Chwe pheth na fyddwch efallai’n eu gwybod am ofalwyr yng Nghymru

Person yn cofleidio plentyn

Ddydd Sadwrn 28 Mawrth 2026, bydd AP Cymru a’r Brifysgol Agored yng Nghymru yn lansio’r digwyddiad cymunedol Gofalu am Ofalwyr Cymru cyntaf erioed - diwrnod cyfan ar gyfer cefnogi gofalwyr plant niwrowahanol. Cynhelir y digwyddiad yng Nghanolfan Marion, Caerdydd rhwng 10am a 4pm, lle byddwn yn dod ag arbenigwyr, gwasanaethau, ac adnoddau ynghyd o dan un to, i roi’r cymorth ymarferol a’r gefnogaeth emosiynol y maent yn eu haeddu i ofalwyr.

 

Dyma chwe pheth na fyddwch efallai’n eu gwybod am ofalwyr yng Nghymru:

1. Cymru sydd â’r ganran uchaf o ofalwyr di-dâl yn y DU
Mae hyn yn oddeutu 12% ar hyn o bryd. Mae cyfanswm o 370,000 o ofalwyr di-dâl yng Nghymru.

2. Mae gofal di-dâl yng Nghymru a Lloegr werth oddeutu £184 biliwn
Amcangyfrifir bod gofal di-dâl yng Nghymru a Lloegr werth £184 biliwn y flwyddyn - mae hynny’n gyfwerth â chyllid blynyddol y GIG.

3. Mae dros hanner y gofalwyr di-dâl yn teimlo eu bod wedi’u llethu
Ym mis Chwefror 2025, roedd 57% o ofalwyr di-dâl yn adrodd eu bod yn teimlo wedi’u llethu yn aml neu bob amser.

4. Byddai 35% o ofalwyr yn disgrifio eu hiechyd meddwl fel ‘gwael’. Mae llawer o ofalwyr yn dweud bod eu lles dan straen
Mae gofalwyr dan lawer o bwysau. Mae 35% yn disgrifio eu hiechyd meddwl eu hunain fel ‘gwael’ neu ‘gwael iawn’. Byddai 25% arall yn dweud yr un peth am eu hiechyd corfforol.

5. Mae’r rhestr aros am ddiagnosis awtistiaeth yng Nghymru yn cynyddu
Ym mis Rhagfyr 2025, cyrhaeddodd y rhestr aros yng Nghymru am ddiagnosis awtistiaeth dair blynedd - ac mae'n parhau i gynyddu. Gall hyn effeithio’n uniongyrchol ar y gefnogaeth y mae teuluoedd yn ei derbyn.

6. Mae gofalwyr yn dweud eu bod wedi’u llethu oherwydd straen, gorflino, ac ansicrwydd
Mae gofalwyr yn aml yn adrodd eu bod yn cael trafferth gyda theimladau o straen, gorbryder ac unigedd. Gall hyn gael ei waethygu gan galedi ariannol, rhestrau aros hir i gael mynediad at wasanaethau allweddol, ac ansicrwydd ynghylch y dyfodol.

P’un a ydych yn ofalwr, yn weithiwr proffesiynol, neu’n rhywun sydd eisiau deall mwy am gefnogi teuluoedd niwrowahanol, mae’r digwyddiad hwn ar eich cyfer chi.

Dysgwch fwy yma.

Gofynnwch am eich prosbectws

Darllenwch am ein cymwysterau a’n cyrsiau drwy ofyn am brosbectws heddiw

Gofyn am brosbectws

Rhodri Davies 
Uwch Reolwr Cyfathrebu
Ffôn: 029 21 674 532

Am ymholiadau cyfryngau cyffredinol Y Brifysgol Agored, cysylltwch â
swyddfa'r wasg
Ffôn: 01908 654316 /
Y tu allan i oriau swyddfa: 07901 515891

Person yn cofleidio plentyn

Chwe pheth na fyddwch efallai’n eu gwybod am ofalwyr yng Nghymru

Ddydd Sadwrn 28 Mawrth 2026, bydd AP Cymru a’r Brifysgol Agored yng Nghymru yn lansio’r digwyddiad cymunedol Gofalu am Ofalwyr Cymru cyntaf erioed - diwrnod cyfan

Student taking notes with a laptop

Lansio Academi Newydd i Rymuso’r Genhedlaeth Nesaf i Ysgogi Newid yng Nghymru

Mae’r Brifysgol Agored yn partneru â Choleg Penybont, Swyddfa Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol, ac Unloc, i lansio Newid - Academi Ysgogi Newid Cenedlaethau'r Dyfodol.