“Yr hyn roeddwn yn ei garu fwyaf am y radd oedd ei bod mor eang,” meddai myfyriwr graddedig mewn Chwaraeon, Ffitrwydd a Hyfforddi o’r Brifysgol Agored, Jack Skoczen. “Roeddwn wrth fy modd gyda phob elfen ohoni. Yn y blynyddoedd olaf, buom yn gwneud llawer ar seicoleg hyfforddi. Mae wedi fy helpu i ddysgu ychydig mwy am sut i ymddwyn o gwmpas pobl, sut i gyfathrebu a sut i ddeall athletwyr.”
Mae taith Jack wedi mynd ag ef o lawr gwlad, yn gweithio gyda chwaraewyr tîm ieuenctid yn y pyramid lled broffesiynol yng Nghymru, i dîm EFL, Dinas Abertawe, a bellach i hyfforddi tîm dynion proffesiynol Gulf United yn yr Emiradau Arabaidd Unedig, ochr yn ochr ag enillydd Cwpan y Byd, Andrés Iniesta.
Wedi’i eni yn West Bromwich, symudodd Jack i Gymru gyda’i deulu pan oedd yn 11 oed. Dangosodd dalent fel pêl-droediwr ifanc, ond yn anffodus ar ôl dioddef cyfres o anafiadau oddeutu 15 oed, bu raid iddo roi’r gorau i’r freuddwyd o yrfa fel chwaraewr. Am gyfnod byr, astudiodd Ddylunio Cynnyrch mewn prifysgol draddodiadol, cyn teithio i Tsieina i ddysgu Saesneg fel iaith dramor.

“Ar ôl gorffen yn y brifysgol am y tro cyntaf, roeddwn yn awyddus i wneud rhywbeth a fyddai yn fy ngwthio o fy mharth cysur. Doeddwn i ddim yn gallu dod o hyd i unrhyw beth yr oeddwn yn awyddus i’w wneud gartref,” esbonia Jack. “Felly, meddyliais ’beth am wneud rhywbeth gwallgof a symud i ffwrdd’.” Yna penderfynodd astudio cwrs TEFL a symud i Dde Tsieina.
“Yn yr ysgol yn Tsieina, byddwn yn cymryd rhan mewn chwaraeon, a sylweddolais fy mod yn gallu cyfathrebu drwy bêl-droed. Ac yna o’r eiliad honno, dywedais ‘Rwyf am fod yn hyfforddwr’.”
Ar ôl dychwelyd i Gymru, dechreuodd Jack ar ei daith hyfforddi yn y clwb llawr gwlad Bryn Rovers, lle bu’n chwarae fel plentyn, gan gydbwyso ei gariad newydd at hyfforddi gyda swyddi mewn cwmni dosbarthu pitsa a Choleg Sir Gâr, cyn ymuno â thîm Tref Caerfyrddin.
“Erbyn hyn, roeddwn wedi gwneud fy mathodynnau hyfforddi, ond os oeddwn am fynd ymhellach, gwyddwn fod yn rhaid i mi fynd i’r brifysgol,” meddai. “A dyna pryd gwelais fod y Brifysgol Agored yn cynnig y cwrs. Roedd yn berffaith, oherwydd roeddwn yn gweithio ac yn hyfforddi rhan amser.”
“Mae hyblygrwydd o ran faint yr ydych yn astudio, felly llwyddais i orffen y radd mewn pum mlynedd. Roedd astudio’n raddol tra oeddwn yn hyfforddi o gymorth mawr, oherwydd cefais lawer mwy allan ohono. Roeddwn yn rhoi’r hyn yr oeddwn yn ei ddysgu ar waith.”
.png)
Ar ôl gadael Tref Caerfyrddin, bu Jack yn yr UDA gyda Chicago Fire am gyfnod byr. Yna ymunodd â Dinas Abertawe, fel Rheolwr Canolfan Ddatblygu yng Nghaerdydd ac Aberteifi i ddechrau arni, cyn symud ymlaen i fod yn Hyfforddwr Cyn-Academi, ac yn ei flwyddyn olaf fel swyddog Diogelu’r Academi, gyda chyfrifoldeb am lesiant chwaraewyr. Rhoddodd hyn bersbectif gwahanol iddo ar bêl-droed, gan feddwl sut y gallai chwaraewyr gael cefnogaeth gyfannol ochr yn ochr â’u datblygiad mewn chwaraeon.
Yn Abertawe, parhaodd Jack â’i daith gyda’r Brifysgol Agored. Yn ogystal â’r hyblygrwydd, dywedodd ei fod yn gwerthfawrogi’r profiad dysgu ar-lein.
“Roeddwn wastad yn mwynhau’r tiwtorialau ar-lein, gan fynd i gymaint ag y gallwn ohonynt. Wrth gwrs, mae elfen o hunan-astudiaeth, ond doeddech chi ddim yn hollol ar eich pen eich hun oherwydd roeddech yn gallu gweld yr hyn roedd pobl eraill yn ei ystyried, ac yn aml roedd ganddynt yr un cwestiynau â chi.”
