Mae menter polisi cyhoeddus fawr, newydd, sef PolicyWISE, yn cael ei datblygu gan y Brifysgol Agored. PolicyWISE fydd y rhwydwaith cyntaf o academyddion a gweision sifil yn y DU i fynd i'r afael ag ymchwil cymharol i bolisi cyhoeddus a chyfnewid gwybodaeth ar draws pedair cenedl y DU ac Iwerddon.
Bydd gweithio ar draws y cenhedloedd yn galluogi PolicyWISE i weithredu dull cymharol bwriadol i greu polisïau cyhoeddus yn y DU ar ôl datganoli a Brexit.
Mae'r Brifysgol Agored wedi derbyn £1m o gyllid gan Dangoor Education i sefydlu PolicyWISE. Bydd yr arian yn cynorthwyo i lansio PolicyWISE yn 2023 a'i ddatblygu dros y pedair blynedd ganlynol.
Mae partneriaid o Brifysgol Caerdydd, Coleg y Drindod Dulyn, Prifysgol Queen's Belfast, Prifysgol Caeredin a Choleg Prifysgol Llundain yn rhan o'r gwaith o lywio'i ddatblygiad.
Rydym eisiau defnyddio'r cryfderau ar draws ein cenhedloedd i helpu i greu polisi cyhoeddus gwell sy'n gwneud gwahaniaeth go iawn i fywydau pobl ac i gymunedau.
Louise Casella
Cyfarwyddwr y Brifysgol Agored yng Nghymru
Mae cyfres gychwynnol o weithdai gyda llunwyr polisi, gweision sifil ac academyddion ar draws y cenhedloedd eisoes wedi archwilio'r gwahaniaethau a'r tebygrwydd mewn polisi cyhoeddus ar draws themâu megis trais yn erbyn menywod a merched; iechyd meddwl; anghydraddoldeb addysgol yn dilyn Covid; iechyd plant a phobl ifanc a sero net.
'Bydd PolicyWISE yn dod â llunwyr polisi a dylanwadwyr polisi o bedair cenedl y DU ac Iwerddon ynghyd i archwilio heriau cymdeithasol allweddol ar ôl datganoli a Brexit,' meddai Tim Blackman, Is-ganghellor y Brifysgol Agored. 'Wrth i greu polisi cyhoeddus ddod yn fwy amrywiol, bydd PolicyWISE yn rhoi cyfle i bobl gasglu eu dealltwriaethau, y prif bethau a ddysgwyd a'r arferion gorau ar draws y cenhedloedd.'
Mae PolicyWISE yn datblygu o strategaeth ymchwil y Brifysgol Agored hefyd – gan ganolbwyntio ar fynd i'r afael â heriau cymdeithasol lleol a byd-eang, drwy ddylanwadu ar ddeilliannau sy'n cael effaith wirioneddol, a'u llywio.
'Rydym wrth ein bodd o dderbyn arian sylweddol gan Dangoor Education sy'n cydnabod potensial cyffrous PolicyWISE a phrofiad pedair cenedl yr OU i ddarparu dealltwriaethau cymharol,' ychwanegodd Louise Casella, Cyfarwyddwr y Brifysgol Agored yng Nghymru, sydd wedi arwain datblygiad PolicyWISE.
'Gan ein bod yn brifysgol unigryw sy'n gweithredu mewn pedair cenedl, ac yn Iwerddon hefyd, rydym mewn sefyllfa dda i weithredu fel cyswllt ar gyfer y fenter hon a dod â phartneriaid ynghyd i ddarparu dealltwriaethau cymharol. Rydym eisiau defnyddio'r cryfderau ar draws ein cenhedloedd i helpu i greu polisi cyhoeddus gwell sy'n gwneud gwahaniaeth go iawn i fywydau pobl ac i gymunedau.'
Explore our qualifications and courses by requesting one of our prospectuses today.
Rhodri Davies
Senior Communications Manager,
Telephone: 029 2167 4532
For general OU media enquiries please contact the press office -
Telephone: 01908 654316 /
Out of office hours: 07901 515891
Bydd llyfr newydd a gynhyrchwyd gan grŵp o academyddion y Brifysgol Agored yn archwilio sut y gall prifysgolion gefnogi myfyrwyr i ddefnyddio technoleg newydd, ac ymdopi â'r heriau a ddaw yn sgil deallusrwydd artiffisial i addysg uwch.
Ers cyfnod disgiau hyblyg ac argraffwyr dot-matrix, mae cenedlaethau o bobl wedi creu gyrfa ym maes datblygu meddalwedd.