Y Brifysgol Agored yn derbyn grant gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol i gysylltu cymunedau Cymreig â'u treftadaeth

The Open University in Wales logo and the Heritage Lottery Fund logo

Mae’r Brifysgol Agored wedi derbyn grant gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol i ddatblygu prosiect newydd cyffrous, REACH Cymru (Preswylwyr sy’n Ymwneud â’r Celfyddydau, Diwylliant a Threftadaeth - Residents Engaging in Arts, Culture and Heritage), mewn cymunedau ledled Cymru. Wedi’i wneud yn bosibl gan arian a godwyd gan chwaraewyr y Loteri Genedlaethol, bydd y rhaglen yn datblygu prosiect treftadaeth a’r celfyddydau creadigol, ac yn cefnogi pobl mewn pum ardal yng Nghymru i archwilio cysylltiadau gyda hanes eu hardaloedd a’u cymunedau lleol.

Bydd y prosiect yn cael ei ddatblygu ar gyfer y cymunedau hyn:

  • Pobl sy'n byw yn Butetown yng Nghaerdydd, un o gymunedau amlddiwylliannol hynaf y DU
  • Ardal Traethmelyn ym Mhort Talbot, tref sydd wedi bod wrth galon hanes diwydiannol Cymru
  • Sawl ardal lled-wledig ar draws Sir Benfro
  • Pobl ag anabledd dysgu sy'n byw yn Rhondda Cynon Taf, Caerdydd a Bro Morgannwg
  • Ardaloedd o Wynedd gyda chysylltiadau â chwarela a chloddio llechi

Gan weithio gyda phartneriaid lleol gan gynnwys arweinwyr cymunedol, cymdeithasau tai ac Amgueddfa Cymru – Museum Wales, bydd y Brifysgol Agored yn defnyddio’r grant i ddatblygu prosiect a fydd yn galluogi cyfranogwyr i ddysgu’n greadigol am yr hanesion sydd wedi llunio eu cymunedau. Tra bydd y prosiect yn cael ei gynllunio’n fanwl yn ystod y cyfnod datblygu, mae’n debygol o gynnwys ysgrifennu creadigol, cerddoriaeth a’r celfyddydau gweledol, yn ogystal â gweithdai hanes a theithiau treftadaeth.

Bydd REACH Cymru yn cysylltu pobl â’r dreftadaeth sy’n bwysig iddyn nhw, ac yn defnyddio doniau creadigol cyfranogwyr i arddangos lleoedd a chymunedau na chlywir eu lleisiau yn aml. Mae’r prosiect hwn yn ymwneud â dod â chymunedau ynghyd trwy dreftadaeth a’r celfyddydau creadigol, tra ar yr un pryd dysgu mwy am sut a pham mae’r gorffennol yn bwysig i bobl.

Dr Richard Marsden
Uwch-ddarlithydd mewn Hanes, y Brifysgol Agored yng Nghymru

Sefydliadau partner REACH Cymru yn llawn yw::

  • Amgueddfa Cymru – Museum Wales
  • Cymdeithas Tai Linc Cymru
  • Cymdeithas Tai Taf
  • Grŵp Ateb
  • Adra (Tai) Cyfyngedig
  • Cymdeithas Tai First Choice
  • Innovate Trust

Mae Cymru REACH yn estyniad cenedlaethol o raglen BG REACH y Brifysgol Agored yng Nghymru, (a ariennir gan URKI) a gefnogodd drigolion ym Mlaenau Gwent i archwilio eu hanes.

Diolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol, mae dros £30 miliwn yn mynd i achosion da ledled y DU bob wythnos.

Gofynnwch am eich prosbectws

Darllenwch am ein cymwysterau a’n cyrsiau drwy ofyn am brosbectws heddiw

Gofyn am brosbectws

Rhodri Davies 
Uwch Reolwr Cyfathrebu
Ffôn: 029 21 674 532

Am ymholiadau cyfryngau cyffredinol Y Brifysgol Agored, cysylltwch â
swyddfa'r wasg
Ffôn: 01908 654316 /
Y tu allan i oriau swyddfa: 07901 515891

Pobl yn siarad wrth fwrdd

Llenwi’r Bwlch: Diffyg Cysylltiad Rhwng Sgiliau Cyflogwyr a’r Genhedlaeth Z

Mae cyflogwyr yng Nghymru’n parhau i wynebu prinder sylweddol mewn sgiliau - ond mae adroddiad newydd gan y Brifysgol Agored yn datgelu bod pobl ifanc yn barod i ddysgu ac eisiau cyfrannu.

Dr Sabrina Cohen-Hatton

Dr-Sabrina Cohen Hatton yn traddodi darlith flynyddol Raymond Williams

Traddodwyd darlith Raymond Williams eleni gan gyn-fyfyriwr a graddedig er anrhydedd y Brifysgol Agored Dr Sabrina-Cohen Hatton.