“Gallwn ddarllen drwy bethau ychydig yn fwy ar fy mhwys fy hun. Ac rwy’n meddwl, gan ei fod ar-lein, roedd yn weledol iawn, roedd wastad o fy mlaen. Un peth arbennig yr wyf wedi ei ddysgu yw sut i ysgrifennu’n academaidd, gan ei fod yn wyddonol. Rwy’n dal i ddarllen papurau academaidd fel rhan o fy ngwaith.”
Yn dilyn ei gyfnod yn Abertawe, chwiliodd Jack am her arall dramor, yn yr Emiradau Arabaidd Unedig y tro hwn, gyda Gulf United, tîm a sefydlwyd chwe blynedd yn ôl. Mae’r hyn y mae’r clwb wedi’i gyflawni yn yr amser hynny, yn ôl Jack, “yn reit aruthrol.”
.png)
Mae tîm y dynion yn chwarae yn adran gyntaf y wlad, ac yn cael ei hyfforddi gan Andrés Inesta. Ar y dechrau, ar ôl gweithio gydag ystod o grwpiau oedran yn yr academi, hanner ffordd drwy dymor 25/26 cafodd Jack y cyfle i gymryd drosodd Gymdeithas Bêl-droed dan 19 yr Emiradau Arabaidd Unedig, gan oruchwylio newid mawr yn yr hyn oedd yn dymor trafferthus i’r grŵp. Gyda thymor 26/27 ar gychwyn, penodwyd Jack fel hyfforddwr y Rhaglen Datblygu Proffesiynol, sy’n chwarae yn Ail Gynghrair yr Emiradau Arabaidd Unedig.
Wrth weithio gyda grŵp oedran iau, mae llesiant chwaraewyr yn dal ar feddwl Jack.
“Yn dactegol, mae chwaraewyr ifanc yn fwy ymwybodol nag erioed. Felly, weithiau rwyf i’n dysgu ganddynt hwy! Rwy’n cael y sgyrsiau agored hyn gyda hwynt, hyd yn oed os ydynt yn iau na fi, dydw i ddim yn fi fawr. Byddaf yn dweud ‘rhowch chi wybodaeth i fi, ac fe roddaf i o’n ôl i chi’. Felly maent yn fwy gwybodus nag erioed, yn bendant.”
“Ond byddaf wastad yn trwytho chwaraewyr ifanc nad pêl-droed yw eich unig opsiwn. Mae’n yrfa tymor byr, felly mae angen i chi feddwl am yr hyn sy’n dod nesaf. Llesiant, gofal chwaraewyr, datblygu sgiliau bywyd ac addysg - rwy’n ceisio dod â hyn i’w rhaglen lawn fel hyfforddwr.”
Mae Jack yn enghraifft ffantastig o sut all graddau chwaraeon ac ymarfer corff o’r Brifysgol Agored helpu i lywio eich gyrfaoedd yn y dyfodol. Diolch i hyblygrwydd astudio’r Brifysgol Agored, gallwch gydbwyso gwaith ac astudio, wrth feithrin y sgiliau a’r hyder i droi’ch angerdd yn yrfa mewn hyfforddi, gwyddor chwaraeon, arweinyddiaeth a mwy. Edrychwch ar ein hystod o gymwysterau dan arweiniad arbenigwyr, gan gynnwys ein BSc (Anrh) Chwaraeon, Ffitrwydd a Hyfforddi, ac yn newydd ar gyfer Hydref 2026, ein BSc (Anrh) Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff. Yn ychwanegol, gall myfyrwyr yng Nghymru wneud cais am gymorth cynhaliaeth i helpu gyda chostau byw tra maent yn astudio. Rheolau cymhwystra yn berthnasol i gymorth ariannol.
Darllenwch am ein cymwysterau a’n cyrsiau drwy ofyn am brosbectws heddiw
Rhodri Davies
Uwch Reolwr Cyfathrebu
Ffôn: 029 21 674 532
Am ymholiadau cyfryngau cyffredinol Y Brifysgol Agored, cysylltwch â
swyddfa'r wasg
Ffôn: 01908 654316 /
Y tu allan i oriau swyddfa: 07901 515891
O hyfforddi ar lawr gwlad, i ddysgu gan Andrés Iniesta: rydym yn sgwrsio â myfyriwr graddedig y Brifysgol Agored sydd â stori anhygoel
Yn y gyfres ddwy ran, mae’r actor clodwiw o Gymru, Michael Sheen yn archwilio honiadau am ‘gemegau am byth’ gwenwynig sydd wedi cael eu cuddio o dan y ddaear mewn gwahanol rannau o Gymru ers yr 1960au, gan beri poendod i genedlaethau o bobl leol.