Mae cynulleidfaoedd ledled Cymru wedi bod yn cael eu swyno gan gyd-gynhyrchiad newydd y BBC/y Brifysgol Agored, Buried with Michael Sheen. Yn y gyfres ddwy ran, mae’r actor clodwiw o Gymru yn archwilio honiadau am ‘gemegau am byth’ gwenwynig sydd wedi cael eu cuddio o dan y ddaear mewn gwahanol rannau o Gymru ers yr 1960au, gan beri poendod i genedlaethau o bobl leol.
Mae tîm o academyddion yn y Brifysgol Agored wedi chwarae rhan allweddol wrth helpu cynulleidfaoedd i ddeall y dystiolaeth y tu ôl i’r stori, ac effaith biffenylau polyclorinedig (PCBs). Gan ddefnyddio eu harbenigedd yn y gwyddorau ffisegol a chymdeithasol, maent wedi cefnogi archwiliad y rhaglen o halogiad amgylcheddol, y traw-effaith ar drigolion a chenedlaethau'r dyfodol, ac etifeddiaeth sgandal llygredd difrifol.
Enillodd y Darlithydd mewn Cemeg, Dr Daniel Payne, ei PhD mewn Cemeg Organig yn 2017. Mae ganddo gefndir yn y diwydiant fferyllol, ac ymunodd â’r Brifysgol Agored yn 2023.
Mae llawer o ymchwil Daniel wedi bod yn canolbwyntio ar ddylunio a syntheseiddio moleciwlau organig a all drin clefydau a mynd i'r afael â llygredd.
Un o gryfderau’r Brifysgol Agored yw ei gallu i ddod ag arbenigedd o wahanol ddisgyblaethau ynghyd i archwilio heriau cymhleth yn y byd go iawn.
Dr Vicky Johnson
'Mae Buried yn canolbwyntio ar gemegion modiwlau organig oedd wedi’u cynhyrchu’n ddiwydiannol’ eglura Daniel. ‘Digwyddodd y prif ddigwyddiadau halogi wrth iddynt gael eu cynhyrchu, ac yn y ffordd y cafodd y gwastraff o’u prosesu ei drin a gwaredu ar y pryd.
Nid yw cemegion yn ‘ddrwg’ yn eu hanfod, gyda sawl esiampl yn ein bywydau dyddiol lle maen nhw'n gwneud cyfraniad positif, fel moddion, colur, powdwr golchi a deunyddiau. Y ffordd y maen nhw wedi eu defnyddio, rheoli a’u gwaredu sy’n achosi’r problemau fel y rhai a gwelwn yn Buried.
‘Roedd fy rôl ar y rhaglen yn canolbwyntio ar adolygu’r dulliau a’r dehongliad o’r data arbrofol a gasglwyd, a sicrhau bod tystiolaeth i gefnogi’r casgliadau a wneir yn seiliedig ar y data hwn.’
Mae Dr Carl Boardman yn ddarlithydd mewn Gwyddorau Amgylcheddol ac Ynni. Mae ei gefndir fel gwyddonydd ymchwil rhyngddisgyblaethol, yn edrych ar effaith amgylcheddol gwastraff. Mae hyn yn cynnwys canolbwyntio ar sut y mae cynhyrchion plastig a deunyddiau carbon yn dadelfennu mewn gwahanol amgylcheddau, yn ogystal â meintoli allyriadau nwyon tŷ gwydr o ecosystemau naturiol.
.png)
‘Mae 'Buried – with Michael Sheen' yn archwilio sut y gall penderfyniadau amgylcheddol gael canlyniadau hirdymor ar fywydau, iechyd, ymdeimlad o hunaniaeth ac ymddiriedaeth pobl mewn sefydliadau cyhoeddus. Mae'r rhain yn faterion canolog ym meysydd Daearyddiaeth ac Astudiaethau Amgylcheddol, ac yn bynciau y mae llawer o'n myfyrwyr yn ymgysylltu â nhw drwy gydol eu hastudiaethau yn y Brifysgol Agored.’
