Yn y Brifysgol Agored, nid rhoi mynediad i’n myfyrwyr at addysg uwch yw ein unig fwriad. Mae gwneud yn siŵr bod ganddyn nhw’r sgiliau a’r cyfleoedd gorau i ddechrau eu gyrfa wrth wraidd ein gwaith.
Dyma ddiweddariad ar rywfaint o’r gwaith y mae ein cynghorwyr cyflogadwyedd wedi ei wneud yn ddiweddar i baratoi ein myfyrwyr ar gyfer y byd gwaith.
Mae ein cynghorwyr yn canolbwyntio ar roi hyfforddiant un-i-un i’n myfyrwyr. Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf rydym wedi gallu darparu 152 o sesiynau mentora a hyfforddi. Mae ein cynghorwyr yn cefnogi myfyrwyr, a hynny o sgyrsiau dechreuol ynghylch y cymorth yr ydym yn ei gynnig, hyd at lunio cynllun gweithredu gyda nodau’r myfyrwyr.
'Mae’r cynghorwyr wedi bod yn gefnogol ac yn garedig iawn drwy’r amser,’ meddai Mabel, un o’n myfyrwyr. ‘Rwyf wedi cael y profiad gorau wrth weithio gyda nhw. Ar ôl astudio o bell, dyma oedd yn gymorth annisgwyl gwych ac rwy’n ffodus iawn fy mod wedi ei dderbyn.’
Mae TESS (Cymorth Cyflogadwyedd Targedig i Fyfyrwyr) yn rhaglen sydd wedi ei dylunio i helpu ein myfyrwyr gael cymorth personol am gyflogadwyedd a gyrfa. Mae’r gwasanaeth yn cael ei ariannu gan Medr, ac mae’n cynnig hyfforddiant a mentora un-i-un gan gynghorydd cyflogadwyedd a all helpu gyda chynllunio gyrfa, dechrau busnes, gwella CV a sgiliau cyfweliad.
Gall y gwasanaeth hefyd helpu i gysylltu ein myfyrwyr â chyflogwyr, dod o hyd i gyfleoedd am brofiad gwaith, a chyrchu gweithdai a digwyddiadau hyfforddiant.
Rydym yn gwybod y gall negeseuon e-bost fod yn llethol. Mae’n hawdd iawn i’n myfyrwyr golli allan ar y cymorth sydd ar gael iddyn nhw.
Felly, eleni, treialon ni ymgyrch post uniongyrchol er mwyn cyrraedd pobl sy’n byw mewn ardaloedd gwledig yng Nghymru. Anfonon ni gardiau post personol i hyrwyddo ein gwaith cyflogadwyedd a rhoi gwybod i’n myfyrwyr am y ffyrdd y gallwn eu cefnogi gyda dechrau eu gyrfa.
Mae ein modiwl datblygu sgiliau newydd yn helpu pobl i ganfod a diffinio sgiliau sydd ganddyn nhw’n barod. Er bod gan lawer o’n myfyrwyr ystod o brofiadau bywyd a gwaith, yn aml maen nhw’n ei chael hi’n anodd nodi’r sgiliau sydd ganddyn nhw a’u gwneud nhw’n berthnasol i gynllunio swyddi a cheisiadau am swyddi.
Mae’r modiwl wedi bod yn ddefnyddiol wrth arwain y sgyrsiau hyn a helpu ein myfyrwyr fyfyrio ar y sgiliau y maen nhw wedi eu hennill, gan eu galluogi nhw i feithrin eu cyflogadwyedd a’u hyder. Hyd yn hyn, mae 152 o fyfyrwyr y Brifysgol Agored yng Nghymru wedi defnyddio’r modiwl.
Rwy’n hoff iawn ohono oherwydd mae wedi gwneud imi feddwl am y sgiliau y rwyf wedi eu hennill.
Myfyriwr profi Cofnodwr Sgiliau’r Brifysgol Agored
Y llynedd, cynhalion ni ddwy raglen am wyth wythnos ochr yn ochr â Chanolfan Arloesi Menter Cymru, y ‘clybiau 5-9’. Bwriad y rhain oedd helpu myfyrwyr i ddatblygu eu syniad menter gymdeithasol a busnes. Roedd y gweithdai a’r sesiynau mentora yn cynnig cymorth o bob math - o frandio i ystyriaethau cyfreithiol.
Cafodd y gweithgaredd hwn ei ariannu’r rhannol gan TESS a Chronfa Arloesi Ymchwil Cymru (RWIF), gan ein galluogi ni i helpu 10 myfyriwr ac aelod graddedig yn y rhaglen gyntaf yr hydref diwethaf. Roedd eu hadborth am y sesiynau yn gadarnhaol.
‘Roedd y cwrs yn ddefnyddiol iawn,’ dywedodd un o’n myfyrwyr a gafodd gymorth TESS. 'Roedd gennyf ddiddordeb mawr mewn dechrau busnes ond roeddwn yn hollol ddi-glem ynghylch sut i wneud hynny oherwydd doeddwn i ddim yn gwybod fawr o ddim amdano. Rhoddodd y cwrs 5-9 y cynllun seicolegol ac ymarferol perffaith i ddechrau ar y broses. A gwych oedd cael gwneud hynny mewn man mor gefnogol, anogol a charedig.’
Mae ein mentrau cyflogadwyedd wedi cael blwyddyn werth chweil, ac rydym wedi helpu llawer o’n myfyrwyr i gymryd cam arall at ennill y swydd sy’n rhoi boddhad iddyn nhw.
Byddwn yn parhau â’r rhaglenni hyn, ac rydym yn bwriadu cefnogi hyd yn oed yn fwy o’n myfyrwyr a’n graddedigion i ddechrau eu gyrfa.
Darllenwch am ein cymwysterau a’n cyrsiau drwy ofyn am brosbectws heddiw
Rhodri Davies
Uwch Reolwr Cyfathrebu
Ffôn: 029 21 674 532
Am ymholiadau cyfryngau cyffredinol Y Brifysgol Agored, cysylltwch â
swyddfa'r wasg
Ffôn: 01908 654316 /
Y tu allan i oriau swyddfa: 07901 515891
Dyma ddiweddariad ar rywfaint o’r gwaith y mae ein cynghorwyr cyflogadwyedd wedi ei wneud yn ddiweddar i baratoi ein myfyrwyr ar gyfer y byd gwaith.
Milwr wedi ymddeol sy’n frwdfrydig dros hanes, a rhiant i bedwar sydd ar fin dechrau gradd Feistr mewn Adnoddau Dynol - dim ond dau o’r graddedigion gwnaethom eu cyfarfod heddiw.