Rydym yn gweithio gydag ysgolion ar hyd a lled Cymru i gefnogi disgyblion, teuluoedd a staff.
Gall y cyfleoedd a gynigiwn gael eu hintegreiddio i flaenoriaethau ac amserlenni ysgolion, gan helpu dysgwyr i archwilio’u camau nesaf a datblygu sgiliau allweddol.
P’un a ydych yn fyfyriwr chweched dosbarth yn ystyried eich camau nesaf, yn athro’n chwilio am weithgareddau ystafell ddosbarth newydd, neu’n rhiant / gofalwr yn cefnogi’ch plentyn wrth ddatblygu’ch sgiliau eich hun, gallwn eich helpu. Mae hyn yn cynnwys helpu dysgwyr i gymryd eu camau nesaf i addysg uwch, boed yn gychwyn gradd israddedig neu’n ychwanegu at eu hastudiaethau presennol.
Rydym yn gweithio gydag ysgolion ledled Cymru mewn nifer o raglenni:
Rydym yn darparu rhaglen o weithgareddau ar gyfer ysgolion ar hyd a lled Cymru, yn cefnogi’r cwricwlwm ac yn helpu dysgwyr i ddatblygu sgiliau newydd. Mae hyn yn cynnwys:
Rydym wedi datblygu gweithgareddau RhGG i leihau’r baich ar staff, wrth ychwanegu gwerth i’ch addysgu.
Rydym yn gweithio’n agos gyda chydlynwyr Seren ac arweinwyr chweched dosbarth i gefnogi dysgwyr cyrhaeddiad uwch sy’n ystyried addysg uwch.
Mae ein gwaith yn cynnwys:
Rydym yn helpu rhieni a gofalwyr i feithrin eu sgiliau a’u hyder. Gall hyn wella’r deilliannau i ddysgwyr a’u helpu nhw a chymuned yr ysgol yn ehangach.
Drwy sesiynau gydag ysgolion, byddwn yn siarad â theuluoedd am
Mae gennym ddysgu hyblyg ar gyfer pobl ifanc, ar wahân i addysg anhraddodiadol, gan gynnwys:
canllawiau i ofalwyr, teuluoedd maeth ac oedolion sy’n cefnogi dysgwyr. Mae ein model dysgu hyblyg yn helpu dysgwyr i osgoi cael eu gadael ar ôl, ac i ddilyn llwybrau newydd i addysg bellach neu addysg uwch.
Ar hyn o bryd rydym yn datblygu partneriaethau newydd gydag ysgolion ar hyd a lled Cymru drwy gyfres o brosiectau peilot, sy’n ein helpu ni ddatblygu ffyrdd newydd i’w cefnogi. Mae’r rhain yn cynnwys:
Darllenwch am ein cymwysterau a’n cyrsiau drwy ofyn am brosbectws heddiw