Staff a myfyrwyr y Brifysgol Agored yn rhannu awgrymiadau ardderchog ynglŷn ag arian

Pound symbol

Tasg braidd yn anodd yw siarad am arian. Dyna pam y mae’r Gwasanaeth Arian a Phensiynau yn annog pawb i drafod eu cyllid personol yn fwy agored yn ystod wythnos gyntaf mis Tachwedd. Mae’r Wythnos Siarad Arian yn gyfle gwych i danio sgyrsiau am arian gyda’ch cydfyfyrwyr, eich cydweithwyr, eich teulu a’ch cyfeillion.

Trwy drafod arian yn ein bywydau beunyddiol, gallwn fagu’r hyder a’r gwytnwch angenrheidiol i wynebu beth bynnag a ddaw i’n rhan yn y dyfodol.

Thema’r wythnos Wythnos Siarad Arian eleni yw ‘gwnewch un peth’. Tybed beth allai wella eich llesiant ariannol chi? Mae gan staff a myfyrwyr y Brifysgol Agored yng Nghymru syniadau gwych i’ch rhoi ar ben ffordd:

Cofrestrwch i gael cylchlythyr Money Saving Expert. Mae’n anhygoel. Hefyd, rydw i’n argymell Academi Arian MSE, sef cwrs rhad ac am ddim gan y Brifysgol Agored a Money Saving Expert.

Cadwch olwg am elusennau ac ymddiriedolaethau a all gynnig arian grant i bobl sy’n wynebu caledi. Gweler Family Action a Turn2us.”

Cadwch olwg am apiau bwyd rhad neu am ddim fel Olio a Too good to go.

Mae gan Money Helper gyfrifianellau gwych ac adnoddau eraill a all eich helpu i fynd i’r afael â sefyllfaoedd neu broblemau cyffredin yn ymwneud ag arian.

Martin Lewis yn sôn am cwrs OpenLearn Academi Arian MSE

 

Mae’n syniad da prynu llwyth mawr o fwyd anifeiliaid – bydd hyn yn arbed arian yn y pen draw. Os ydych yn cael trafferthion mawr, mae’r fath beth â banciau bwyd anifeiliaid yn bodoli.

Rydw i’n nodi fy alldaliadau a’m biliau hanfodol ar ddu a gwyn ac yn trefnu i’r taliadau hyn adael fy nghyfrif ar ôl imi gael tâl, felly rydw i’n gwybod faint o arian sydd gennyf ar ôl ar gyfer gweddill y mis.

Prynwch fwydydd mewn amlbecynnau – yna, gallwch eu hollti, eu rhewi a’u dadmer pan fo angen (neu gallwch ferwi llysiau heb eu dadmer). Y cynhwysion gorau yw cynhwysion y gallwch eu defnyddio mewn llawer o wahanol ryseitiau, fel nionod, pupurau, madarch, cyw iâr, ysbigoglys a chennin! Bydd hyn yn helpu i arbed arian a lleihau gwastraff. Gweler yr arweiniad hwn ar rewi bwyd gan BBC Good Food.

Os ydych yn cael anhawster i gynilo neu os nad ydych yn gwybod ble i ddechrau, efallai y gallai apiau ‘cynilo awtomatig’ eich helpu. Darllenwch yr erthygl hon gan Money Saving Expert i weld sut y maent yn gweithio a pha rai i’w dewis.

 

Podlediad Sgwrsio am Brifysgol, Pennod 4: A alla’ i fforddio mynd i’r brifysgol?

 

Mae plant yn tyfu trwy’u dillad yn gyflym, felly prynwch ddillad ail law. Mae yna lawer o wefannau ac apiau fel Vinted lle gallwch brynu bwndeli o ddillad plant. Mae’n arbed llawer iawn o arian. Hefyd, holwch a oes gan ysgol eich plentyn neu’r Gymdeithas Rhieni ac Athrawon siop cyfnewid dillad ysgol.

Gwaith hawdd iawn yw gwneud toes pizza – gall un bag mawr o flawd cryf wneud wyth pizza!

