Y Brifysgol Agored yng Nghymru yn ennill gwobr cyflogwr Womenspire 2022

Cyfarwyddwr y Brifysgol Agored yng Nghymru, Louise Casella yn derbyn y wobr Womenspire

Ddydd Iau 29 Medi, cyhoeddwyd mai'r Brifysgol Agored yng Nghymru oedd enillydd gwobr Cyflogwr Chwarae Teg yn Womenspire 2022.

Trefnir y seremoni flynyddol gan Chwarae Teg ac mae’n cydnabod llwyddiannau menywod ledled Cymru – yn eu gwaith ac yn eu bywydau personol. Cynhaliwyd y seremoni yn y Pierhead ym Mae Caerdydd, a chafodd ei ffrydio’n fyw i wylwyr adref. Dyma’r eildro mewn tair blynedd i’r Brifysgol Agored yng Nghymru ennill y wobr.

Wedi'i noddi gan Hodge Bank, mae gwobr Cyflogwr Chwarae Teg yn cydnabod sefydliadau sy'n gweithio tuag at gydraddoldeb rhywedd yn eu gweithleoedd. Wrth ddatgan Y Brifysgol Agored yng Nghymru fel enillydd eleni, dywedodd y beirniaid ‘Mae’r sefydliad yn gynhwysol, yn arloesol ac yn ymatebol, ac mae ymrwymiad i gydraddoldeb a thegwch wedi’i wreiddio ym mhopeth a wna’.

Rydym wedi parhau i hyrwyddo ein rhaglen fentora i staff. Ac nid yw honno’n rhaglen un-ffordd lle mae staff sefydledig yn cefnogi’r rhai sy’n datblygu yn eu gyrfaoedd; mae’n rhaglen sy’n cynnwys mentora o chwith – gwrando ar brofiad byw pobl eraill a dysgu ohono. Mae hyn wedi cyfoethogi meddwl ein rheolwyr a'n harweinwyr yn aruthrol, ac wedi helpu i feithrin talent ym mhob rhan o'r sefydliad.

Louise Casella
Cyfarwyddwr, Y Brifysgol Agored yng Nghymru

'Mae ennill Gwobr Cyflogwr Chwarae Teg yn gydnabyddiaeth wych o'r ymdrech barhaus a systematig rydym wedi'i hymroi i greu gweithle cynhwysol gyda chydraddoldeb a thegwch fel gwerthoedd craidd,' ychwanegodd Louise Casella, Cyfarwyddwr Y Brifysgol Agored yng Nghymru. ‘Dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf mae niferoedd einstaff wedi tyfu ochr yn ochr â nifer ein myfyrwyr ledled Cymru, ac fel pawb arall rydym wedi ceisio addasu i ffyrdd newydd o weithio. Er bod llawer o'r newidiadau hynny wedi'u gorfodi'n wreiddiol gan y pandemig, rydym wedi bod yn awyddus i ddysgu o'n profiadau, wedi croesawu mwy o hyblygrwydd o ran sut a ble mae pobl yn gweithio, ond rydym hefyd wedi cydnabod rhai o'r heriau a ddaw yn sgil y ffurf fwy gwasgaredig o weithio.

'Felly rydym wedi bod yn gwneud yn siŵr bod pobl yn teimlo eu bod yn cael eu cefnogi ac wedi'u cysylltu yn eu rolau trwy nifer o fentrau fel ein Coffi Chwilfrydig lle gall pobl gysylltu'n uniongyrchol ag unrhyw un arall yn y sefydliad, neu ein Cyfarfodydd Holl-Staff lle gall y tîm cyfan dod at ei gilydd a rhannu dysgu. Rydym hefyd wedi addasu ein holl arferion recriwtio ac anwytho i sicrhau eu bod mor gynhwysol â phosibl, ac wedi gwrando ar ein staff am yr hyn sydd ei angen arnynt a sut yr ydym yn eu cefnogi orau.

‘Ochr yn ochr â hyn, rydym wedi parhau i hyrwyddo ein rhaglen fentora i staff. Ac nid yw honno’n rhaglen un-ffordd lle mae staff sefydledig yn cefnogi’r rhai sy’n datblygu yn eu gyrfaoedd; mae’n rhaglen sy’n cynnwys mentora o chwith – gwrando ar brofiad byw pobl eraill a dysgu ohono. Mae hyn wedi cyfoethogi'n aruthrol penderfyniadau ein rheolwyr a'n harweinwyr, ac wedi helpu i feithrin talent ym mhob rhan o'r sefydliad.'

Yn ogystal ag ennill gwobr y cyflogwr, Y Brifysgol Agored yng Nghymru hefyd oedd noddwr y categori Dysgwyr, gwobr sy'n dathlu llwyddiannau anhygoel menywod sydd wedi newid eu bywydau trwy ddysgu.

 

Gofynnwch am eich prosbectws

Darllenwch am ein cymwysterau a’n cyrsiau drwy ofyn am brosbectws heddiw

Gofyn am brosbectws

Rhodri Davies 
Uwch Reolwr Cyfathrebu
Ffôn: 029 21 674 532

Am ymholiadau cyfryngau cyffredinol Y Brifysgol Agored, cysylltwch â
swyddfa'r wasg
Ffôn: 01908 654316 /
Y tu allan i oriau swyddfa: 07901 515891

 Dau berson yn siarad

Helpu ein myfyrwyr i ddechrau eu gyrfa

Dyma ddiweddariad ar rywfaint o’r gwaith y mae ein cynghorwyr cyflogadwyedd wedi ei wneud yn ddiweddar i baratoi ein myfyrwyr ar gyfer y byd gwaith.

Koren and Dean

Bron 600 o fyfyrwyr yn graddio yn seremoni Cymru y Brifysgol Agored

Milwr wedi ymddeol sy’n frwdfrydig dros hanes, a rhiant i bedwar sydd ar fin dechrau gradd Feistr mewn Adnoddau Dynol - dim ond dau o’r graddedigion gwnaethom eu cyfarfod heddiw.