Mae'r Brifysgol Agored yng Nghymru wedi croesawu cyhoeddiad gan Lywodraeth Cymru am fwy o gefnogaeth i athrawon dan hyfforddiant.
Mae’r cynlluniau’n cynnwys cymorth ariannol newydd i fyfyrwyr, gofynion mynediad mwy hyblyg, a chynnydd yn nifer y lleoedd blynyddol ar y llwybr tystysgrif addysg ôl-raddedig (TAR) cyflogedig o 120 i 160 yn 2023-24.
Ers 2020, mae’r brifysgol wedi cynnig TAR i raddedigion ledled Cymru. Mae myfyrwyr ar y rhaglen yn astudio'n rhan-amser, trwy gyfrwng y Gymraeg neu'r Saesneg, ac ar lefel gynradd neu uwchradd. Mae rhai myfyrwyr eisoes yn cael eu cyflogi mewn ysgolion partner, tra bod eraill yn gweithio mewn mannau eraill ac yn cymryd eu camau cyntaf i mewn i fyd addysg. Mae'r TAR yn arwain at statws athro cymwys (SAC).
‘Mae cyhoeddiad y llywodraeth yn newyddion gwych i’r proffesiwn addysgu yng Nghymru,’ meddai Sarah Stewart, Cyfarwyddwr rhaglen TAR y Brifysgol Agored yng Nghymru. ‘Bydd y cymhellion ychwanegol a’r lleoedd ychwanegol gwneud i’r proffesiwn dod yn fwy agored fwy o bobl – sy’n beth da i’n disgyblion, ysgolion a chymunedau.
‘Ers i’n cwrs TAR rhan-amser ddechrau, rydym wedi helpu cannoedd o fyfyrwyr i ddechrau eu taith addysgu, ac mae dros gant bellach yn gweithio fel athrawon mewn ysgolion ledled Cymru. Mae’r ffordd arloesol yr ydym yn addysgu yn golygu ein bod yn denu myfyrwyr o bob cefndir, gan gynnwys y rhai sy’n newid gyrfa ochr yn ochr â graddedigion diweddar. Yn ogystal â rhoi cyfle am yrfa gyffrous, mae hefyd yn dod â sgiliau a phrofiadau bywyd newydd i’r proffesiwn.’
Yn ystod seremoni raddio’r Brifysgol Agored yng Nghymru yn gynharach y mis hwn, bu graddio’r garfan gyntaf o fyfyrwyr TAR ers cyflwyno’r rhaglen.
Darllenwch am ein cymwysterau a’n cyrsiau drwy ofyn am brosbectws heddiw
Rhodri Davies
Uwch Reolwr Cyfathrebu
Ffôn: 029 21 674 532
Am ymholiadau cyfryngau cyffredinol Y Brifysgol Agored, cysylltwch â
swyddfa'r wasg
Ffôn: 01908 654316 /
Y tu allan i oriau swyddfa: 07901 515891
Ar 28 Chwefror bydd y Brifysgol Agored (OU) yng Nghymru yn cyd-gynnal yn y Siop Siarad yn y Coed Duon, ac eisiau clywed gan bobl ifanc (16-25).
Mae’r Brifysgol Agored yng Nghymru yn gweithio gydag Undeb Rygbi Cymru (WRU) i asesu effaith ehangach un o’i rhaglenni yn ysgolion Cymru.