Mae cael gwahanol ‘gyfrifon’ neu ‘botiau’ ar gyfer gwahanol bethau yn ddefnyddiol. Gall hyn eich helpu i gadw trefn ar yr arian a wariwch ar bethau fel bwyd a phetrol.

Cynlluniwch eich prydau ar gyfer yr wythnos. Gwnewch restr siopa cyn mynd i’r siop a cheisiwch gadw at y pethau sydd ar y rhestr.

 

A ydych yn un o fyfyrwyr y Brifysgol Agored neu’n ystyried astudio gyda ni?

Mae gan Einir England, Uwch-reolwr ar gyfer Ffioedd a Chyllid yng Nghymru, chwe awgrym a all eich helpu gyda’ch llesiant ariannol.

1. Gwnewch yn siŵr eich bod yn gwneud cais am yr holl gyllid y mae gennych hawl i’w gael.
Os ydych yn fyfyriwr sy’n byw yng Nghymru, cyn ichi ddechrau modiwl cyntaf eich cymhwyster, fe allech fod yn gymwys i gael arian gan Cyllid Myfyrwyr Cymru tuag at ffioedd a chostau byw. Hefyd, mae cymorth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr â dibynyddion.
2. Os oes gennych anabledd, gwnewch gais am Lwfans i Fyfyrwyr Anabl.
Dyma gymorth ychwanegol gan Cyllid Myfyrwyr Cymru, ar ben yr arian arall a gewch, a gallwch ei ddefnyddio i dalu costau sy’n gysylltiedig ag astudio, fel cyfarpar, cymorth anfeddygol, llungopïo ac argraffu.
3. Gwnewch yn fawr o ostyngiadau i fyfyrwyr.
Cofiwch holi a oes modd ichi gael gostyngiad gan eich bod yn fyfyriwr. Gallwch gael ychwaneg o ostyngiadau trwy gael cerdyn TOTUM neu trwy ymuno ag UNIdays a Student Beans.
4. Gwnewch yn fawr o adnoddau am ddim sydd ar gael yn y Brifysgol Agored.
Er enghraifft, gallwch gofrestru ar gwrs Academi Arian MSE ar OpenLearn, fel y nodir uchod, neu beth am ddarganfod cyrsiau rhad ac am ddim eraill fel Managing my money for young adults.
5. Siaradwch â rhywun.
Gall pryderon ariannol gael effaith fawr ar ein hiechyd meddwl a’n llesiant cyffredinol. Os ydych yn teimlo’n isel, efallai y bydd hi’n anos ichi reoli eich materion ariannol. Mae Mind yn cynnig awgrymiadau ymarferol yn ymwneud â rheoli eich arian a gwella eich iechyd meddwl
6. Cofiwch gysylltu os yw eich pryderon ariannol yn effeithio ar eich astudiaethau.
Os oes gennych bryderon ariannol, cysylltwch â’n Tîm Recriwtio a Chefnogi Myfyrwyr i drafod eich opsiynau astudio.

Gofynnwch am eich prosbectws

Darllenwch am ein cymwysterau a’n cyrsiau drwy ofyn am brosbectws heddiw

Gofyn am brosbectws

Rhodri Davies 
Uwch Reolwr Cyfathrebu
Ffôn: 029 21 674 532

Am ymholiadau cyfryngau cyffredinol Y Brifysgol Agored, cysylltwch â
swyddfa'r wasg
Ffôn: 01908 654316 /
Y tu allan i oriau swyddfa: 07901 515891

Stacey and Alice

Tu ôl i'r llenni gyda Llwybrau: llunio cynnydd o’r cychwyn cyntaf yn Rhondda Cynon Taf

Yn y sesiwn holi ac ateb hon, cawn glywed gan Stacey Pring, Rheolwr Partneriaethau, ac Alice Tetstall, Swyddog Prosiect, sydd yn dweud mwy wrthym am sut mae Llwybrau yn helpu pobl.

Jack yn hyfforddi pêl-droed gydag Iniesta

Cyn-fyfyriwr y Brifysgol Agored yn dysgu gan Iniesta

O hyfforddi ar lawr gwlad, i ddysgu gan Andrés Iniesta: rydym yn sgwrsio â myfyriwr graddedig y Brifysgol Agored sydd â stori anhygoel