Y goeden deuluol yn ysbrydoli Hayley i raddio mewn hanes

Mae Hayley wedi ymddiddori mewn hanes erioed. Llwyddodd i gael graddau da yn yr ysgol ond roedd meddwl am fynd i'r brifysgol wir yn codi ofn arni.

Gofynnodd am gyngor ei gŵr ac ar ôl cael ei hannog ganddo, penderfynodd gychwyn gradd mewn hanes gyda’r Brifysgol Agored. Graddiodd yn gynharach eleni.

Pan oedd Hayley’n astudio ei choeden deuluol, ddarganfod bod fy nghyndeidiau yn enwog yn Sir Fynwy am gynhyrchu bwydydd pôb. Ymddiddorodd yn stori ei theulu a dyna beth wnaeth ei hysbrydoli i astudio hanes yn ehangach.

Roedd hyblygrwydd cwrs gradd Y Brifysgol Agored yn golygu y gallai Hayley gydbwyso'r amser rhwng y teulu a'i hastudiaethau, gan droi at ei llyfrau pan oedd ei phlant bach yn cysgu neu yn y feithrinfa. Roedd hyn yn caniatáu iddi drefnu ei gwaith a chwrdd â therfynau amser aseiniadau.

Mae astudio yn y Brifysgol Agored wedi newid fy agwedd at fywyd. Doeddwn i erioed wedi credu y gallwn i astudio yn y brifysgol ond bu'n agoriad llygaid i'r hyn y mae modd i mi ei gyflawni yn y dyfodol.

Hayley
myfyriwr graddedig y Brifysgol Agored

Roedd y deunyddiau addysgu a ddefnyddiwyd ar y cwrs yn ddefnyddiol i Hayley, gan gynnwys adnoddau ar-lein a llyfrau copi caled. Roedd y darlithoedd a’r seminarau ar-lein a recordiwyd hefyd yn caniatáu iddi ddal i fyny â’i gwaith pe bai angen.

Mae gan Hayley hefyd atgofion melys o'r tiwtoriaid o'r Brifysgol Agored y bu'n gweithio gyda nhw.

‘Gwnes i feithrin cydberthynas wych gyda'm tiwtoriaid a gwnaethant fy nghymell i wneud yn well yn ystod fy nghwrs,' meddai. 'Aethant yr ail filltir er mwyn fy helpu i a'r myfyrwyr eraill.’

Gofynnwch am eich prosbectws

Darllenwch am ein cymwysterau a’n cyrsiau drwy ofyn am brosbectws heddiw

Gofyn am brosbectws

Rhodri Davies 
Uwch Reolwr Cyfathrebu
Ffôn: 029 21 674 532

Am ymholiadau cyfryngau cyffredinol Y Brifysgol Agored, cysylltwch â
swyddfa'r wasg
Ffôn: 01908 654316 /
Y tu allan i oriau swyddfa: 07901 515891

Cydweithwyr o'r Brifysgol Agored mewn digwyddiad TUC Cymru

Y Brifysgol Agored ac undebau yn dod ynghyd i gefnogi dysgu gydol oes yng Nghymru

Mae’r Brifysgol Agored yng Nghymru a TUC Cymru wedi ffurfioli cytundeb partneriaeth i helpu rhagor o weithwyr ac aelodau undebau llafur i gymryd rhan mewn dysgu gydol oes.

Myfyrwyr yn ystod seremoni raddio'r Brifysgol Agored

Y Brifysgol Agored ar y brig yng Nghymru o ran boddhad myfyrwyr

Mae myfyrwyr ledled Cymru wedi rhestru'r Brifysgol Agored fel y brifysgol orau yng Nghymru o ran boddhad cyffredinol myfyrwyr.