Mae Dean Owens, 54, o Abertawe, wedi cwblhau gradd mewn Hanes o'r Brifysgol Agored, ar ôl ymddeol o yrfa 37 mlynedd yn y fyddin yn ddiweddar.
Mae ei swydd wedi mynd ag ef o amgylch y byd, ac unwaith chwblhaodd aseiniad y Brifysgol Agored mewn tymheredd -8°C hyd yn oed.
'Roeddem yng Ngwlad Pwyl ar genhadaeth NATO,' eglurodd Dean. 'Fel mae’n digwydd, tra oeddem ni allan yno, roedd gennyf aseiniad a oedd i fod i mewn yr wythnos honno. Roeddem yn cysgu mewn cwt. Roedd hi’n rhewllyd o oer, ac arhosais ar ddihun tan 2am yn gwisgo torsh ar fy mhen, yn gweithio i gwblhau'r dasg yn brydlon!'
Yn gynharach heddiw, ymunodd Dean â dros 600 o raddedigion eraill yn yr ICC yng Nghasnewydd, yn seremoni raddio'r Brifysgol Agored yng Nghymru.
Yn y seremonïau bore a phrynhawn, cerddodd myfyrwyr ar draws y llwyfan ICC i dderbyn eu graddau gan Is-Ganghellor y Brifysgol Agored, sydd newydd gael ei benodi, Yr Athro Dave Phoenix, a Chyfarwyddwr y Brifysgol Agored yng Nghymru, Ben Lewis.

Ochr yn ochr â Dean roedd Michaela Chaplin, 45, o Flaendulais, sydd ar fin dechrau gradd Meistr mewn Adnoddau Dynol gyda’r Brifysgol Agored. Graddiodd heddiw mewn Rheoli Busnes, ar ôl ymuno â’r Brifysgol Agored yn wreiddiol ar fodiwl mynediad.
Nid oedd Michaela erioed wir yn gwybod beth oedd hi eisiau ei wneud yn yr ysgol, ac ni chafodd ei hannog i astudio cymwysterau Safon Uwch. Nawr yn fam i bedwar, mae hi wedi trosglwyddo’r awydd i ddysgu ymlaen i’w phlant. Mae pob un o’r pedwar wedi mynd i’r brifysgol, gan gynnwys un ferch sy’n astudio am radd gyda’r Brifysgol Agored wrth weithio yn y DVLA yn Abertawe.
Mae Michaela bellach yn gweithio o adref i ddau gyngor cymuned mewn gwahanol rannau o Gymru.
‘Mae fy ngradd Rheoli Busnes wedi helpu’n fawr gyda hyn,’ meddai. ‘Gallaf ei gymhwyso i bethau fel marchnata digwyddiadau, rheoli cyllid, ac ysgrifennu adroddiadau. Mae hefyd wedi fy helpu i weithio gyda phobl eraill. Mae hynny’n rhywbeth y mae’n rhaid i mi ganolbwyntio arno yn fy swydd, yn enwedig o ran gweithio gyda thrigolion.’
Un arall a gafodd gydnabyddiaeth yn ystod seremoni’r bore oedd Alan Evans OBE, a dderbyniodd radd anrhydedd i gydnabod ei wasanaethau i addysg.
Fel pennaeth yr adran addysg yn Undeb Cenedlaethol yr Athrawon, ymgyrchodd Alan am arholiad cyffredin yn 16 oed, a helpodd i berswadio llywodraeth y DU i gyflwyno cymwysterau TGAU. Yn ystod ei yrfa, mae hefyd wedi eirioli dros welliant ysgolion a datblygiad proffesiynol parhaus i athrawon.
Yn 2015 dyfarnwyd OBE iddo am wasanaethau i Addysg.
'Wedi fy magu yn ardal doc Llanelli, cefais werthfawrogiad cynnar o'r doniau yn fy nghymuned,' meddai Alan. 'Roedd fy Nhad yn weithiwr gwaith dur ac roedd Mam yn gweithio yn ffreutur yr ysgol - gyda chydweithwyr galluog, medrus o amgylch y ddau ohonynt.'
Roeddwn wrth fy modd pan sefydlwyd y Brifysgol Agored yn 1969, gan roi statws a chydnabyddiaeth newydd i ddysgu gydol oes. Mae’n newid unigryw er lles y cyhoedd a chyfoethogiad personol.
Alan Evans, OBE Graddedig er anrhydedd
'Beth oedd ar goll oedd mynediad i addysg bellach ac uwch. Felly roeddwn wrth fy modd pan sefydlwyd y Brifysgol Agored yn 1969, gan roi statws a chydnabyddiaeth newydd i ddysgu gydol oes. Mae’n newid unigryw er lles y cyhoedd a chyfoethogiad personol.
'Yng Nghymru rydym yn sôn yn arbennig am y graddedigion TAR gan mai ni yw'r unig genedl y Brifysgol Agored sy'n cynnig y cwrs hwn.

Mae Michaela’n edrych ymlaen at ddechrau ei gradd Meistr gyda’r Brifysgol Agored.
'Mae tîm y Brifysgol Agored yn wych,' dywedodd. 'Mae’r tiwtoriaid yn arbennig, ac roedd y tîm cymorth yn wych yn fy helpu i ddewis modiwlau.'
Ar y llaw arall, mae Dean yn edrych ymlaen at dreulio amser gyda’i wraig Koren, sydd hefyd wedi cwblhau gradd Meistr mewn Iechyd y Cyhoedd drwy ei swydd yn y GIG yn ddiweddar.
'Awgrymodd Koren imi ymchwilio i wneud gradd Meistr mewn hanes nawr fy mod wedi ymddeol,' ychwanegodd Dean. 'Efallai - ond mwynhau seibiant amdani yn gyntaf!'
Darllenwch am ein cymwysterau a’n cyrsiau drwy ofyn am brosbectws heddiw
Rhodri Davies
Uwch Reolwr Cyfathrebu
Ffôn: 029 21 674 532
Am ymholiadau cyfryngau cyffredinol Y Brifysgol Agored, cysylltwch â
swyddfa'r wasg
Ffôn: 01908 654316 /
Y tu allan i oriau swyddfa: 07901 515891
Dyma ddiweddariad ar rywfaint o’r gwaith y mae ein cynghorwyr cyflogadwyedd wedi ei wneud yn ddiweddar i baratoi ein myfyrwyr ar gyfer y byd gwaith.
Milwr wedi ymddeol sy’n frwdfrydig dros hanes, a rhiant i bedwar sydd ar fin dechrau gradd Feistr mewn Adnoddau Dynol - dim ond dau o’r graddedigion gwnaethom eu cyfarfod heddiw.