Y Brifysgol Agored yng Nghymru yn gweithio i gefnogi'r trydydd sector

Cydweithwyr y Brifysgol Agored gyda dirprwy gyfarwyddwr WCVA

Eleni, y Brifysgol Agored yng Nghymru yw prif noddwr gwobrau elusennau Cymru. Mae'r digwyddiad hwn yn rhoi'r cyfle i ddathlu gwaith a llwyddiannau  elusennau, grwpiau cymunedol, mudiadau nid-er-elw a gwirfoddolwyr yng Nghymru. Mae'r gwobrau yn cael eu trefnu gan WCVA, y sefydliad aelodaeth cenedlaethol ar gyfer y trydydd sector a gwirfoddoli yng Nghymru.

Mae'r categorïau eleni yn cynnwys Gwirfoddolwr y flwyddyn, Codwr Arian y flwyddyn a Hyrwyddwr amrywiaeth. Cynhelir y seremoni ar 25 Tachwedd 2024.

'Rydym yn falch o fod yn brif noddwr Gwobrau Elusennau Cymru eleni,' meddai Helen Thomas, Rheolwr Partneriaethau gyda'r Brifysgol Agored yng Nghymru. 'Mae'n bwysig iawn i ni bod y gwaith caled mae elusennau a sefydliadau trydydd sector yn cael eu cydnabod a'u dathlu. Rydym yn gobeithio meithrin y berthynas hon gyda WCVA a pharhau i gefnogi gwaith sefydliadau trydydd sector gyda'r cyfleoedd dysgu rydym yn gallu eu darparu.'

Hyfforddiant ar gyfer elusennau

Myfyriwr wrth gyfrifiadur yn gwisgo clustffonau

Mae rhaglen hyfforddiant y Brifysgol Agored, 'Elw drwy Wirfoddoli, hefyd yn fod i ddechrau yr wythnos nesaf, yn dilyn cynllun peilot llwyddiannus yn gynharach eleni.

Mae'r rhaglen naw wythnos rhad ac am ddim yn helpu  gwirfoddolwyr i wella eu sgiliau proffesiynol a datblygu eu gyrfaoedd gwirfoddoli. Mae wedi ei gynhyrchu mewn partneriaeth â WCVA.

‘Drwy weithio gyda'n gilydd, rydymwedi creu dysgu hygyrch ar gyfer gwirfoddolwyr, gan gynyddu eu sgiliau, hyder ac ymwybyddiaeth o gyfleoedd i ddysgu,’ ychwanegodd Sara Sellek, Cyfarwyddwr Cynorthwyol gyda WCVA.

Mae'r hyfforddiant yn dechrau ar 8 Hydref a bydd yn cael ei gynnal ar Microsoft Teams. Os hoffech chi gymryd rhan, gallwch gofrestru eich diddordeb yma.

Cymerwch olwg ar beth o'r gwaith rydym ni'n ei wneud gyda'r trydydd sector yma.

Gofynnwch am eich prosbectws

Darllenwch am ein cymwysterau a’n cyrsiau drwy ofyn am brosbectws heddiw

Gofyn am brosbectws

Rhodri Davies 
Uwch Reolwr Cyfathrebu
Ffôn: 029 21 674 532

Am ymholiadau cyfryngau cyffredinol Y Brifysgol Agored, cysylltwch â
swyddfa'r wasg
Ffôn: 01908 654316 /
Y tu allan i oriau swyddfa: 07901 515891

OU colleagues with Rebecca

Astudio fel myfyriwr dyslecsig

Yn y blog hwn, mae un o'n myfyrwyr, Becky, yn dweud wrthym sut y darganfu fod ganddi ddyslecsia, sut y daeth o hyd i'r gefnogaeth yr oedd ei hangen arni, a sut y magodd yr hyder i ddechrau gweithio tuag at radd yr oedd hi unwaith yn meddwl oedd y tu hwnt i'w chyrraedd.

Person yn siarad yn y digwyddiad

Adroddiad newydd yn tynnu sylw at y rhwystrau sy'n wynebu merched-ffoaduriaid yng Nghymru

Mae adroddiad newydd o bwys gan y Brifysgol Agored a Chyngor Ffoaduriaid Cymru wedi datgelu'r her sylweddol sy’n wynebu llawer o ferched-ffoaduriaid wrth iddynt geisio cael addysg a gwaith yng Nghymru.