-Dr Carl Boardman
BA (Anrhydedd) Daearyddiaeth
BA (Anrhydedd) Astudiaethau Amgylcheddol
BSc (Anrhydedd) Gwyddor Amgylcheddol
BSc (Anrhydedd) Gwyddorau Naturiol
MSc mewn Rheolaeth Amgylcheddol
Yn debyg iawn i Daniel, ei rôl ar Buried oedd cynnig cyngor academaidd ar y canfyddiadau, yn benodol y risg amgylcheddol hirdymor.
‘Mae cynghorwyr academaidd yno i sicrhau bod yr holl wybodaeth wyddonol a gyflwynir yn y rhaglen yn gywir, wedi’i chyfathrebu’n gyfrifol, ac yn ddealladwy i gynulleidfa anarbenigol’, eglurodd. ‘Ar gyfer Buried, gwnaethom sicrhau bod unrhyw hawliad gwyddonol a wnaed yn gymesurol ac yn seiliedig ar fethodoleg briodol.
‘Mae’r wyddoniaeth sy’n gysylltiedig â halogiad PCB wedi’i hen sefydlu, felly, roeddem yn canolbwyntio ar sicrhau bod tystiolaeth academaidd gyfredol i gefnogi honiadau a datganiadau, a’u bod yn cael eu cyfathrebu’n glir .’
‘Yr hyn a wnaeth y broses mor effeithiol oedd pa mor barod oedd y tîm cynhyrchu i dderbyn adborth adeiladol. Gwnaethom gydweithio i addasu ychydig o’r graffeg, tynhau esboniadau a sicrhau bod cysyniadau amgylcheddol cymhleth yn gywir ac yn hygyrch i wylwyr.’
‘Rwy’n meddwl bod Buried yn helpu cynulleidfaoedd i ddeall mai prin y mae problemau amgylcheddol yn bodoli ar eu pen eu hunain,’ meddai Dr Vicky Johnson, Pennaeth Adran Daearyddiaeth ac Astudiaethau Amgylcheddol y Brifysgol Agored. ‘Maent yn gysylltiedig â chwestiynau am ymddiriedaeth, llywodraethu, anghydraddoldeb a lles cymunedol. Gall gwylwyr weld sut y gall canlyniadau penderfyniadau amgylcheddol barhau i lunio bywydau pobl flynyddoedd lawer ar ôl i’r penderfyniadau hynny gael eu gwneud.’
'Mae Buried yn dangos sut y gall penderfyniadau i gefnogi bywoliaeth ac i ddisodli diwydiannau hanesyddol arwain at y twf economaidd a fwriadwyd ond heb o reidrwydd ystyried y canlyniad llawnach i bobl (preswylwyr, gweithwyr a chenedlaethau dilynol) a'u hamgylchedd.'
Canolbwyntiodd PhD Vicky ar werthuso ansawdd dŵr amgylcheddol mewn afonydd a systemau arfordirol, gan ystyried sut roedd pobl yn gwerthfawrogi hyn, a'r goblygiadau mewn perthynas â pholisi. Cyn y Brifysgol Agored, roedd ei gwaith yn cynnwys polisi a deddfwriaeth amgylcheddol a gwledig, ac yn fwy diweddar ers hynny mae wedi archwilio sut mae cymunedau a llunwyr polisi yn deall ac yn ymateb i heriau amgylcheddol.
‘Un o gryfderau’r Brifysgol Agored yw ei gallu i ddod ag arbenigedd o wahanol ddisgyblaethau ynghyd i archwilio heriau cymhleth yn y byd go iawn’, ychwanegodd. ‘Anaml y mae materion amgylcheddol yn wyddonol, yn gymdeithasol neu’n wleidyddol yn unig - fel arfer maent yn cyfuno’r holl bethau hyn ar unwaith’.’
