Sut mae ymchwilio awyrfeini’n helpu i gefnogi Wisgi Cymreig

Dr Geraint Morgan a staff In The Welsh Wind o flaen y ddistyllfa

Distyllfa yn Nhanygroes, Ceredigion, yw In the Welsh Wind. Mae’n cynhyrchu jins, wisgis, a gwirodydd eraill gan ddefnyddio cynhwysion lleol, lle’n bosib. Bu i’w perthynas â’r Brifysgol Agored ddechrau wedi i Dr Geraint Morgan ddigwydd ymweld â’r ddistyllfa gyda'i rieni, sy'n byw yn Aberystwyth., 

‘Mae gennyf gefndir yng ngwyddor y gofod’, eglura Dr Morgan o Ysgol Gwyddorau Ffisegol y Brifysgol Agored. ‘Mae’r Brifysgol Agored wedi buddsoddi mewn offer o’r radd flaenaf er mwyn nodweddu cerrig o’r gofod ac awyrfeini, a gallwn roi’r un technegau ar waith gydag wisgi.

Mae’r Brifysgol Agored wedi buddsoddi mewn offer o’r radd flaenaf er mwyn nodweddu cerrig o’r gofod ac awyrfeini, a gallwn roi’r un technegau ar waith gydag wisgi.

Dr Geraint Morgan

‘Mae wisgi yn beth cymhleth iawn – mae ganddo gannoedd o gyfansoddion. Gallwn wahanu’r cyfansoddion hynny oll, a’u dadansoddi er mwyn deall faint o bob cyfansoddyn sy’n bresennol. Gallwn edrych ar y broses unigryw y mae In the Welsh Wind yn ei ddefnyddio, a dweud wrthynt pa wahaniaeth mae’n ei wneud.’

Gan ddefnyddio cromatograffeg nwy- sbectrometreg màs a meddalwedd arbenigol, mae’r tîm wedi llwyddo i adnabod a meintioli mewn sypiau wisgi, a mesur sut caiff y rhain eu heffeithio gan newidiadau sy’n ymwneud â thymheredd, prosesau, a chynhwysion. 

‘Mae posib i ni wneud defnydd o’r canlyniadau hyn mewn sawl ffordd’, meddai Ellen Wakelam, Perchennog a Chyfarwyddwr In the Welsh Wind. ‘Byddant yn ein cynorthwyo i ganfod pa gytrasau a gynhyrchir yn ein gwirodydd terfynol, ac yn ein helpu i fireinio ein gweithdrefnau er mwyn datblygu proffil ein persawr arbennig.

‘Dylai’r canlyniadau ein helpu i gynhyrchu proffiliau persawr gwahanol ar gyfer y mathau gwahanol o wirodydd a gynhyrchwyd gennym, wrth i ni ddatblygu a thyfu fel distyllfa. Byddwn hefyd yn gallu archwilio i dystiolaeth o bresenoldeb ‘terroir’ yn ein hwisgi, gan fod tarddiad ein haidd Cymreig yn rhan bwysig o’n stori a’n pwyntiau gwerthu unigryw yng Nghymru’.

Statws arbennig ar gyfer wisgi brag sengl Cymreig

Ers dechrau gweithio gyda’r Brifysgol Agored, mae In the Welsh Wind wedi parhau i dyfu ei phroffil fel distyllfa Gymreig, a chyflogwr lleol pwysig. Derbyniodd y cynnyrch hwb ychwanegol ar ddechrau’r mis diwethaf, wrth i wisgi brag sengl Cymreig dderbyn statws Dynodiad Daearyddol y DU (UK GI).

Gofynnwch am eich prosbectws

Darllenwch am ein cymwysterau a’n cyrsiau drwy ofyn am brosbectws heddiw

Gofyn am brosbectws

Rhodri Davies 
Uwch Reolwr Cyfathrebu
Ffôn: 029 21 674 532

Am ymholiadau cyfryngau cyffredinol Y Brifysgol Agored, cysylltwch â
swyddfa'r wasg
Ffôn: 01908 654316 /
Y tu allan i oriau swyddfa: 07901 515891

Person sy'n defnyddio ffôn clyfar

Ydych chi'n hyderus yn defnyddio'ch ffôn clyfar?

Heddiw, mae mwy o ffonau symudol yn y byd na phobl. Ac eto i lawer, mae technoleg yn dal i deimlo'n ddryslyd neu'n fygythiol.

Ben Lewis

Ben Lewis yn cael ei henwi fel Cymrawd Cymdeithas Ddysgedig Cymru

Mae Cymdeithas Ddysgedig Cymru wedi enwi Ben Lewis, ein Pennaeth a Chyfarwyddwr Cenedlaethol yma yn y Brifysgol Agored yng Nghymru, ymhlith ei Chymrodyr newydd.