Gyrfaoedd

Sut hoffech chi helpu rhywun i newid eu bywyd? Ni yw darparwr addysg uwch israddedig rhan-amser mwyaf Cymru – mae mwy na 16,000 o bobl o bron bob cymuned ledled Cymru yn astudio gyda ni.

Yr hyn a gewch yn ôl:

  • Rydym yn talu cyflogau cystadleuol fel y gallwn recriwtio a chadw pobl o safon uchel.
  • I wobrwyo eich gwaith caled ac am gydbwysedd gwych rhwng bywyd a gwaith, rydym yn cynnig gwyliau blynyddol hael o hyd at 33 diwrnod, yn ogystal â holl wyliau banc a gwyliau cyhoeddus eraill.
  • Gallwn dalu eich ffioedd ar gyfer cyrsiau tra byddwch yn gweithio gyda ni.
  • Gallwch gyfrannu at gynllun pensiwn deniadol – Cynllun Blwydd-dal y Prifysgolion (USS).
  • Rydym yn cefnogi patrymau gwaith hybrid hyblyg.

Swyddi

Swyddog Polisi a Materion Cyhoeddus
£32,080 - £37,694
Contract Cyfnod Penodol, 37 awr yr wythnos
Dyddiad ca: 17 Ebrill, 2026 - 12:00

Bydd y Swyddog Polisi a Materion Cyhoeddus yn cefnogi ymgysylltiad y Brifysgol Agored yng Nghymru â gwleidyddion, gwneuthurwyr polisi a rheoleiddwyr ar drobwynt i addysg uwch yng Nghymru yn dilyn etholiad 2026 y Senedd ac wrth i system reoleiddio newydd Medr gael ei hymgorffori. 

Gan adrodd i'r Uwch-reolwr Polisi a Materion Cyhoeddus, bydd y rôl yn canolbwyntio ar gefnogi a chyflawni ymgysylltiad gwleidyddol, monitro a dadansoddi datblygiadau polisi, a helpu i sicrhau bod Y Brifysgol Agored yn weladwy, yn gredadwy ac wedi'i briffio'n dda. Mae'r rôl hon yn cefnogi enw da y Brifysgol fel partner credadwy a dibynadwy yn amgylchedd polisi Cymru.

Datblygiad personol

Mae helpu ein pobl i ddatblygu yn allweddol ar gyfer cadw'r staff gorau. Dyna pam mae gennym raglen hyfforddi a datblygu gynhwysfawr, sy’n cynnwys:

  • rhaglen sefydlu ar gyfer yr holl staff newydd gydag adolygiadau rheolaidd
  • gweithdai hyfforddi i gefnogi datblygiad staff
  • mentrau datblygu fel sgyrsiau dros goffi i gwrdd â chydweithwyr newydd; cylchoedd dysgu i wella perthnasoedd ar draws timau, a mentora i'ch helpu i adnabod eich cryfderau a dysgu gan eraill.

Ble rydym ni?

Mae swyddfa'r Brifysgol Agored yng Nghymru yng nghanol bywiog Dinas Caerdydd. Rydym wedi ein lleoli yn Stryd y Tollty, gyferbyn â John Lewis a gwesty'r Marriot. Gan ein bod yng nghanol y ddinas, rydym yn hygyrch iawn ac mae gorsaf drenau Caerdydd Canolog bum munud i ffwrdd ar droed, ac mae sawl llwybr bysiau i gyrraedd canol dinas Caerdydd sy'n arwain at ein swyddfa.

Lawrlwythwch wybodaeth am hygyrchedd ar gyfer ymweld yn bersonol â’r swyddfa yng Nghaerdydd:

Map yn dangos y llwybr o orsaf Caerdydd Canolog i swyddfeydd y Brifysgol Agored yng Nghymru

Yr olygfa ar fap

Gofynnwch am eich prosbectws

Darllenwch am ein cymwysterau a’n cyrsiau drwy ofyn am brosbectws heddiw

Gofyn am brosbectws