Ydych chi'n hyderus yn defnyddio'ch ffôn clyfar?

Person sy'n defnyddio ffôn clyfar

Heddiw, mae mwy o ffonau symudol yn y byd na phobl. Ac eto i lawer, mae technoleg yn dal i deimlo'n ddryslyd neu'n fygythiol. 

Mae'r Brifysgol Agored yng Nghymru wedi partneru ag Academi Rhwydweithio CISCO i gynhyrchu cwrs chwe awr, dwyieithog, am ddim i'ch helpu i feithrin yr hyder i ddefnyddio dyfeisiau digidol yn rhwydd.

Mae'r cwrs yn dechrau gyda'r hanfodion—deall cyfrifiaduron a dyfeisiau symudol, gan gynnwys caledwedd a systemau gweithredu, a meddalwedd bob dydd. Mae'n dysgu defnyddwyr sut i lawrlwytho a diweddaru apiau, cysylltu trwy Wi-Fi, data symudol, neu Bluetooth, a chadw dyfeisiau'n rhedeg yn esmwyth trwy reoli storfa a chof. Mae hefyd yn dangos sut i drin ffeiliau ar draws Windows, Android, a'r cwmwl, ynghyd ag dulliau pad trac a llygoden fel clicio, sweipio, a phinsio i chwyddo.

Mae'r cwrs ar agor i unrhyw un. Rydym wedi datblygu dolenni cofrestru penodol ar gyfer:

Dywedodd Samantha Forde, Rheolwr Partneriaethau yn y Brifysgol Agored yng Nghymru:

“Gyda fideos bywiog, gweithgareddau ymarferol, ac arweiniad clir a chefnogol, mae’r cwrs hwn yn addysgiadol ac yn hawdd ei ddefnyddio. Gall gwella llythrennedd yn y maes hwn ein helpu i aros mewn cysylltiad ag anwyliaid, parhau i ddysgu, a datgloi cyfleoedd newydd yn y gwaith.”

Gofynnwch am eich prosbectws

Darllenwch am ein cymwysterau a’n cyrsiau drwy ofyn am brosbectws heddiw

Gofyn am brosbectws

Rhodri Davies 
Uwch Reolwr Cyfathrebu
Ffôn: 029 21 674 532

Am ymholiadau cyfryngau cyffredinol Y Brifysgol Agored, cysylltwch â
swyddfa'r wasg
Ffôn: 01908 654316 /
Y tu allan i oriau swyddfa: 07901 515891

Stacey and Alice

Tu ôl i'r llenni gyda Llwybrau: llunio cynnydd o’r cychwyn cyntaf yn Rhondda Cynon Taf

Yn y sesiwn holi ac ateb hon, cawn glywed gan Stacey Pring, Rheolwr Partneriaethau, ac Alice Tetstall, Swyddog Prosiect, sydd yn dweud mwy wrthym am sut mae Llwybrau yn helpu pobl.

Jack yn hyfforddi pêl-droed gydag Iniesta

Cyn-fyfyriwr y Brifysgol Agored yn dysgu gan Iniesta

O hyfforddi ar lawr gwlad, i ddysgu gan Andrés Iniesta: rydym yn sgwrsio â myfyriwr graddedig y Brifysgol Agored sydd â stori anhygoel