Mae astudio gyda'r Brifysgol Agored yn rhoi mwy na chymhwyster i chi. Mae ein cyrsiau wedi'u cynllunio fel eich bod yn datblygu sgiliau trosglwyddadwy a rhinweddau sy'n cael eu gwerthfawrogi gan gyflogwyr.
Nid yw adeiladu eich cyflogadwyedd yn ymwneud â chael swydd yn unig. Mae'n ymwneud â meithrin eich hyder, sgiliau a rhinweddau i gyflawni'ch potensial. Gall hefyd eich helpu i gyflawni eich nodau personol, addysgol a’ch nodau gyrfa – sut bynnag yr ydych yn gweld hynny a beth bynnag fo'ch cefndir.
Gallwn eich helpu gyda hyn.
Cafodd Tom, myfyriwr o’r Brifysgol Agored, help gan ein tîm i ddod o hyd i leoliad yng Nghanolfan Materion Rhyngwladol Cymru. Clywch fwy am beth wnaeth e yno, a sut mae hyn wedi helpu ei gyflogadwyedd.
Os ydych yn fyfyriwr gyda'r Brifysgol Agored sy'n astudio yng Nghymru, gallech wneud cais am gymorth gan Cyflogadwyedd Cymru.
Byddwch yn cael hyfforddiant a mentora un i un pwrpasol gan gynghorydd cyflogadwyedd a all eich helpu gyda:
Gallwn hefyd eich helpu gyda chostau fel teithio i weithle, neu unrhyw gostau eraill a allai fod gennych.
Os hoffech chi gael sgwrs am eich nodau gyrfa a'ch sgiliau cyflogadwyedd, archebwch yn ein calendr am sgwrs 45 munud.
Fel arall, anfonwch e-bost atom i [email protected]. Edrychwn ymlaen at glywed gennych chi.
Mae Cyflogadwyedd Cymru wedi bod yn adnodd amhrisiadwy i mi! Nid yn unig y mae wedi fy helpu i nodi ble mae fy nghryfderau a pha feysydd y gallaf eu gwella, ond mae hefyd wedi fy helpu i sicrhau interniaeth gyffrous.
myfyriwr y Brifysgol Agored yng Nghymru
Graddiodd Mabel gyda gradd yn y Celfyddydau a'r Dyniaethau gyda'r Brifysgol Agored yng Nghymru. Wrth astudio, cwblhaodd brofiad gwaith Cyflogadwyedd Cymru gyda chwmni cyfryngau creadigol i ennill profiad proffesiynol a mewnwelediad i’r diwydiant ffilm.

Mae Gwasanaeth Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd (CES) y Brifysgol Agored yma i'ch cefnogi o'ch modiwl cyntaf hyd at dair blynedd ar ôl astudio.
Rydym bob amser yn ceisio eich helpu i gysylltu â chyflogwyr. Gydag interniaeth rithwir, byddwch yn gweithio ar-lein o gartref yn yr un ffordd ag y byddwch yn astudio. Yn union fel interniaeth wedi'i lleoli ar y safle, byddwch yn gweithio ar brosiectau a thasgau a roddir i chi gan gyflogwr ac yn cael sesiynau dal i fyny a chymorth rheolaidd ganddynt.
Cyflwyno interniaethau rhithwir i fyfyrwyr
Mae'r gerdd hon gan fyfyriwr Cyflogadwyedd Cymru, Louise Gardner, yn myfyrio ar ei phrofiad o'r rhaglen. Yma mae hi'n mynegi sut mae'r rhaglen yn helpu unigolion yng Nghymru i feithrin sgiliau, goresgyn amheuaeth, a symud ymlaen yn eu teithiau addysgol a gyrfaol.
Dychmygwch
Trwy'r Brifysgol Agored, mae drysau'n agor,
Dyfodol newydd a chraig fel angor,
I fod yn ni ein hunain, yn ddewr yn unfryd,
Calonnau gwydn sy'n perthyn o hyd,
Rydym yn ysgolheigion, o'r pedwar ban,
Wedi'n gyrru gan bwrpas, wedi'n tanio gan dan.
Hawlio'r hawl i ddilyn ein nod,
Torri'r gadwyn, troi y rhod,
Codi'r faich, rhyddhau pob pwyth,
A cherdded ymlaen, er gwaethaf y llwyth.
Alla i wneud hyn? Ydw i'n rhy hwyr?
Ydy hyn yn gamsyniad, neu'n ffawd llwyr?
Y chyn hir mae'r byd yn gweiddi,
Mae'r pryder yn codi ac mae'r amau'n treiddi,
Ond tro o gwmpas, rwyt ti'n rhan o griw,
Mae'r gefnogaeth yno, rwyt ti wrth y llyw.
Mae Cyflogadwyedd Cymru'n
codi'ch breuddwyd i'r nen,
Yn cefnogi myfyrwyr nes i'r
daith dod i ben.
Gan Louise Gardner a Harry Jenkins
Os ydych chi'n gyflogwr sydd angen rhywfaint o gymorth ychwanegol, siaradwch â ni i weld sut y gallai myfyriwr neu raddedig o'r Brifysgol Agored helpu eich sefydliad. Cysylltwch â ni ar [email protected].
Cymerwch olwg ar yr e-hwb cyflogadwyedd, adnodd ar-lein a grëwyd i'ch helpu i lywio eich taith gyrfa.

Darogan yw Hwb Graddedigion Cymru, yr unig blatfform pwrpasol ar gyfer gyrfaoedd graddedigion yng Nghymru.
Trwy ein platfform digidol, digwyddiadau a gwasanaethau eraill, rydym yn cysylltu talent addysgedig â gradd â chyflogwyr yng Nghymru.
Rydym yn gwybod bod Cymru yn lle gwych i fyw a gweithio. Ein cenhadaeth yw sicrhau bod pob myfyriwr a graddedig yn y wlad yn gwybod hyn hefyd. Dyma'r pwrpas sy'n ein gyrru fel sefydliad.
Darllenwch am ein cymwysterau a’n cyrsiau drwy ofyn am brosbectws heddiw