Mae ymchwiliad Michael Sheen yn seiliedig ar ymgyrch 40 mlynedd gan y diweddar Douglas Gowan, a oedd wedi honni bod cemegau angheuol yn cael eu dympio’n anghyfreithlon ledled Cymru. Cafodd ymchwiliadau Douglas eu diystyru’n barhaus gan gawr cemegol a llywodraethau olynol, ond llwyddodd i drosglwyddo ei ganfyddiadau i Michael ddyddiau cyn ei farwolaeth.
Yn y rhaglen, mae Michael yn cydweithio â dau newyddiadurwr ymchwiliadol sy’n parhau ag etifeddiaeth Douglas, gan ymweld â safleoedd lle credir bod y cemegau wedi’u taflu, a phrofi am lygryddion. O ganlyniad, roedd sicrhau bod y prosesau a ddilynwyd yn gadarn yn wyddonol yn flaenoriaeth i dîm academaidd y Brifysgol Agored.
‘Un o’r adegau mwyaf cofiadwy o’r broses gynghori oedd pa mor hir y cymerodd i gael un graff yn gywir!’ cofia Carl. ‘Mae’n swnio’n ddinod, ond gall trosi data amgylcheddol cymhleth yn ddelwedd sy’n gywir yn wyddonol ac yn hawdd i’r cyhoedd ei ddeall fod yn heriol.’
‘Y foment fwyaf gwerth chweil oedd pan es i’r dangosiad cyn-ddarllediad BAFTA Cymru yng Nghaerdydd, gyda sesiwn holi ac ateb wedyn. Roedd gweld cymaint yr oedd ar y rhaglen wedi effeithio ar y gynulleidfa’n hynod bwerus. Roedd yna adegau yn ystod y dangosiad pan y gallech glywed ebychion o anghrediniaeth yn yr ystafell.’
I Vicky, mae Buried yn cynrychioli enghraifft o sut y gall gwahanol wybodaeth ac arbenigedd ddod ynghyd er lles y cyhoedd.
‘Mae’r rhaglen ddogfen yn cyfuno tystiolaeth wyddonol, newyddiaduriaeth ymchwiliadol a phersbectifau cymunedol i adrodd stori gymhleth mewn ffordd sy’n hygyrch i gynulleidfa eang,’ eglura. 'Os yw’r rhaglen ddogfen yn annog pobl i fyfyrio ar sut mae penderfyniadau amgylcheddol yn effeithio ar gymunedau dros amser, credaf ei bod wedi gwneud cyfraniad gwerthfawr.’
‘Bydd effeithiau a thraweffeithiau llygredd hanesyddol i’w teimlo am ddegawdau i ddod, ac mae’r digwyddiadau a gyflwynir yn Buried yn cynrychioli dim ond un o’r nifer di-rif o ddigwyddiadau tebyg eraill ym mhob cwr o’r byd,’ ychwanegodd Daniel. ‘Mae angen inni barhau i sicrhau bod pobl yn cael eu dwyn i gyfrif am gamgymeriadau’r gorffennol, a bod ein llywodraethau’n parhau i weithio i ddelio â’r digwyddiadau llygredd hanesyddol hyn yn rhagweithiol.’
Darllenwch am ein cymwysterau a’n cyrsiau drwy ofyn am brosbectws heddiw
Rhodri Davies
Uwch Reolwr Cyfathrebu
Ffôn: 029 21 674 532
Am ymholiadau cyfryngau cyffredinol Y Brifysgol Agored, cysylltwch â
swyddfa'r wasg
Ffôn: 01908 654316 /
Y tu allan i oriau swyddfa: 07901 515891
Yn y gyfres ddwy ran, mae’r actor clodwiw o Gymru, Michael Sheen yn archwilio honiadau am ‘gemegau am byth’ gwenwynig sydd wedi cael eu cuddio o dan y ddaear mewn gwahanol rannau o Gymru ers yr 1960au, gan beri poendod i genedlaethau o bobl leol.
Mae pobl ifanc yng Ngholeg Pen-y-bont ar Ogwr wedi datblygu hyder, sgiliau a syniadau newydd ar gyfer newid cymdeithasol, drwy brosiect ar y cyd a gyflwynwyd gan y Brifysgol Agored yng Nghymru a'i phartneriaid.