Llwybr newydd ar gyfer gyrfa ym myd technoleg - mae gradd ddigidol wedi’i hailwampio yn cael ei datgelu yn ystod Wythnos Prentisiaethau Cymru

Person using a tablet

Mae’r Brifysgol Agored wedi cyhoeddi Prentisiaeth Gradd Ddigidol i Gymru. 

Mae’r rhaglen yn galluogi prentisiaethau i astudio ar gyfer BSc (Anrhydedd), gan ddatblygu arbenigedd mewn gwyddor data, rheoli diogelwch seiber neu beirianneg meddalwedd - a’r cyfan tra maent yn ennill cyflog gyda’u cyflogwr. 

Mae’r rhaglen newydd yn cymryd lle Prentisiaeth Gradd flaengar y Brifysgol Agored yng Nghymru mewn Peirianneg Meddalwedd Gymhwysol.

I gyflogwyr, gall y Brentisiaeth Gradd Ddigidol helpu i uwchsgilio staff presennol, neu ddwyn talent newydd i fynd i’r afael â bylchau penodol o safbwynt sgiliau. Mae llefydd ar y rhaglen wedi’u hariannu’n llawn gan Lywodraeth Cymru drwy Medr. 

'Mae Wythnos Prentisiaethau Cymru yn amser gwych i atgoffa pobl o’r cyfle anhygoel y gall prentisiaeth ei roi,' dywedodd Rebecca Falvey, Uwch Reolwr Sgiliau ac Arloesi yn y Brifysgol Agored yng Nghymru. 'Gallwch astudio am radd tra’n cael budd o brofiad yn y diwydiant a chyflog. Mae’r hyblygrwydd yma yn ganolog i’n Prentisiaeth Gradd Ddigidol, sydd wedi’i chynllunio er mwyn adlewyrchu diwydiant sy’n newid yn gyson, a rhoi’r sgiliau sydd eu hangen i brentisiaid er mwyn uwchsgilio wrth i dechnoleg newid.'

Gofynnwch am eich prosbectws

Darllenwch am ein cymwysterau a’n cyrsiau drwy ofyn am brosbectws heddiw

Gofyn am brosbectws

Rhodri Davies 
Uwch Reolwr Cyfathrebu
Ffôn: 029 21 674 532

Am ymholiadau cyfryngau cyffredinol Y Brifysgol Agored, cysylltwch â
swyddfa'r wasg
Ffôn: 01908 654316 /
Y tu allan i oriau swyddfa: 07901 515891

Stacey and Alice

Tu ôl i'r llenni gyda Llwybrau: llunio cynnydd o’r cychwyn cyntaf yn Rhondda Cynon Taf

Yn y sesiwn holi ac ateb hon, cawn glywed gan Stacey Pring, Rheolwr Partneriaethau, ac Alice Tetstall, Swyddog Prosiect, sydd yn dweud mwy wrthym am sut mae Llwybrau yn helpu pobl.

Jack yn hyfforddi pêl-droed gydag Iniesta

Cyn-fyfyriwr y Brifysgol Agored yn dysgu gan Iniesta

O hyfforddi ar lawr gwlad, i ddysgu gan Andrés Iniesta: rydym yn sgwrsio â myfyriwr graddedig y Brifysgol Agored sydd â stori anhygoel