifoldebau gofal plant, rhwystrau iaith, tlodi, gwahaniaethu, a dim cydnabyddiaeth o’r cymwysterau a’r sgiliau sydd wedi'u hennill y tu allan i'r DU.
  • "anfantais driphlyg" wedi'i ffurfio gan statws mewnfudo, rhyw ac ethnigrwydd.
  • pwysau ariannol sy'n gysylltiedig â chostau trafnidiaeth, costau gofal plant a chyfyngiadau o fewn y system lloches 
  • profiadau o hiliaeth a gwahaniaethu sy'n effeithio ar ferched a'u plant

Clawr adroddiad cryno: Grymuso Menywod sy'n Ffoaduriaid

 

 

 

If you only look at the barriers you can’t move

Lawrlwythwch yr adroddiad cryno (PDF, 409.9 KB)

Lawrlwythwch

Straeon am wydnwch a phenderfyniad

Ochr yn ochr â'r heriau hyn, mae'r adroddiad yn tynnu sylw at wydnwch, penderfyniad a dyheadau merched-ffoaduriaid ledled Cymru.

Disgrifiodd lawer ohonynt iddynt aberthu uchelgeisiau personol er mwyn lles ac addysg eu plant, yn aml wrth iddynt addasu i fywyd mewn gwlad newydd heb gymorth teulu na ffrindiau. Soniodd amryw am deimlo'n ynysig, am golli hunaniaeth broffesiynol ac am fethu defnyddio'r cymwysterau a'r arbenigedd yr oeddent wedi'u hennill cyn cyrraedd y DU.

Mae'r adroddiad yn rhannu straeon merched a oedd yn athrawon, yn gyfreithwyr, yn wyddonwyr, yn ddylunwyr ac yn weithwyr proffesiynol medrus eraill, ond yn methu gweithio yn eu dewis nhw o feysydd. A hynny oherwydd nad oedd cymwysterau yn cael eu cydnabod, neu oherwydd bod dogfennau hanfodol wedi mynd ar goll wrth iddynt symud.

Er gwaethaf yr heriau hyn, parhaodd lawer o ferched i ddilyn addysg, dysgu Saesneg, gwirfoddoli yn eu cymunedau a chefnogi eraill oedd yn wynebu profiadau tebyg. Canfu'r tîm uchelgeisiau cryf ymhlith y cyfranogwyr, gan gynnwys dyheadau i fod yn nyrsys, awduron, perchnogion busnes a gweision cyhoeddus.

Dywedodd Dr Camila Montiel-McCann, Prif Ymchwilydd ac awdur yr adroddiad:

Mae'r adroddiad hwn yn dangos nad diffyg uchelgais, talent neu benderfyniad sy’n dal merched-ffoaduriaid yng Nghymru yn ôl. Cyrhaeddodd y merched a rannodd eu profiadau gyda ni â sgiliau, cymwysterau a breuddwydion ar gyfer y dyfodol, ond yn rhy aml maent yn wynebu rhwystrau strwythurol sy'n eu hatal rhag cael addysg a chyflogaeth ystyrlon.

Mae eu straeon yn enghreifftiau pwerus o wydnwch, ond maen nhw hefyd yn tynnu sylw at yr angen brys am gymorth sy'n cael ei lywio gan drawma, sy'n sensitif i rywedd ac wedi'i seilio'n lleol. Os yw Cymru o ddifri am gynhwysiant, mae'n rhaid i ni sicrhau bod merched-ffoaduriaid yn cael eu cydnabod am y cyfraniad sylweddol y gallant ei wneud i'n cymunedau, ein gweithleoedd a'n cymdeithas, nid am y rhwystrau maen nhw'n eu hwynebu.

Edrych ymlaen

Mae'r adroddiad yn gwneud cyfres o argymhellion i Gymru a'r DU, gan gynnwys gwell cymorth gofal plant, darpariaeth Saesneg sy’n fwy arloesol, cyfleoedd mentora, gwell cydnabyddiaeth o gymwysterau tramor, a chreu Rhwydwaith i Ferched-Ffoaduriaid yng Nghymru i leihau’r teimlad o fod yn ynysig a gwella’r mynediad at gyfleoedd.

Ynglŷn â'r gwaith ymchwil

Datblygwyd yr adroddiad, "If you only look at the barriers, you can't move": Tackling Barriers to Education and Employment with Refugee Women in Wales, drwy gydweithrediad dros gyfnod o flwyddyn rhwng y Brifysgol Agored a Chyngor Ffoaduriaid Cymru. Roedd yr astudiaeth yn cynnwys 43 o ferched-ffoaduriaid sy'n byw mewn cymunedau ledled Cymru ac yn edrych ar y rhwystrau y maent yn eu hwynebu wrth gael mynediad at addysg a chyflogaeth, ochr yn ochr ag atebion ymarferol wedi'u llunio gan brofiadau bywyd.

Cefnogwyd y gwaith ymchwil drwy Open Societal Challenges, sef rhaglen ymchwil flaenllaw y Brifysgol Agored sy'n dod ag academyddion, partneriaid a chymunedau at ei gilydd i fynd i'r afael â rhai o’r heriau mwyaf mewn cymdeithas.

Mae'r rhaglen yn ariannu prosiectau cydweithredol sy'n edrych ar effaith, yn mynd i'r afael â materion yn y byd go iawn ac yn creu newid cadarnhaol i bobl, cymunedau a llunwyr polisi. Mae'r prosiect hwn yn dangos sut y gall gwaith ymchwil helpu i lywio gwasanaethau, polisïau a chodi lleisiau’r rheiny sy'n cael eu hanwybyddu'n rhy aml mewn trafodaethau cyhoeddus.

Gofynnwch am eich prosbectws

Darllenwch am ein cymwysterau a’n cyrsiau drwy ofyn am brosbectws heddiw

Gofyn am brosbectws

Rhodri Davies 
Uwch Reolwr Cyfathrebu
Ffôn: 029 21 674 532

Am ymholiadau cyfryngau cyffredinol Y Brifysgol Agored, cysylltwch â
swyddfa'r wasg
Ffôn: 01908 654316 /
Y tu allan i oriau swyddfa: 07901 515891

Person yn siarad yn y digwyddiad

Adroddiad newydd yn tynnu sylw at y rhwystrau sy'n wynebu merched-ffoaduriaid yng Nghymru

Mae adroddiad newydd o bwys gan y Brifysgol Agored a Chyngor Ffoaduriaid Cymru wedi datgelu'r her sylweddol sy’n wynebu llawer o ferched-ffoaduriaid wrth iddynt geisio cael addysg a gwaith yng Nghymru.

Constantina

Graddedigion yn dathlu uchelgeisiau gydol oes yng Nghasnewydd

Derbyniodd yr artist a'r tiwtor Constantina Alexander ei gradd mewn Mathemateg a Ffiseg gan y Brifysgol Agored ar ddydd Gwener.